2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 1 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch. Y llynedd, diswyddwyd 76 o feddygon gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a diswyddwyd 257 o unigolion gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan yr ystyrid nad oeddent bellach yn addas i ymarfer yn y gwasanaeth iechyd ar draws y DU. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn iawn fod gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth iechyd yn atebol am gamymddwyn a chamymddygiad difrifol. A yw'r Gweinidog yn credu y dylid gwneud rheolwyr yn y gwasanaeth iechyd yn atebol hefyd, ac os felly, a all ddweud wrth y Siambr hon faint o uwch reolwyr neu aelodau byrddau yn y GIG yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i fethiannau yn y gwasanaeth neu gamreoli ers 2016?
Wel, wrth gwrs, mae'r Aelod yn ymwybodol nad yw nifer y staff sydd wedi gadael y gwasanaeth iechyd o swyddi rheoli ers 2016 gennyf wrth law. Mae'n werth cofio, fel y dywedais ddoe pan wnaed pwynt tebyg, fod nifer o reolwyr ac arweinwyr gwasanaethau yn y gwasanaeth iechyd yn glinigwyr cofrestredig hefyd wrth gwrs a bod ganddynt ddyletswyddau proffesiynol yn ogystal. Felly, byddai angen i chi edrych ar y bobl sydd â chyfrifoldebau proffesiynol yn ogystal â'u cyfrifoldebau fel rheolwyr. Mae hyn yn ymwneud â'r pwynt ehangach am arweinyddiaeth, llywodraethu ac atebolrwydd ym mhob un o'r sefydliadau GIG hynny.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn deall, ar ôl datganiad ddoe, fod materion sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth ac atebolrwydd yn peri cryn bryder i'r Aelodau yn y Siambr hon. A all y Gweinidog esbonio wrthym pam ei fod wedi cadw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ers tua phedair blynedd a pham, yn ôl pob golwg, nad ydym wedi gweld unrhyw newid ar ôl yr ymyrraeth hirfaith hon? A all ddweud pam, os dychwelwn at sefyllfa Cwm Taf, fod wyth adroddiad wedi bod dros chwe blynedd heb i unrhyw un o'r adroddiadau hynny sbarduno'r newid oedd ei angen yn amlwg, a bod mamau a babanod wedi parhau i gael cam a rhai ohonynt wedi'u niweidio'n ddifrifol? A all y Gweinidog esbonio i'r Siambr hon pam y dylai teuluoedd yn ardal Cwm Taf ymddiried ynddo ef, ei swyddogion a'r mesurau y maent wedi'u rhoi ar waith i roi trefn ar y system yng Nghwm Taf, o gofio ei fod wedi methu ymateb i unrhyw un o'r wyth adroddiad dros y chwe blynedd ar ôl i'r pryderon cyntaf gael eu mynegi, ac o gofio hefyd nad yw'r problemau yn Betsi Cadwaladr yn agos at gael eu datrys ar ôl pedair blynedd?
Credaf fod tri chwestiwn penodol yn y fan honno, Lywydd, ac mae'r cyntaf yn ymwneud â—[Torri ar draws.] Mae'r cyntaf yn ymwneud â mesurau arbennig yng ngogledd Cymru, ac wrth gwrs, mae'n ffeithiol anghywir dweud nad oes unrhyw gynnydd wedi bod. Er enghraifft, un o'r prif faterion a olygodd fod Betsi Cadwaladr wedi'u rhoi mewn mesurau arbennig oedd heriau yn eu gwasanaethau mamolaeth, ac maent wedi dod allan o fesurau arbennig oherwydd eu bod wedi gwneud gwelliannau real a pharhaus, am fod y camau a gymerwyd gennym, gan gynnwys arweinyddiaeth newydd o fewn y gwasanaeth bydwreigiaeth a newid diwylliant ar draws y gwasanaeth cyfan, wedi gwneud gwahaniaeth. Mae hefyd yn wir, er enghraifft, fod y gwasanaeth y tu allan i oriau yng ngogledd Cymru wedi dod allan o fesurau arbennig fel testun pryder. Ceir pryderon o hyd, a dyna pam fod y bwrdd iechyd hwnnw'n parhau i fod yn destun mesurau arbennig, oherwydd rwy'n benderfynol o sicrhau y ceir cynnydd gwirioneddol yn hytrach na bod yn ddyfais artiffisial i wleidydd ei defnyddio.
