– Senedd Cymru am 3:13 pm ar 1 Mai 2019.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i wneud y cynnig. Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn briodol, yn dilyn y cyhoeddiad yn dweud bod Pinewood wedi cyrraedd Caerdydd yn 2014, roedd cyffro a chynnwrf fod y fath frand byd-enwog yn dod i Gymru ac y gallai ddod ag oddeutu £90 miliwn i mewn i economi Cymru a rhoi hwb i'r diwydiant ffilm yng Nghymru ar lefel ryngwladol. Roedd dyfodiad Pinewood yn cynnig cyfle a gobaith ond bedair blynedd yn ddiweddarach, penderfynodd Llywodraeth Cymru ddod â'r brydles a'r cytundeb cydweithredol a oedd ganddi gyda'r cwmni i ben. Daeth y stiwdio a'r gwaith o weithredu'r gronfa buddsoddi yn y cyfryngau dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Felly beth ddigwyddodd? Beth achosodd i'r stori garu hon droi'n drasiedi?
Wel, a dweud y gwir, roedd yn gomedi o gamgymeriadau. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb nad oedd yn ddigon eglur o ran trefniadau gweithredu a chytundeb cydweithredol nad oedd yn egluro rolau a chyfrifoldebau pob partner yn glir. Nid yn unig fod diffyg eglurder ynglŷn â'r enillion ariannol ac economaidd a ddisgwylid drwy'r cytundebau hyn, ond hefyd roedd diffyg cydnabyddiaeth ymddangosiadol o'r gwrthdaro buddiannau a achoswyd gan y trefniadau. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb gydag un o is-gwmnïau Pinewood i reoli'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau gwerth £30 miliwn, ond methodd swyddogion roi gwybod i'w Gweinidog ynglŷn â'r gwrthdaro buddiannau posibl a ddeilliai o'r ffaith bod Pinewood yn gweinyddu'r gyllideb hon a hefyd yn darparu ei wasanaethau ei hun yn Llundain i'r diwydiant.
Dywedwyd wrthym fod y panel buddsoddi yn y cyfryngau wedi ei sefydlu i liniaru'r risg. Daethom i'r casgliad nad oedd yn fesur lliniaru digonol, yn enwedig o ystyried bod y canfyddiad o fantais i Pinewood yn dal i fodoli ar draws y diwydiant a bod hwn yn wrthdaro ehangach na'r prosiectau unigol a oedd dan ystyriaeth.
Ynghyd â'r trefniadau cytundebol gwael hyn, mae'n ymddangos bod diffyg diwydrwydd dyladwy sylweddol. Dewisodd Llywodraeth Cymru brynu safle ar gyfer y stiwdio a oedd yn cynnwys tri ased gwahanol ac anarferol iawn a gostiai £6 miliwn, a methodd gomisiynu arolwg strwythurol llawn ymlaen llaw. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael arolwg strwythurol cyn prynu tŷ, ond roedd hwn yn bryniant £6 miliwn ac roedd Llywodraeth Cymru yn fodlon ar adroddiad prisio a'r ffaith bod y safle'n cael ei werthu gan fuddsoddwr sefydliadol.
Eto, fel y gwelsom, ni nodwyd gwaith atgyweirio hanfodol i'r to cyn ei brynu, ac arweiniodd hyn at gostau sylweddol. I wneud pethau'n waeth, nid oedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw ofyniad i adfer yr eiddo rhestredig gradd II ar y safle ac nid oeddent yn bwriadu gwneud unrhyw beth i hwn oni bai eu bod yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny, nid y camau gweithredu y byddech yn eu disgwyl gan y rheini sydd â chyfrifoldeb dros Cadw, a ddylai, yn sicr, fod yn esiampl dda o berchennog adeiladau rhestredig. Serch hynny, yn ddiddorol, mae'r adeilad hwn wedi'i ddatgofrestru gan Cadw yn ddiweddar, ac mae hyn i gyd yn awgrymu, ar y gorau, fod cryn dipyn o naïfrwydd yn bodoli o fewn Llywodraeth Cymru.
Ceir tystiolaeth bellach o'r naïfrwydd hwn yn y diffyg eglurder ynghylch gwerth y gwaith a wnaed gan Pinewood i wella'r adeilad. Roeddem yn synnu ac yn pryderu nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r hyn a gwblhawyd gan y cwmni pan ddaeth y safle yn ôl i'w dwylo unwaith eto, ac roeddem hyd yn oed yn fwy pryderus nad oedd unrhyw fanylion am werth y gwaith a nodwyd yn y cytundeb i osod y safle, ac nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r ffaith nad oedd y wybodaeth hon, y cytunwyd arni yn y prif delerau, wedi cael ei throsglwyddo i'r contract gyda Pinewood.
