Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:56, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli na allaf gael ffigurau perfformiad ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sydd newydd gael ei greu. Fodd bynnag, ar gyfer yr hen fwrdd, Abertawe Bro Morgannwg, parhaodd eu perfformiad i wella ar draws meysydd allweddol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda pherfformiad gwell o ran amseroedd aros mewn unedau damweiniau ac achosion brys, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac amseroedd aros ar gyfer diagnosteg a therapi, ac mae'r bwrdd iechyd newydd yn parhau i weld mwy o gleifion o fewn yr amser targed ar gyfer canser o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.