O ran Cwm Taf, fel yr eglurwyd yn glir ddoe yn y datganiad ac wrth ateb cwestiynau amdano, nid oedd difrifoldeb a dyfnder y pryderon yn amlwg o'r adroddiadau blaenorol hynny, a dyna pam na chymerwyd camau hyd nes i mi gomisiynu adolygiad ar y cyd gan y colegau brenhinol ym mis Hydref y llynedd. Mae rhan o'r pryder yn ymwneud â pham nad arweiniodd ffactorau eraill, yn enwedig arwyddion o bryderon a chwynion eraill, at newid diwylliant ac ymarfer o fewn y bwrdd iechyd ar y pryd. Dyna pam y cymerais y camau a amlinellais yn fanwl ddoe yn ysgrifenedig ac yn y datganiad llafar.
Ac o ran yr hyder a ddylai fod gan y cyhoedd a'r staff, rhan allweddol o hynny yw'r gwaith y bydd nid yn unig ein rheoleiddwyr annibynnol yn ei wneud, ond y grŵp goruchwylio annibynnol rwyf wedi'i benodi, gyda chlinigwyr annibynnol, i oruchwylio'r 43 digwyddiad difrifol ac i edrych yn ôl hyd at 2010. Byddaf yn cyfarfod yn uniongyrchol â theuluoedd dros y pythefnos nesaf, yn ogystal â staff, i glywed yn uniongyrchol ganddynt, ynghyd â Mick Giannasi, ynglŷn â'u pryderon ac i ddeall sut y gallwn helpu i ail-feithrin hyder yn y gwasanaeth gan fod yn rhaid iddo wella, ac yn sicr, mae angen iddo newid yn sylweddol.
Wel, rwy'n siŵr, Lywydd, y bydd y Siambr hon braidd yn bryderus nad oedd y Gweinidog a'i swyddogion, ar ôl wyth adroddiad dros chwe blynedd, wedi sylwi ar ddifrifoldeb y sefyllfa hon. Clywsom dystiolaethau unigol yn y Siambr hon a awgrymai fod y pryderon hynny, mewn gwirionedd, yn dyddio'n ôl ymhellach o lawer na'r adroddiad cyntaf y cyfeiriaf ato yn 2012. Rwy'n bryderus dros ben, Lywydd, fod hyn yn awgrymu bod gennym Weinidog nad oes ganddo afael ar y system. Wyth adroddiad dros chwe blynedd, ac ni wnaed unrhyw beth nes i chi alw am yr adroddiad flynyddoedd yn ôl.
Rwy'n ceisio osgoi cyffrogarwch yn y Siambr, ond yn ystod y blynyddoedd hynny, bu farw plant, cafodd mamau eu trawmateiddio a chafodd teuluoedd eu trawmateiddio. Mae'n rhaid i mi ofyn i'r Gweinidog pam y credwch y dylem fod yn dawel ein meddyliau bellach y bydd ef a'i swyddogion yn gallu bwrw iddi'n effeithiol ar y materion hyn ar ôl methu gwneud hynny dros y cyfnod hwnnw o flynyddoedd.
Tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno ag Owen Smith AS sy'n dweud yn y Western Mail heddiw nad yw Llywodraeth Cymru yn rhydd o fai am y methiannau yng Nghwm Taf. Tybed a yw'r Gweinidog yn deall bod llawer o bobl yn pryderu ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos yn ymateb hunanfodlon ganddo. Cefais fy syfrdanu, er enghraifft, wrth ei glywed ddoe yn gwrthod goblygiadau'r ddeddf gofal gwrthgyfartal—y ffaith bod y cymunedau a wasanaethwyd mor wael yn rhai mor dlawd. Cefais fy syfrdanu wrth ei glywed yn gwrthod hynny. Awgryma hynny i mi nad yw'n deall y cymunedau hynny'n dda iawn. Cefais fy syfrdanu hefyd—ac nid wyf yn cael fy syfrdanu'n hawdd—wrth glywed y Gweinidog yn dweud, pan ofynnodd ITV iddo ddoe ai ei gyfrifoldeb ef oedd hyn yn y pen draw, ymateb y Gweinidog oedd ei fod yn gyfrifoldeb i bawb yn y pen draw. Wel, mae arnaf ofn fod yn rhaid imi ddweud wrth y Siambr hon, Lywydd, nad yw'n gyfrifoldeb i bawb—cyfrifoldeb y Gweinidog ydyw. Ac rwy'n mynd i ofyn iddo, unwaith eto, i ystyried ei sefyllfa, ac os na all ystyried ei sefyllfa, gofynnaf iddo egluro beth arall, pa sefyllfa fwy difrifol a fyddai'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, beth arall sy'n mynd i orfod mynd o'i le cyn iddo fod yn barod i dderbyn cyfrifoldeb personol?