Canlyniad hyn i gyd oedd diffyg eglurder ynglŷn â phwy a oedd yn gyfrifol am ba welliannau a chafodd effaith negyddol yn y pen draw ar bwrs y wlad—a dyna pam fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi edrych ar hyn—gan na ellid bod wedi gwerthuso'r gwerth am arian. Unwaith eto, dychwelaf at thema naïfrwydd. I'r pwyllgor, roedd hyn i'w weld yn gamgymeriad sylfaenol yn negodiadau'r contract—negodiadau gwreiddiol y contract.
Cytunasom fel pwyllgor i beidio â mynegi barn ar i ba raddau y mae'r cytundeb gyda Pinewood wedi dangos gwerth am arian, gan ein bod yn cydnabod bod buddsoddi masnachol yn y diwydiant ffilm a theledu, o ran ei natur, yn ansicr ac y gall gymryd blynyddoedd lawer i elwa ar y manteision economaidd. Credwn fod angen taro cydbwysedd rhwng buddsoddi arian cyhoeddus er mwyn sicrhau'r buddsoddiad mwyaf posibl yng Nghymru a'r risg sy'n codi o hyn, ond mae'n rhaid rheoli'r risgiau hyn ac mae'n rhaid i'r trefniadau gwneud penderfyniadau a llywodraethu yn eu cylch fod yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a thrylwyr.
Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, lle mae'n derbyn wyth o'r naw argymhelliad a wnaed gennym ac yn nodi'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o brofiad Pinewood ac yn cael eu rhannu, yn ogystal â gweithredu gweithdrefnau a chanllawiau newydd, er mwyn atal camgymeriadau tebyg rhag digwydd eto.
Fodd bynnag, nodwn fod ei hymateb i argymhellion 3, 4 a 5, sy'n ymwneud â gwrthdaro buddiannau, yn benodol i Pinewood, tra bod ysbryd ein hargymhellion yn ymwneud â lliniaru gwrthdaro buddiannau yn fwy cyffredinol o ran holl ymwneud Llywodraeth Cymru â busnesau'r sector preifat. Byddwn yn mynd ar drywydd y mater hwn yn fuan fel rhan o waith y pwyllgor ar gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Hefyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 8 yn ein hadroddiad, nodwn ei bod yn cytuno ag egwyddor gyffredinol yr argymhelliad ac wedi dechrau gweithio i ddatblygu canllawiau arferion gorau ar gyfer caffaeliadau a gyflawnir yn enw Gweinidogion Cymru. Byddwn yn cadw golwg ar gydymffurfiaeth â'r canllawiau hyn ar ôl iddynt gael eu cyflwyno er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu ac yn gweithio'n effeithiol.
Ddirprwy Lywydd, i grynhoi, mae'n anffodus fod Pinewood, fel sawl prosiect arall gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol, gan gynnwys Kancoat, a Cylchffordd Cymru yn wir, wedi dioddef yn sgil diffyg diwydrwydd dyladwy Llywodraeth Cymru mewn rhai ffyrdd: trefniadau llywodraethu gwael; gwneud penderfyniadau anwybodus yn ein barn ni; a diffyg tryloywder ac eglurder sylfaenol cyffredinol, yn enwedig wrth lunio'r contractau gwreiddiol hynny.
Dim ond y llynedd y cyflwynodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith bod angen i'r rheini sy'n gyfrifol am wario arian trethdalwyr sicrhau bod prosesau gwneud penderfyniadau yn gydlynus ac wedi cael eu dogfennu'n gywir. Fel gyda Cylchffordd Cymru, mae perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood wedi arwain at rai penderfyniadau anesboniadwy.
Ni wn faint yn rhagor o weithiau y bydd yn rhaid i ni drafod yr un materion sy'n codi o hyd o fewn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â diffyg diwydrwydd dyladwy a diffyg crebwyll. Er ein bod i gyd yma yn derbyn yr angen i gymryd risgiau rhesymol, rhaid i'r angen i fod yn gyfrifol gydag arian cyhoeddus fod yn bwysicach na dim arall. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn dysgu o'i phrofiadau yn y gorffennol ac yn dangos unwaith ac am byth fod gwersi wedi'u dysgu mewn perthynas â'i dull o ariannu busnesau preifat yng Nghymru.
Mae'n werth inni fyfyrio ar y stori hon y buom yn dadlau yn ei chylch dros y naw mis diwethaf. Mae'n sicr yn wir fod gan gyn Weinidog yr economi y Llywodraeth gynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer ehangu'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, ac roedd hynny ynddo'i hun yn ganmoladwy, ond ni roddwyd digon o ystyriaeth i'r gwrthdaro buddiannau posibl, ac ni chawsant eu hystyried yn briodol wrth greu partneriaeth â chwmni sy'n werth miliynau o bunnoedd ac sydd â buddiannau byd-eang. Pysgodyn bach iawn oedd Llywodraeth Cymru o'i chymharu â Pinewood, ac, er nad yw'n bosibl dod i'r casgliad fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chamarwain, mae'n sicr yn wir nad oedd y mesurau diogelu priodol ar waith i sicrhau na ddigwyddai hynny.
