Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 1 Mai 2019.
Dŷch chi'n dweud eich bod chi'n siomedig bod pobl yn aros rhy hir. Mae'n werth cymryd eiliad i feddwl beth yn union mae 'rhy hir' yn ei olygu yn y cyd-destun yma. Mi ysgrifennais i at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a chael ateb ar 8 Ebrill. Roeddwn i wedi ysgrifennu ar ran claf sy'n aros am ben-glin newydd. Roedd yr ateb yn dweud bod rhyw 2,200 o gleifion yn aros am driniaeth orthopedig a bod amser aros am driniaeth elective o gwmpas 100 wythnos—dwy flynedd ydy hynny. Bythefnos yn ddiweddarach, roeddwn i'n cael ateb yn dweud bod amser aros ar gyfer triniaeth clin yn fwy na 110 o wythnosau. Dydy hyn ddim ar unrhyw lefel yn agos at beth sydd yn dderbyniol i ni. Onid ydy hi'n amser inni sylweddoli nad yw mesurau arbennig ynddynt eu hunain ddim yn ddigon, bod angen symud i ryw fath o fesurau argyfwng ar gyfer Betsi Cadwaladr, neu i ystyried go iawn ydy'r model un bwrdd iechyd ar gyfer y gogledd yn ffit i bwrpas?