Dychwelaf at yr ystod o bwyntiau—credaf fod pum pwynt gwahanol wedi'u gwneud y tro hwnnw, Lywydd. O ran yr wyth adroddiad y cyfeiria'r Aelod atynt, nid oes unrhyw un ohonynt yn cyfeirio at ddyfnder yr her a ddatgelwyd yn ystod yr hydref y llynedd, a arweiniodd at gomisiynu adroddiad ar y cyd gan y colegau brenhinol. Roedd hwnnw'n benderfyniad a wneuthum oherwydd y pryder a ddatgelwyd yn briodol bryd hynny. Ac mae'n ffaith syml, wrth gwrs, nad oeddwn wedi bod yn y swydd hon am y cyfnod cyfan o chwe blynedd y cyfeiriwch ato. Rwyf wedi gweithredu ers i mi fod yn y swydd yn unol â'r holl wybodaeth sydd wedi bod ar gael i mi. Ac mae deall sut a pham na nodwyd pryderon a pham na weithredwyd yn eu cylch yn gynharach yn rhan o'r her. Dyna pam fod yr annibyniaeth yn y trefniadau goruchwylio yn y broses adolygu yn gwbl hanfodol, er mwyn ailadeiladu'r ymddiriedaeth a'r hyder y bydd y staff a'r cyhoedd yn eu disgwyl.
Yn sicr, nid wyf wedi diystyru'r ddeddf gofal gwrthgyfartal. Rwyf wedi dweud yn glir fy mod yn disgwyl i bob unigolyn, pob teulu, pob cymuned, yng Nghymru gael eu trin yn briodol gan ein gwasanaeth iechyd gwladol, gydag urddas a pharch, i'w lleisiau gael eu clywed. Mae'n rhan o'r hyn sydd wedi peri cryn ofid i mi mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf. Yn amlwg, ni ddigwyddodd hynny i amryw o deuluoedd sydd wedi siarad am eu profiadau. Felly, o ran y camau rydym wedi'u cymryd yn fwy cyffredinol mewn perthynas â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal, mae gennym raglenni penodol ar waith yn Aneurin Bevan, ynghyd â Chwm Taf. Felly, mae hyn yn rhywbeth rydym yn cymryd camau rhagweithiol arno'n fwriadol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Nawr, pan ddywedaf, 'Pwy sy'n rhannu'r cyfrifoldeb?', mae pawb yn y gwasanaeth iechyd hwn yn rhannu'r cyfrifoldeb am y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd cyfan yn gweithio. Ond yn y pen draw, fi yw'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a fi sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am yr hyn sy'n digwydd. Ac rwy'n bell o fod yn hunanfodlon ynglŷn â fy nghyfrifoldebau, nid yn unig yn yr ystyr o berfformiad cyffredinol y gwasanaeth, nid yn unig yr heriau, ond y daioni y mae'r gwasanaeth yn ei wneud. Ond fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau'r gwelliant rwy'n cydnabod bod ei angen yn daer ac rwy'n benderfynol o gyflawni hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Mae'n dra hysbys ymhlith rhanddeiliaid, defnyddwyr, gwleidyddion yng Nghymru yr ystyrir bod cyllid gofal cymdeithasol ledled Cymru yn ddifrifol iawn. Ochr yn ochr â'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20, nad yw'n rhoi unrhyw beth i gynghorau ond toriadau mewn termau real unwaith eto, gan roi fawr o ddewis iddynt ond torri gwasanaethau hanfodol, mae Cymru yn debygol o weld cynnydd o 35 y cant yn y boblogaeth dros 65 oed erbyn 2039. Mae'r pwysau ychwanegol ar awdurdodau lleol wedi'i nodi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd wedi amcangyfrif y bydd gwerth £344 miliwn o bwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol erbyn 2021-2. Yn amlwg—[Torri ar draws.] Gadewch i'r Gweinidog ymateb i mi, os gall. Yn amlwg, mae angen gweledigaeth realistig, yn hytrach na'r rhethreg a glywir mor aml yn y Siambr hon ar hyn o bryd. Mae angen cyflwyno pecyn trawsnewidiol o ddiwygiadau, ac un sy'n cael gwared ar y baich ariannol parhaus, sylweddol a chynyddol ar awdurdodau lleol. Mae darparu gofal cymdeithasol priodol i'n pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru nid yn unig yn hawl, mae'n hawl dynol sylfaenol. A wnewch chi, fel deiliad y portffolio a'r Gweinidog, gydnabod y ffaith nad yw eich Llywodraeth yn darparu digon o adnoddau ariannol i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer darparu gofal cymdeithasol? Ac a wnewch chi ystyried trawsnewid y ffordd y caiff hyn ei ariannu?