Ni wnaed arolwg o'r adeilad cyn y pryniant. Ymddengys i mi fod mochyn mewn cwd yn ymateb annigonol i fuddsoddiad o £6 miliwn, ac mae hynny'n parhau i fod yn bryder sylweddol. Roedd y cyngor a roddwyd i Weinidogion hefyd yn gwbl fud mewn perthynas â rhwymedigaethau TAW posibl, a oedd yn eithaf syfrdanol o dan yr amgylchiadau. Cawsom sicrwydd cadarn iawn gan weision sifil na fyddai hynny'n digwydd eto. Ond yn wir, ni roddwyd unrhyw ystyriaeth chwaith i'r rhwymedigaethau roedd y Llywodraeth yn eu hysgwyddo drwy brynu ased a oedd yn cynnwys adeilad rhestredig. Nid yw'n ddigon da i Lywodraeth Cymru, sy'n gorfod gorfodi statws adeiladau rhestredig, fod yn ddi-hid am y rhwymedigaethau y mae gofyn iddynt gydymffurfio â hwy fel perchennog eiddo o'r fath.
Fodd bynnag, byddai'n grintachlyd inni beidio â chydnabod y gweddnewidiad sydd wedi digwydd dros y pum mlynedd diwethaf o ran statws Cymru fel lleoliad ar gyfer creu ffilmiau a darlledu. A fyddai stiwdios Bad Wolf wedi'u lleoli yng Nghymru o gwbl pe na bai stiwdios Pinewood yn bodoli? Mae'n amhosibl dweud, ond mae'n debygol iawn na fyddent wedi meddwl gwneud hynny. Rydym bellach yn y sefyllfa hapus fod gan stiwdios Bad Wolf gynifer o archebion ar eu llyfrau fel eu bod wedi tyfu'n rhy fawr i'w safle ei hun ac yn gorfod dibynnu ar stiwdios Pinewood i gyd dros y 12 mis nesaf er mwyn cyflawni'r holl waith y maent yn ei wneud. Mae gennym hefyd adeilad newydd y BBC, a fydd yn un o ganolfannau darlledu mwyaf eiconig y DU ac yn wir, ledled y byd pan fydd yn agor yn y Sgwâr Canolog yng nghanol Caerdydd. Hefyd, mae gennym lawer mwy o wobrau'n cael eu hennill gan S4C, ITV a'r BBC am eu cynyrchiadau drama a rhaglenni dogfen, ac mae hyn i gyd yn newyddion cadarnhaol iawn i economi Cymru.
Ond mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy sicrhau ein bod, yn y contractau a luniwn, yn mynnu bod cyfran o'r is-gontractio'n cael ei wneud gyda chwmnïau Cymreig, a bydd hynny'n ein galluogi i adeiladu ar y ffaith bod Cymru'n cael ei chydnabod fel lleoliad ar gyfer ffilmio ac ôl-gynhyrchu. Ond mae angen i ni sicrhau, er enghraifft, os oes gennym actorion talentog yng Nghymru, ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir, nad oes angen iddynt fynd i Lundain er mwyn cael clyweliadau ar gyfer rhannau. Nid oes unrhyw reswm penodol pam na all hynny ddigwydd yma. Nid oes angen i Gymru gael ei hystyried fel rhywle ar gyrion pellaf Llundain mewn perthynas â ffilm a theledu. Yn sicr, mae gennym gyfle i wneud hynny er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael ei llwyddiant rhyngwladol ei hun yn hyn o beth, ond mae gennym fwy o waith i'w wneud i sicrhau bod gennym yr ystod lawn o sgiliau a bod hynny'n cael ei gydnabod ledled y byd.
Roedd y cyhoeddiad am ddyfodiad Pinewood i Gaerdydd bum mlynedd yn ôl yn llawn cyffro ac edrych ymlaen. Gobeithiwyd y byddai'r brand yn dod â budd amcangyfrifedig o £9 miliwn i economi Cymru. Codwyd gobeithion y byddai'r cyfle a gâi ei ddarparu yn rhoi hwb i'r diwydiant ffilm yng Nghymru ar lefel ryngwladol, ac eto, bedair blynedd yn unig yn ddiweddarach, chwalwyd pob gobaith pan benderfynodd Llywodraeth Cymru derfynu'r brydles a'r cytundeb cydweithredol a oedd ganddi gyda'r cwmni. A yw hyn yn swnio'n gyfarwydd? Fe ddylai. Y llynedd, buom yn trafod prosiect arall a gafodd groeso mawr gan ei fod yn gyfle i adfywio un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru. Methodd prosiect Cylchffordd Cymru o ganlyniad i swyddogion yn gwneud camgymeriadau sylfaenol, hepgoriadau a diffyg crebwyll. Unwaith eto, codwyd gobeithion a'u chwalu wedyn gan y llanastr a wnaeth Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â phrosiect pwysig.
