Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 1 Mai 2019.
Wrth gwrs, oherwydd y diffyg mewn niferoedd meddygon teulu yn y gogledd, mae mwy a mwy o feddygfeydd wedi bod yn mynd i mewn i reolaeth uniongyrchol gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Felly, gaf i ofyn a ydy Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad neu unrhyw astudiaeth yn cymharu gwasanaethau gan y meddygfeydd hynny o'u cymharu, wrth gwrs, â'r model o bractisys mwy traddodiadol?