Wel, Lywydd, mae'r holwr yn dangos diffyg hunanymwybyddiaeth syfrdanol wrth ofyn y cwestiwn. Y realiti anochel yw bod Llywodraeth Cymru wedi dioddef gostyngiad o 7 y cant yn ein cyllideb mewn termau real—ymhell dros £1 biliwn—ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau na ellir eu hosgoi ac sy'n deillio'n uniongyrchol o'r polisi cyni a weithredir gan y Llywodraeth rydych yn ei chefnogi, polisi rydych wedi ymgyrchu drosto mewn tri etholiad cyffredinol yn olynol.
Dylwn nodi hefyd, pe bai pob un o'r galwadau am wariant a wneir gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon, a'r tu allan iddi, yn cael eu gwrando, byddai gennym swm llawer mwy o arian gan na allwn ateb yr holl alwadau a wnewch. Maent yn gwbl afrealistig, ac maent yn anwybyddu effaith cyni'r Ceidwadwyr. Pan fyddwch yn sôn am yr heriau i lywodraeth leol a thalu am ofal, yr her fwyaf y maent yn ei hwynebu yw cyni. Os ydych am weld newid sefyllfa llywodraeth leol a'u cyllid, dylech ymuno ag eraill yn y Siambr hon a'r tu allan a galw ar y Llywodraeth Geidwadol i ddod â pholisi cyni i ben er mwyn atal y difrod a wneir ym mhob un o'n cymunedau. Credaf y bydd llawer o bobl yn clywed yr hyn a oedd gennych i'w ddweud ac yn meddwl tybed a ydych yn deall beth sy'n digwydd o gwbl, neu os ydych yn deall, p'un a ydych o bosibl braidd yn rhagrithiol.
Roeddwn o dan yr argraff ein bod am gael gwleidyddiaeth fwy caredig. Nid wyf wedi'ch sarhau chi'n bersonol.
Nawr, un syniad diweddar ynglŷn â sut i ariannu gofal cymdeithasol yw'r cynnig yr wythnos hon a amlinellwyd gan y Gwir Anrhydeddus Damian Green AS yn ei bapur ar ddatrys yr argyfwng gofal. Mae'n deg dweud bod Llywodraeth y DU yn sylweddoli fod gennym fom sy'n tician o ran ble mae'r pwysau ar ofal cymdeithasol ac maent yn barod i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Nawr, byddai hyn yn golygu cyflwyno system debyg i'r system bensiynau, gan warantu rhwyd ddiogelwch gyffredinol resymol. Nid wyf yn cymeradwyo hyn ar hyn o bryd, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw eu bod yn ystyried y mater ac yn cynnig ffyrdd ystyrlon a phosibl o fynd i'r afael ag ef. Y ffordd rydych yn gwenu, rydych yn edrych fel pe na baech hyd yn oed yn credu bod argyfwng ariannu gofal cymdeithasol yn bodoli yng Nghymru. Nawr, byddai hyn yn helpu i gynyddu llif yr arian preifat i'r—. [Torri ar draws.] Gallwch heclo a cheisio'i gefnogi o'r cyrion—
Peidiwch â chymryd unrhyw sylw ohonynt; dyna'r cyngor gorau y gallaf ei roi. Anwybyddwch hwy yn llwyr a pharhewch.