Roedd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cylchffordd Cymru yn galw am ddulliau llywodraethu cadarn ac effeithiol a sianeli cyfathrebu mewnol i warantu na fydd materion o'r fath yn codi eto. Fodd bynnag, mewn perthynas â Pinewood, synnodd y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gontract nad oedd yn glir o ran y trefniadau gweithredu. Hefyd, methodd y trefniadau cydweithredu â nodi rolau a chyfrifoldebau pob partner yn glir. Yr hyn a berai'r pryder mwyaf i'r pwyllgor oedd ansawdd anghywir, anghyflawn a gwael y cyngor a roddwyd i Weinidogion ar fwy nag un achlysur. Mewn tystiolaeth lafar, dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwerthusiad annibynnol wedi'i gynnal cyn caffael yr adeilad yng Ngwynllŵg, ond wedyn daeth yn amlwg fod cyflwr yr adeilad fel y'i nodwyd yn anghyson â'r angen i gyflawni atgyweiriadau hanfodol i do'r adeilad, y gwelwyd ei fod yn gollwng. Mae'n anhygoel fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chomisiynu syrfëwr strwythurol i arolygu'r adeilad cyn ei brynu, sy'n arfer cyffredin mewn unrhyw fusnes neu eiddo pan fyddwch yn prynu. Rhagdybiodd Llywodraeth Cymru y byddai'r adeilad wedi'i gynnal a'i gadw i safon resymol am ei fod yn cael ei werthu gan fuddsoddwr rhyngwladol neu sefydliadol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, Ddirprwy Lywydd. Sylwaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor mewn perthynas â chaffael arolygon. Ni allwn ond gobeithio y bydd y canllawiau arferion gorau y dywedir eu bod yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yn mynd i'r afael â'r mater hwn.
Daeth enghraifft arall o ddiffyg diwydrwydd dyladwy yn glir mewn perthynas â mater TAW ar y cytundeb noddwr. O dan y cytundeb, byddai Llywodraeth Cymru yn talu £438,000 y flwyddyn i Pinewood i farchnata a hyrwyddo'r stiwdio. Yn fuan ar ôl llofnodi'r cytundeb, sylwyd bod y TAW wedi'i hepgor. Golygodd hyn fod cost flynyddol y nawdd yn codi £87,600 i £525,000 i gyd. Mae'r methiant hwn i gael cyngor arbenigol ar oblygiadau TAW yn dangos diffyg gallu o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygiad cynigion i ymrwymo i gytundebau masnachol ansafonol gyda chwmnïau preifat yn ddigon cadarn.
Lywydd, drwy gydol eu cyfnod mewn grym, mae record Llywodraeth Cymru wedi bod yn frith o benderfyniadau gwael sydd wedi colli arian i'r trethdalwr mewn modd mor wastraffus: prosiect Cylchffordd Cymru, gwerthu tir drwy gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, Kancoat, Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y dywedodd Nick Ramsay, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ragair i'r adroddiad hwn, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn dysgu o'i phrofiadau yn y gorffennol ac yn dangos bod gwersi wedi'u dysgu o ran ei dull o ariannu busnesau preifat. Ni allwn ond gobeithio y bydd yn gwneud hynny. Diolch.
Roeddwn eisiau diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am gynnal yr adroddiad hwn. Roeddwn eisiau cymryd rhan yn y ddadl hon yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Edrychasom yn gyntaf ar y mater hwn fel rhan o'n hymchwiliad i gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu mawr yng Nghymru y llynedd, cyn i ni drosglwyddo'r mater i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i graffu arno ymhellach. Cynhaliwyd dwy sesiwn gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Roedd yn amlwg fod problemau penodol gyda'r prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf. Drwyddi draw, roedd y nod yn glodwiw, ond roedd y modd y'i gweithredwyd yn wael. Yn amlwg, rydym eisiau gweld Cymru'n cynnal cyfleuster stiwdio o'r radd flaenaf, fel y dywedwyd eisoes, ac rydym yn gwbl gefnogol i ymdrechion i godi proffil Cymru'n rhyngwladol yn y diwydiant ffilm. Fodd bynnag, roedd y cyngor a roddwyd i'r Llywodraeth yn seiliedig ar fodel nad oedd erioed yn addas i'r wlad hon. Fel y dywedwyd, cafodd y safle ei brynu heb arolwg strwythurol llawn; dywedwyd wrthym fod hyn yn cyfyngu ei ddefnydd i'r maes teledu yn unig, ac nid cynhyrchu ffilmiau. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, nid yw'r cytundeb gyda Pinewood
'yn eglur o ran trefniadau gweithredu,' ac nid oedd y cytundeb cydweithredol
'yn egluro rolau a chyfrifoldebau pob partner yn eglur.'
Mae bron pob agwedd ar y prosiect, o'r lleoliad i'r cytundeb rheoli i'r datganiadau blynyddol amcangyfrifedig, wedi cael eu profi'n ddiffygiol ers hynny.
