Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:43, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod 100,000 o apwyntiadau cleifion offthalmoleg wedi'u canslo yn y blynyddoedd 2017-18, yn aml heb fawr o rybudd, ac roedd y ffigur hwnnw'n gynnydd o 5.5 y cant ar ddwy flynedd ynghynt. Roedd 35,000 o bobl wedi bod yn aros ddwywaith mor hir ag y dylent am apwyntiad dilynol ym mis Rhagfyr 2018, i fyny o 15,000 ym mis Ebrill 2015. Dengys y ffigurau diweddaraf y gallais ddod o hyd iddynt fod 48 o bobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth yng Nghymru. Roedd hynny yn ôl yn 2014 mewn adroddiad gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall. Onid yw'n warth fod unrhyw unigolyn yng Nghymru yn mynd yn ddall wrth aros am driniaeth gan y GIG?