Diolch. Er gwybodaeth, caiff £1.20 ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—a ddarperir gan Lywodraeth y DU—am bob £1 yn Lloegr. Felly, onid oes gwendid amlwg yno, pan fo llai o arian yn cael ei wario yn Lloegr, ac—[Anghlywadwy.]—darpariaeth? Ond beth bynnag, yn ôl at fy nghwestiwn. Byddai hyn yn annog cyfraniad gwirfoddol mwy o faint o'r oddeutu £163 biliwn mewn asedau nad ydynt yn bensiynau sydd gan bob carfan flynyddol o bobl 65 oed ym Mhrydain. Nawr, gall rhinweddau'r cynnig fod yn ddadl ar gyfer rhyw dro eto, ond o leiaf, fel y dywedais, maent yn ei ystyried. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod yn rhaid gwneud rhywbeth yng Nghymru. A allwch ddweud eich hun fod Llywodraeth Cymru, a chi fel Gweinidog, yn gwneud digon i wneud hyn, ac a wnewch chi gadarnhau i mi hefyd sut rydych wedi bwrw ymlaen ag un, dau neu fwy na hynny hyd yn oed o'r naw argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio', yn enwedig Rhif 7, sy'n nodi'r angen i ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol, ac i gael sgwrs genedlaethol? A ydych wedi bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny, ac a ydych yn barod i gael y sgwrs genedlaethol honno?
Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei safbwynt diddorol diweddaraf a dod â hi'n ôl i realiti. Mae'r heriau anochel yn bodoli i ofal cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru. O fewn y gostyngiadau sylweddol a wnaed i'n cyllideb gan Lywodraeth Geidwadol y DU y mae hi'n ei chefnogi ac wedi ymgyrchu drostynt, rydym wedi gwneud dewisiadau gonest ynglŷn â rhannu adnoddau rhwng iechyd, llywodraeth leol a phob gwasanaeth cyhoeddus arall ac arian a wariwn ar gefnogi'r economi. Pe bai'r Ceidwadwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynghylch datrys y mater hwn, byddent wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch. Rydym wedi cael addewid o Bapur Gwyrdd, nid papur gan Damian Green, i ddeall beth y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'w wneud ar hyn. Mae wedi'i ohirio dro ar ôl tro ar ôl tro.
Cafodd comisiwn Dilnot, a oedd i fod i helpu i symud y mater hwn yn ei flaen, ei gladdu gan y Llywodraeth Geidwadol yn ystod y tymor diwethaf. Y gwir amdani yw y gallem fod wedi gwneud mwy o gynnydd ledled y Deyrnas Unedig pe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn onest yn hyn o beth ac wedi gweithredu yn hytrach na chicio'r penderfyniad hwn ymhellach i lawr y ffordd. Yma yng Nghymru, mae gennym grŵp rhyngweinidogol a gadeirir gennyf sy'n ystyried y broses o dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol, ac i ystyried sut y cynhyrchwn fwy o arian i fynd i mewn i'n system gofal cymdeithasol. Ac nid yw hynny'n deillio o'r rhyddid i ddewis mewn unrhyw ffordd, ac os ydym am i fwy o adnoddau fynd i mewn, ceir dewisiadau anodd ynglŷn ag o ble y daw'r arian hwnnw ac a ydym yn barod i ariannu hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol.
Yn hytrach nag ystyried hyn yn unig, awgrymaf fod angen i Lywodraeth y DU gydnabod eu bod yn gyfrifol am y sefyllfa o ran cyllid gofal cymdeithasol, ac mae'n ymwneud unwaith eto â'r dewis ynghylch cyni. Dewch â chyni i ben—mae gwahanol ddewisiadau y gall pob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig eu gwneud. Dewch â chyni i ben, a bydd eich cydweithwyr Ceidwadol sy'n rhedeg cynghorau yn Lloegr yn cael setliad gwahanol, oherwydd, peidiwch â derbyn fy ngair i ar hyn, ond mae'r dewisiadau y mae eich Llywodraeth wedi'u gwneud ar draws y Deyrnas Unedig wedi arwain at ganlyniadau hyd yn oed yn fwy difrifol yn Lloegr nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Maent yn edrych ar y ffordd y mae llywodraeth leol Cymru wedi cael ei thrin ac maent yn cydnabod bod bargen well o lawer ar gael i lywodraeth leol yma am fod gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd wedi cydbwyso ein hadnoddau ac wedi blaenoriaethu gwasanaethau lleol.
