Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:00, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn dweud bod y bwrdd iechyd ymhell o fod yn hapus am y gostyngiad yn eu diffyg i lawr i £32 miliwn. Roedd yn dal i fod yn annerbyniol, a gwnaed hynny'n gwbl glir iddynt gan fy swyddogion, a hefyd gennyf fi, yma, mewn sgyrsiau uniongyrchol gyda'r cadeirydd, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn yn y gwerthusiad fy mod yn disgwyl iddynt barhau i wella. Ni fydd ganddynt gynllun cytbwys i mi ei gymeradwyo oni bai eu bod yn gallu dangos eu bod ar y trywydd iawn i fyw o fewn eu gallu, a hynny, nid yn unig am flwyddyn, ond dros y cyfnod o dair blynedd. Dyna rwy'n disgwyl i'r sefydliad ei wneud—gwella'i berfformiad, gan gynnwys ei berfformiad ariannol, yn ogystal â gwella ansawdd a phrydlondeb y gofal a'r driniaeth i'r bobl rydych chi a minnau'n eu cynrychioli.