Ar wahân i'r problemau gyda'r adeilad a'r cytundeb, a oedd yn destun pryder mawr i'r pwyllgor, rwyf eisiau sôn am ddiffyg tryloywder y Dirprwy Weinidog. Gwrthododd Llywodraeth Cymru ddatgelu manylion ei pherthynas â Pinewood, gan gyfeirio at sensitifrwydd masnachol. Fodd bynnag, nid oedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, ond yn hepgor un ffigur ariannol—sef gwerth y ffi reoli. Roedd y pwyllgor yn siomedig ei bod yn ymddangos bod sensitifrwydd masnachol yn cael ei ddefnyddio i osgoi cwestiynau anodd ynglŷn â gwerth am arian. Roedd holl natur ein trafodaeth gyda'r Dirprwy Weinidog yn anfoddhaol. Er enghraifft, gofynnwyd a oedd cynlluniau i adnewyddu'r ffermdy rhestredig Gradd II ar y safle a brynwyd gan y Llywodraeth, ac atebodd y Dirprwy Weinidog na fyddent ond yn gwneud hynny pe baent yn cael eu gorfodi i wneud hynny gan arolygydd cynllunio neu Cadw. Does bosibl na allwn ddisgwyl mwy gan yr aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am ddiogelu ein treftadaeth.
Ym mis Ionawr 2018, dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth fy nghyd-Aelod Adam Price, a dyfynnaf:
'Nid yw'n gywir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth yn talu i Pinewood'.
Fodd bynnag, fel y nodir yn glir yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ym mis Tachwedd 2017 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb â Pinewood, lle byddai costau gweithredu'r cyfleuster, ynghyd â thalu ffi reoli Pinewood, bellach yn cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i fod yn bryderus, er gwaethaf ceisiadau am wybodaeth gan amryw o Aelodau Cynulliad, na fyddai'r wybodaeth hon yn gyhoeddus o hyd oni bai am yr adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru, a byddai Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd yng Nghymru yn dal i fod yn y tywyllwch.
Mae angen i ni wybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eu buddsoddiad mewn cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yn llwyddiant. Hyd yn hyn, mae eu hymwneud â Pinewood wedi bod yn frith o gamgymeriadau amatur, y dywedir wrthym eu bod yn destun adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd, a ddosberthir i weddill Llywodraeth Cymru, ond maent yn gamgymeriadau mor sylfaenol fel na ddylid bod wedi eu gwneud yn y lle cyntaf.
Yn ystod ein hymchwiliad, gwelsom fod y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn tangyflawni'n ddifrifol. Ni chawsom unrhyw ateb clir i'n cwestiwn ynglŷn ag a oedd y refeniw blynyddol a amcangyfrifwyd o'r cytundeb â Pinewood wedi'i ddiwygio i adlewyrchu perfformiad gwirioneddol y cytundeb cydweithredol. Ym mis Mawrth, gofynnais i'r Dirprwy Weinidog am ddiweddariad ar y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, a dywedwyd wrthyf y byddai un yn cael ei ddarparu ym mis Rhagfyr, fel rhan o ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae hyn yn golygu na chafwyd unrhyw wybodaeth gyfredol ar y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau ers mis Mehefin y llynedd. Mae ein rhanddeiliaid yn y diwydiant yn haeddu gwybod beth yw'r gyfradd enillion ar fuddsoddiadau a wneir gydag arian cyhoeddus yn gynt na hynny.
Rydym yn falch o glywed bod y gofod stiwdio bellach yn cael ei rentu i Bad Wolf, ond hoffwn i'r Dirprwy Weinidog ddweud wrthym beth yw'r ffigurau diweddaraf ar gyfer gwariant ac elw ar fuddsoddiad o'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, beth yw'r incwm rhent a dderbynnir gan Bad Wolf, a sut y mae hyn yn cymharu ag unrhyw gostau parhaus sydd gan Lywodraeth Cymru. Ac a all y Dirprwy Weinidog ddatgan yn glir a yw safle Gwynllŵg bellach yn cynhyrchu elw i Lywodraeth Cymru ai peidio? Mae'r wybodaeth hon yn bwysig er mwyn deall y gwerth am arian o'n hymrwymiad ariannol i'r un prosiect hwn. Ond mae'r diffyg tryloywder cyffredinol a brofwyd gennym wrth ymwneud â Llywodraeth Cymru yn parhau i lesteirio ein hymchwiliadau i'r ffordd orau y gall y Llywodraeth gefnogi a chynnal y diwydiant bywiog hwn. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru o hyn ymlaen yn llawer mwy tryloyw ynglŷn â'i pherthynas â Bad Wolf, ac na fydd galw am adroddiad gan y swyddfa archwilio cyn i fanylion pwysig am benderfyniadau gwariant cyhoeddus ddod i'r amlwg.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch yn ddidwyll i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am dderbyn y gwahoddiad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i fynd ar drywydd ymchwiliadau pellach i berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood? Mae'n adroddiad ardderchog. Nid wyf hyd yn oed yn gwybod lle rwyf am ddechrau arno, ond rwy'n meddwl y dechreuaf gyda'r pwynt yr oeddech chi'n sôn amdano, Bethan, sy'n ymwneud â thryloywder, oherwydd fy mod yn credu bod hynny'n berthnasol i'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.