Ymateb gwan tu hwnt gan Weinidog Llywodraeth. Rydych newydd gyfaddef i'r Siambr hon, er bod y dulliau gennych, er bod yr adnoddau ariannol gennych, ac er bod y pwerau gennych, eich bod yn aros am Bapur Gwyrdd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Beth ddigwyddodd i ddatganoli? Beth ddigwyddodd i chi'n cymryd yr awenau fel Gweinidog Llywodraeth ac fel Llywodraeth Lafur yng Nghymru? Rydych wedi ateb y cwestiwn hwnnw. Ond beth bynnag, mae gennyf un arall i chi. [Chwerthin.]
Mae 370,000 o ofalwyr yng Nghymru yn darparu 96 y cant o'r gofal mewn cymunedau ledled Cymru ac maent yn cyfrannu dros £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Nawr, pe bai canran fechan yn unig o'r gofalwyr gweithgar hyn yn rhoi'r gorau i ofalu, byddai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, heb os, yn wynebu argyfwng mwy difrifol na'r un y soniais amdano. Felly, mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Er enghraifft, rwy'n synnu, ac rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill yma'n synnu, wrth glywed—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr. Nid oes angen rhagymadrodd i'ch trydydd cwestiwn.
Mae llawer o ofalwyr yn methu manteisio ar gyfnodau egwyl priodol o'u cyfrifoldebau gofalu er mwyn iddynt allu byw bywydau iach a chyflawn eu hunain a chyrraedd eu potensial eu hunain o ran addysg a chyflogaeth. Pa gamau a roddwch ar waith ar fyrder i sicrhau bod pob gofalwr yn cael yr egwyl angenrheidiol, ac y telir am gost lawn trefnu gofal seibiant er mwyn iddynt allu byw bywydau cyflawn eu hunain?
Diolch am eich cwestiwn ar ofalwyr—pwnc pwysig, a cheir rhywfaint o gytundeb trawsbleidiol fod angen i ni sicrhau bargen well ar eu cyfer. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu hawliau nad ydynt yn bodoli mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Yr her i ni yw sut y gweithiwn gyda'n partneriaid a sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu gwireddu. Ni cheir diffyg ffocws ar ofalwyr, ac yn wir, mae'r Dirprwy Weinidog yn arwain gwaith gyda gofalwyr ar sicrhau bargen well ar eu cyfer yma yng Nghymru.
Mewn gwirionedd, credaf mai'r broblem gyda'r set hon o gwestiynau, pan fyddwch yn siarad am bwerau, ysgogiadau ac adnoddau sy'n bodoli eisoes, y gwir amdani yw mai yn ddiweddar iawn y cawsom bwerau dros newid ein hincwm. Ni fu'r adnoddau gennym i wneud hynny. Rwyf wedi codi'r pwynt yn barhaus ynghylch cyni a'ch methiant i gymryd unrhyw gyfrifoldeb am y dewis rydych wedi ymgyrchu'n weithredol drosto mewn tri etholiad cyffredinol yn olynol. Mae'n ddewis Ceidwadol, yn greadigaeth Geidwadol—yr argyfwng a welwn mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig.
Yr her yn y ddadl hon, yn anffodus, Lywydd, yw na chredaf fod yr Aelod yn deall beth sy'n digwydd yn y wlad mewn gwirionedd, a gadewch i ni adael pethau ar hynny.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod 100,000 o apwyntiadau cleifion offthalmoleg wedi'u canslo yn y blynyddoedd 2017-18, yn aml heb fawr o rybudd, ac roedd y ffigur hwnnw'n gynnydd o 5.5 y cant ar ddwy flynedd ynghynt. Roedd 35,000 o bobl wedi bod yn aros ddwywaith mor hir ag y dylent am apwyntiad dilynol ym mis Rhagfyr 2018, i fyny o 15,000 ym mis Ebrill 2015. Dengys y ffigurau diweddaraf y gallais ddod o hyd iddynt fod 48 o bobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth yng Nghymru. Roedd hynny yn ôl yn 2014 mewn adroddiad gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall. Onid yw'n warth fod unrhyw unigolyn yng Nghymru yn mynd yn ddall wrth aros am driniaeth gan y GIG?
