Amseroedd Aros Ysbytai yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:51, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Er bod y bwrdd iechyd wedi gwella ei berfformiad 36 wythnos 3 y cant rhwng mis Chwefror y llynedd ac eleni, rwy'n siomedig ynglŷn â nifer y bobl sy'n dal i aros yn rhy hir. Rwyf wedi datgan fy nisgwyliadau yn glir i'r bwrdd iechyd, ac rwy'n disgwyl gweld gwelliannau pellach o ran amseroedd aros cyn diwedd eleni ac i mewn i'r flwyddyn nesaf. Er mwyn cynorthwyo hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i helpu i gyflawni'r gwelliant hwnnw yn y perfformiad.