Fel pawb arall, ar ôl croesawu cyhoeddiad cychwynnol y Llywodraeth am y trefniant newydd gyda Pinewood, ac ar ôl tua blwyddyn, gofynnais gwestiynau gweddol ddiddrwg-ddidda am gynnydd a dangosyddion perfformiad allweddol, yn sgil craffu rheolaidd mewn gwirionedd. Roedd ymatebion Edwina Hart yn fyr a heb fawr o wybodaeth fel roeddem wedi dod i'w ddisgwyl ar y pwynt hwnnw, ond hyd yn oed bryd hynny roedd cyfrinachedd masnachol yn dod i'r amlwg. Nid oeddem yn clywed dim am y trefniadau i ddod â £90 miliwn i mewn i'r economi. Erbyn mis Mawrth 2017, rai blynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd arweinydd y tŷ ar y pryd, mewn ymateb i fy ngheisiadau, fod datganiad ar y ffordd. Ni ddigwyddodd dim byd.
Nid wyf am fynd drwy hyn i gyd, ond euthum ymlaen wedyn i ofyn amryw o gwestiynau, ac nid oedd yn glir ar y pryd beth oedd y gwahaniaeth rhwng cyllideb buddsoddi yn y cyfryngau a chyllideb Sgrîn Cymru—gan nad oedd fawr o wybodaeth ar gael ar y gwefannau amrywiol—ac roedd yr hyn a gefais yn anghyflawn neu roedd oedi mawr cyn cael ymateb, eto'n frith o gyfeiriadau at gyfrinachedd masnachol. Ac erbyn hyn, roeddwn yn rhannu fy anesmwythyd gydag Aelodau eraill. Roeddwn hyd yn oed wedi cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth pan wrthodwyd ceisiadau rhyddid gwybodaeth. I dorri stori hir yn fyr, roedd Cadeirydd y pwyllgor diwylliant—Bethan—yn cytuno bod angen archwilio hyn ymhellach, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am fanteisio ar y cyfle hwnnw.
Oherwydd daw'n amlwg bellach erbyn 2016, pan ddechreuais i ofyn y cwestiynau hyn, fod llawer iawn o newidiadau costus wedi digwydd yn y berthynas honno. Roedd y gwrthdaro buddiannau a oedd yn mudlosgi wedi tanio ac roedd y rhagolygon ariannol ymhell i ffwrdd ac nid oedd neb yn gwybod amdano. Er gwaethaf cwestiynau pellach gennyf fi ac Adam Price, ni chafodd hyn ei amlygu mewn unrhyw ffordd o gwbl tan i'r Archwilydd Cyffredinol, fel y gwyddom, ymwneud â'r mater y llynedd.
Rwyf am i Lywodraeth Cymru wybod ein bod yn deall ac yn parchu cyfrinachedd masnachol. Ond mae angen i Weinidogion barchu eu dyletswydd i fod yn agored pan fydd y Cynulliad hwn yn craffu arnynt, ac efallai y dylent gofio hefyd y gallai rhai ohonom fod yn gyfarwydd â'r cysyniad o gyfrinachedd masnachol o'n bywydau blaenorol. Gwn yn union beth y mae'n ei olygu. Nid Harry Potter yw Llywodraeth Cymru. Nid oes ganddi glogyn anweledigrwydd a rhaid iddi roi'r gorau i drin cyfrinachedd masnachol fel pe bai'n glogyn o'r fath.
Hyd nes y cafwyd craffu gan y pwyllgor, ni chynigiodd Gweinidog na Dirprwy Weinidog yr esboniad ar unrhyw bwynt fod Pinewood wedi rhoi feto ar atebion i gwestiynau, oherwydd pe baent wedi gwneud hynny, gallwn i ac eraill fod wedi ystyried rhoi atebion wedi'u golygu, er enghraifft. Ac er nad oes argymhelliad ar gyfrinachedd masnachol yn yr adroddiad hwn, edrychaf ymlaen at ganfyddiadau'r pwyllgor ar ôl yr ymchwiliad sydd ar y gorwel i gymorth Llywodraeth i fusnesau.
