Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 1 Mai 2019.
Dwi'n falch hefyd fod Jenny Rathbone ac eraill wedi nodi pwysigrwydd y sector yma i Gymru ac mae o'n digwydd bod yn gyd-ddigwyddiad hapus i mi, beth bynnag, fy mod i'n ymateb i'r adroddiad negyddol yma, fel petai, ddiwrnod ar ôl gwneud datganiad ynglŷn â Chymru Greadigol. Fe ddywedaf i air pellach am hynny eto cyn y diwedd.
Mi ydym ni wedi gweld twf sylweddol, gyda throsiant blynyddol yn agos i £2 biliwn yn y sector yma yng Nghymru sy'n cyflogi dros 58,000 o bobl, a bod yna 50 y cant yn fwy yn gweithio yn y diwydiant erbyn hyn nag oedd 10 mlynedd yn ôl, ac rwy'n falch bod Aelodau yn cydnabod pwysigrwydd hynna.
Mae gallu cynnal seilwaith stiwdios yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth ar gyfer y sector. Fe ges i fy atgoffa'n glir iawn o hynny yn y cyfarfod ag NBC Universal yn ddiweddar ym Mro Morgannwg. Mae yna werthfawrogiad o'r adeiladau sydd gyda ni'n barod ac mae'r cwmnïau yn gweld y posibilrwydd o ddatblygu ymhellach.
Mae Cymru bellach yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer dramâu teledu a ffilmiau o ansawdd uchel a dŷn ni'n cydnabod bod yma ddewis cryf iawn ar gyfer cynhyrchu sydd yn cystadlu ag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys wrth gwrs Llundain a dyffryn y Tafwys, sydd mor ddrud o'i gymharu.
Fe wnes i amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer y diwydiannau creadigol ddoe drwy Gymru Greadigol, ac felly fe gyfeiriaf i at hynny cyn i mi ymateb i rai o'r sylwadau pellach. Mi fydd Cymru Greadigol yn ffordd o sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ysgogi twf yn y dyfodol. Mi fydd yna arbenigaeth ddigonol i ddelio â'r sector. Mi fydd yna gaffael staff ac aelodau o fwrdd a chadeirydd a fydd yn gwbl atebol i ddelio â'r diwydiant creadigol. Dwi yn derbyn, fel un sydd wedi bod yn gweithio'n achlysurol gyda'r sector creadigol ers yr 1980au, fod yna angen sgiliau gwahanol wrth ddelio â busnesion cyfryngau a busnesion sydd yn ymwneud â'r gweithgareddau creadigol nag sydd eu hangen wrth ddelio â busnesion yn arferol. Ac felly, os oes yna ddiffyg wedi bod mewn arbenigaeth a dealltwriaeth o natur arbennig cyllid ar gyfer datblygu yn y diwydiannau creadigol, mae'n sicr yn fwriad gen i y bydd Cymru Greadigol yn gallu manteisio ar y cyngor priodol o fewn y Llywodraeth ac yn arbennig y tu fas i'r Llywodraeth yn yr arbenigaeth y byddwn ni'n ceisio ei recriwtio ar gyfer Cymru Greadigol.
Mae'n bwysig dweud, fel sydd wedi cael ei ddweud yn y ddadl—i ddod yn ôl at sefyllfa Pinewood—ein bod ni wedi cael gwerth i'n diwylliant a'n heconomi yn ogystal ag i'n diwydiannau creadigol drwy gael sefydlu'r enw Pinewood yma yng Nghymru. Mae'r brand wedi helpu i sicrhau bod Cymru yn lleoliad credadwy ar gyfer cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu ac mae hynny wedi ei ddangos yn glir drwy'r gwaith sydd wedi ei wneud yma yn barod. Ond mae'r gwersi wedi cael eu dysgu a dwi'n falch bod y pwyllgor yn derbyn yr hyn dŷn ni wedi’i ddweud am hynny. Mae’r gwersi’n cynnwys dysgu’r gwahaniaeth sydd angen ei ddeall rhwng y modelau o weithredu ar gyfer stiwdios ffilm yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, a sut ydym ni’n gallu rhannu’r manteision ehangach i'r economi leol a’r enillion masnachol. Ac mi fydd y gwersi yma ar gael yn union i Gymru Greadigol pan fydd hwnnw’n weithredol o fewn y misoedd nesaf.
Ond mae’n bwysig dweud bod ein perthynas ni â Pinewood wedi sicrhau bod dros £45 miliwn wedi cael ei wario ar gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu yng Nghymru, ac rydyn ni’n credu ei bod hi yn briodol priodoli £21.5 miliwn o hyn yn uniongyrchol i gyllid gan y gyllideb fuddsoddi yn y cyfryngau ar ran y Llywodraeth, dros £13.7 miliwn i brojectau gan Pinewood, a tua £7.8 miliwn sy’n weddill i Lywodraeth Cymru ar ôl i Pinewood dynnu nôl o’r gyllideb fuddsoddi ar 31 Hydref 2017.
