Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:48, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae gwasanaethau meddygon teulu yn dioddef. Dywed fy etholwyr eu bod yn aros wythnosau am apwyntiad arferol ac yn methu cael ateb dros y ffôn, gan ddweud, mewn ambell i achos, eu bod yn rhoi cynnig arni hyd at 50 o weithiau ac yna'n rhoi'r gorau iddi. Dywed llawer eu bod yn colli hyder a ffydd yn y gwasanaeth iechyd. Rydym eisoes wedi clywed bod newidiadau diweddar i'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y cynllun indemniad, yn ôl pob golwg, gam yn rhy bell i lawer o'r meddygon teulu hynny. Weinidog, eich cyfrifoldeb gweinidogol cyntaf yw goruchwylio darpariaeth a pherfformiad y GIG. A ydych yn gwneud eich gwaith yn iawn?