A sôn am fywydau blaenorol, roeddwn yn falch iawn fod y pwyllgor wedi edrych ymhellach ar y ffaith na chafwyd arolwg adeiladau ar gyfer adeilad y stiwdio nac amserlen waith ar gyfer gwelliannau i denantiaid. Ble mae tystiolaeth y Llywodraeth y byddai gwario £1 filiwn ar y to wedi ychwanegu gwerth cyfatebol i'r daliad hwn? Sut na chlywodd rybuddion fod cael y bwthyn ar y safle yn rhwymedigaeth pan fynnodd y gwerthwr ei fod yn rhan o'r pecyn gwerthu? Pe bawn wedi cynghori cleientiaid yn y modd hwn pan oeddwn mewn practis preifat, gyda chaffaeliad o'r math hwn, a'r hyn a wyddom am y contract, rwy'n eithaf sicr y byddai hawliad wedi'i wneud yn erbyn fy nghwmni gan y prynwr, a'r benthyciwr o bosibl, ac rwy'n weddol sicr y buaswn wedi cael fy niswyddo. Ac rwy'n chwilfrydig i wybod pwy oedd â chyfrifoldeb yn yr achos hwn.
Oherwydd pa hyder y gallwn ei gael yn awr, ar ôl clywed bod Llywodraeth Cymru newydd brynu warws i storio meddyginiaeth rhag ofn y cawn Brexit 'dim bargen'? Sut y gallwn fod yn siŵr eu bod hyd yn oed wedi sicrhau bod y lle yn sych? Ac unwaith eto, pam na allwn gael gwybod ar ba delerau y cafodd Llywodraeth Cymru y warws honno? Rwy'n credu y gallaf deimlo Gweinidogion yn estyn am y clogyn anweledigrwydd eto.
Fel y mae'n digwydd, rwy'n cytuno gyda'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad 8. Mae angen cynnal arolwg adeiladau ar adeiladau sy'n werth llai nag £1 filiwn, hyd yn oed os ydynt i gael eu dymchwel, oherwydd dyna sut rydych yn nodi problemau sy'n berthnasol i amcangyfrif costau dymchwel. Felly, rwy'n gobeithio efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwnnw.
Rwy'n meddwl mai'r hyn y mae pawb ohonom wedi'i ddysgu o'r stori druenus hon yw nad Jeremy Corbyn yn unig sy'n cyflwyno asynnod ac ungyrn fel ceffylau pedigri. Pan fyddwch yn cyflwyno eich enillydd rasys nesaf i wneud arian, Weinidogion, byddai'n well i chi brofi ei bedigri ymlaen llaw. A phan fyddwch yn cymryd rhan mewn trefniadau pwrpasol—a chofiwch fod cytundeb Bad Wolf yn drefniant pwrpasol—gwnewch yn siŵr eich bod wedi caffael yr arbenigedd negodi angenrheidiol. Dywedodd un o gyfarwyddwr Bad Wolf, rhywun a arferai weithio i'r Llywodraeth, fod diffyg capasiti yn yr adran honno. A Jenny, rydych chi'n llygad eich lle, os ydych chi'n ymdrin â Darth Vader, nid ydych yn anfon Bambi i mewn i drafod y cytundeb.
Felly, yn olaf, rydych wedi cael eich dwyn i gyfrif yn gadarn yma, Lywodraeth Cymru. Rwyf am glywed heddiw eich bod yn mynd i dderbyn cyfrifoldeb am hyn, a dangos eich atebolrwydd wedyn. Diolch yn fawr.
A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr i'r Dirprwy Lywydd a diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ffordd gwrtais a rhesymol o gyflwyno ei adroddiad, a dŷn ni yn gwerthfawrogi, yn wir, gynnwys yr adroddiad yma a dwi'n falch ei fod o'n derbyn ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi ymateb i bob un o'r argymhellion ac eithrio un. Dŷn ni wedi gosod allan yn glir yn y llythyr anfonais i i'r pwyllgor, ac yn yr hyn a ddywedais i mewn tystiolaeth, sut ydyn ni'n bwriadu gweithredu er mwyn cywiro camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol. Ac i fod yn hollol glir, dŷn ni'n derbyn y feirniadaeth yn amlwg sydd wedi ei rhoi gan y pwyllgor. Dyna ydy diben craffu gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn wir gan y pwyllgor perthnasol ynglŷn â diwylliant hefyd.
Dwi'n falch hefyd fod Jenny Rathbone ac eraill wedi nodi pwysigrwydd y sector yma i Gymru ac mae o'n digwydd bod yn gyd-ddigwyddiad hapus i mi, beth bynnag, fy mod i'n ymateb i'r adroddiad negyddol yma, fel petai, ddiwrnod ar ôl gwneud datganiad ynglŷn â Chymru Greadigol. Fe ddywedaf i air pellach am hynny eto cyn y diwedd.
Mi ydym ni wedi gweld twf sylweddol, gyda throsiant blynyddol yn agos i £2 biliwn yn y sector yma yng Nghymru sy'n cyflogi dros 58,000 o bobl, a bod yna 50 y cant yn fwy yn gweithio yn y diwydiant erbyn hyn nag oedd 10 mlynedd yn ôl, ac rwy'n falch bod Aelodau yn cydnabod pwysigrwydd hynna.