Wrth gwrs, rŷn ni wedi dweud y bydd yna ddiweddariad arall ar y perfformiad ariannol a'r rhagamcanion ar gyfer incwm yn cael ei roi i’r pwyllgor ym mis Rhagfyr. Rydym ni yn bendant mai dyma’r adeg briodol i wneud hynny, yn unol ag argymhellion 2 a 6 yn adroddiad y pwyllgor. A hefyd, wrth gwrs, mae ystyried y goblygiadau treth ar werth yn fater rydyn ni hefyd wedi gweithredu arno fo gyda thîm yn arbenigo mewn treth ar werth yn Llywodraeth Cymru, fel na fydd camgymeriad mor amlwg â hyn yn digwydd eto. Ac mae’r gwaith wedi dechrau hefyd i ddatblygu, fel y clywson ni, y canllaw arferion gorau ar gyfer caffael fydd yn cael ei wneud yn enw Gweinidogion Cymru. Ac mae’r gwersi yna’n cael eu dysgu ar draws y Llywodraeth. Ac mi fydd y canllaw hwnnw'n ategu’r canllawiau adrannol sydd eisoes mewn bod ac yn sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r arferion gorau wrth wneud caffaeliadau gyda’r tryloywder priodol a’r diwydrwydd dyladwy ar draws y Llywodraeth, gan dderbyn y cyfyngiadau, wrth gwrs, sydd yn codi o gwestiwn unrhyw gyfrinachedd sydd yn wirioneddol fasnachol—y pwynt a wnaed gan Suzy Davies.
Mae ein trefniadau cyllid grant, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’n perthnasau cyllido â thrydydd partïon, yn dod o dan ein telerau ac amodau grant, sy’n amlinellu cyfrifoldebau’r ddau barti’n glir. Mae’r berthynas â Pinewood, fel y dywedwyd, yn enghraifft anarferol o ystyried natur arbennig yr hyn a gafwyd er mwyn sefydlu’r cynllun yma. Ac rydyn ni’n derbyn bod y camgymeriadau a wnaed oherwydd natur arbenigol delio â’r cwmni hwn yn rhai y mae’n rhaid inni ddysgu oddi wrthyn nhw yn y dyfodol, a bod yn rhaid inni gael ffordd o ddynesu tuag at y sector greadigol sydd yn briodol i’r sector, fel ein bod ni ddim yn gorfod gwneud eithriadau o gwmnïau unigol yn y presennol a’r dyfodol, fel rydyn ni wedi’i wneud yn y gorffennol. Yn y dyfodol, os oes angen trefniadau pwrpasol i ddiffinio perthynas rhwng partïon, yna mae’n rhaid sicrhau bod cyngor proffesiynol ychwanegol yn cael ei geisio, fel y cyfeiriais i'n gynt, i sicrhau bod yr asesiadau’n gadarn, fel mae’r pwyllgor wedi argymell.
O ran arolygon o bob eiddo gwerth dros £1 miliwn sy'n cael ei gaffael, er ein bod ni’n derbyn yr egwyddor gyffredinol, mi fydd achlysuron lle na fyddai arolwg yn berthnasol, er enghraifft lle mae adeilad yn cael ei brynu neu ei ddymchwel. Rydyn ni’n derbyn fel Llywodraeth ein bod ni wedi nodi'r potensial ehangach ar gyfer gwrthdaro buddiannau yn y dyfodol, ac y byddwn ni’n sicrhau, pan fydd swyddogion yn gweld problemau, y bydd yna dynnu sylw at Weinidogion yn syth, ac mae’n bosib na wnaed hynny yn ddigon cyflym, fel rydyn ni’n ei dderbyn yn yr adroddiad yma.
Mi fydd cymorth ar gyfer y sector yma yn y dyfodol yn cynnwys—fel dywedais i ddoe yn y datganiad mwy cyffredinol ar Cymru Greadigol—pwyslais ar waith teg a hybu sgiliau, sydd yn rhan o’n cynllun ni ar weithredu ar yr economi. Hefyd, mi fydd contract economaidd y cynllun gweithredu ar yr economi yn cyd-fynd â’r synergedd rhwng y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol a'n golygu y byddwn ni'n gallu gweld y manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol gyda’i gilydd, ac mae hynny’n golygu y bydd yna fwy o gyfrifoldeb cymdeithasol cyfrifol tuag at y sector yn y dyfodol.