Mae hwn yn faes lle rydym wedi newid y mesurau, mewn gwirionedd, ac mae'r gwahaniaeth rhwng y mesurau a'r hyn a ddigwyddodd yn y gwasanaeth yn bwysig. Roeddem yn mesur targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth nad oedd yn ystyried blaenoriaeth glinigol y cleifion. Felly, roedd gennym fesur amrwd nad oedd yn ystyried sut y dylai'r gwasanaeth weithredu i fynd i'r afael â'r niwed clinigol posibl. Felly, un o'r pethau a wneuthum yw gweithio gyda'r gwasanaeth, ynghyd â'r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, ac mae gennym fesurau newydd ar waith sy'n ystyried blaenoriaeth glinigol. Felly, bydd rhai pobl yn aros am gyfnodau hwy, ond byddwn yn blaenoriaethu'r bobl â'r angen mwyaf er mwyn osgoi'r posibilrwydd y bydd pobl yn colli eu golwg lle gellir osgoi hynny. Rydym wedi gwneud dewis bwriadol, a chredaf y bydd y gwasanaeth iechyd a phobl Cymru yn well eu byd o'i herwydd, ac mae clinigwyr a'r trydydd sector yn gyffredinol yn ei gefnogi.
Wel, gwell hwyr na hwyrach, rwy'n sicr yn cydnabod hynny, ond mae llawer i'w wneud o hyd. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddiddordeb yn y maes hwn, ac yn ddiweddar, cawsom dystiolaeth gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan, a dynnodd sylw at yr angen i wella ei berfformiad cyfredol o 62 y cant o gleifion risg 1 yn cael eu gweld erbyn y dyddiad targed, neu o fewn 25 y cant i'r dyddiad targed. Diffinnir risg 1 gan y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall fel risg o niwed diwrthdro neu ganlyniad niweidiol sylweddol i'r claf os na ellir eu trin erbyn y dyddiad targed. Onid yw'r oedi hwn yn gwbl annerbyniol?
Os edrychwch ar yr apwyntiadau dilynol mewn rhai byrddau iechyd, mae eu perfformiad yn amrywio'n sylweddol iawn. Yn Abertawe Bro Morgannwg, roedd 5,000 o bobl yn aros ddwywaith cyhyd ag y dylent am apwyntiadau dilynol—pedair gwaith cymaint â dwy flynedd ynghynt. Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae 10,000 o bobl yn aros ddwywaith cyhyd ag y mae angen am apwyntiadau llygaid. Mae hynny bedair gwaith cymaint â'r sefyllfa ddwy flynedd yn ôl. Mae hyn yn rhywbeth sy'n galw am weithredu ar fyrder mor gyflym â phosibl gan yr Ysgrifennydd iechyd, ac efallai y gall ddweud wrthym beth, yn ymarferol, y mae'n mynd i'w wneud i ddatrys y broblem.
Wel, nid yw'r mesurau newydd yn ateb ynddynt eu hunain. Mewn gwirionedd, maent yn ymwneud â sut y trefnwn ac y gweithredwn y system gyfan. Mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn drosglwyddo gofal i wasanaethau yn y gymuned lle bo modd, ac mewn gwirionedd, mae Aneurin Bevan wedi bod yn arwain ar lawer o'r gwaith hwnnw, i ddarparu mwy o amser a chapasiti o fewn gwasanaethau ysbyty i bobl sydd angen gweld clinigydd mewn ysbyty. Felly, mae a wnelo ag ailbeiriannu ein system gyfan. Ac mewn gwirionedd, os siaradwch â phobl yn y gwasanaeth, ac os siaradwch â phobl ar draws y system yn y Deyrnas Unedig, maent yn cydnabod ein bod yn gwneud y pethau iawn yma yng Nghymru a bod her i'w chael ynglŷn â sut y mae rhannau eraill o'r DU yn dal i fyny â'r hyn rydym ni'n ei wneud, o ran triniaeth leol yn y gymuned yn ogystal â mwy o flaenoriaeth i'r bobl iawn gael eu gweld yn gyflymach o fewn system ysbyty. Golyga hynny wahanol fesurau sy'n adlewyrchu'n gywir yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn, yn ogystal â beth ddylai fod yn bwysig i bob un ohonom, er mwyn sicrhau y darperir y gofal iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.