Mae gallu cynnal seilwaith stiwdios yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth ar gyfer y sector. Fe ges i fy atgoffa'n glir iawn o hynny yn y cyfarfod ag NBC Universal yn ddiweddar ym Mro Morgannwg. Mae yna werthfawrogiad o'r adeiladau sydd gyda ni'n barod ac mae'r cwmnïau yn gweld y posibilrwydd o ddatblygu ymhellach.
Mae Cymru bellach yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer dramâu teledu a ffilmiau o ansawdd uchel a dŷn ni'n cydnabod bod yma ddewis cryf iawn ar gyfer cynhyrchu sydd yn cystadlu ag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys wrth gwrs Llundain a dyffryn y Tafwys, sydd mor ddrud o'i gymharu.
Fe wnes i amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer y diwydiannau creadigol ddoe drwy Gymru Greadigol, ac felly fe gyfeiriaf i at hynny cyn i mi ymateb i rai o'r sylwadau pellach. Mi fydd Cymru Greadigol yn ffordd o sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ysgogi twf yn y dyfodol. Mi fydd yna arbenigaeth ddigonol i ddelio â'r sector. Mi fydd yna gaffael staff ac aelodau o fwrdd a chadeirydd a fydd yn gwbl atebol i ddelio â'r diwydiant creadigol. Dwi yn derbyn, fel un sydd wedi bod yn gweithio'n achlysurol gyda'r sector creadigol ers yr 1980au, fod yna angen sgiliau gwahanol wrth ddelio â busnesion cyfryngau a busnesion sydd yn ymwneud â'r gweithgareddau creadigol nag sydd eu hangen wrth ddelio â busnesion yn arferol. Ac felly, os oes yna ddiffyg wedi bod mewn arbenigaeth a dealltwriaeth o natur arbennig cyllid ar gyfer datblygu yn y diwydiannau creadigol, mae'n sicr yn fwriad gen i y bydd Cymru Greadigol yn gallu manteisio ar y cyngor priodol o fewn y Llywodraeth ac yn arbennig y tu fas i'r Llywodraeth yn yr arbenigaeth y byddwn ni'n ceisio ei recriwtio ar gyfer Cymru Greadigol.
Mae'n bwysig dweud, fel sydd wedi cael ei ddweud yn y ddadl—i ddod yn ôl at sefyllfa Pinewood—ein bod ni wedi cael gwerth i'n diwylliant a'n heconomi yn ogystal ag i'n diwydiannau creadigol drwy gael sefydlu'r enw Pinewood yma yng Nghymru. Mae'r brand wedi helpu i sicrhau bod Cymru yn lleoliad credadwy ar gyfer cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu ac mae hynny wedi ei ddangos yn glir drwy'r gwaith sydd wedi ei wneud yma yn barod. Ond mae'r gwersi wedi cael eu dysgu a dwi'n falch bod y pwyllgor yn derbyn yr hyn dŷn ni wedi’i ddweud am hynny. Mae’r gwersi’n cynnwys dysgu’r gwahaniaeth sydd angen ei ddeall rhwng y modelau o weithredu ar gyfer stiwdios ffilm yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, a sut ydym ni’n gallu rhannu’r manteision ehangach i'r economi leol a’r enillion masnachol. Ac mi fydd y gwersi yma ar gael yn union i Gymru Greadigol pan fydd hwnnw’n weithredol o fewn y misoedd nesaf.
Ond mae’n bwysig dweud bod ein perthynas ni â Pinewood wedi sicrhau bod dros £45 miliwn wedi cael ei wario ar gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu yng Nghymru, ac rydyn ni’n credu ei bod hi yn briodol priodoli £21.5 miliwn o hyn yn uniongyrchol i gyllid gan y gyllideb fuddsoddi yn y cyfryngau ar ran y Llywodraeth, dros £13.7 miliwn i brojectau gan Pinewood, a tua £7.8 miliwn sy’n weddill i Lywodraeth Cymru ar ôl i Pinewood dynnu nôl o’r gyllideb fuddsoddi ar 31 Hydref 2017.
Wrth gwrs, rŷn ni wedi dweud y bydd yna ddiweddariad arall ar y perfformiad ariannol a'r rhagamcanion ar gyfer incwm yn cael ei roi i’r pwyllgor ym mis Rhagfyr. Rydym ni yn bendant mai dyma’r adeg briodol i wneud hynny, yn unol ag argymhellion 2 a 6 yn adroddiad y pwyllgor. A hefyd, wrth gwrs, mae ystyried y goblygiadau treth ar werth yn fater rydyn ni hefyd wedi gweithredu arno fo gyda thîm yn arbenigo mewn treth ar werth yn Llywodraeth Cymru, fel na fydd camgymeriad mor amlwg â hyn yn digwydd eto. Ac mae’r gwaith wedi dechrau hefyd i ddatblygu, fel y clywson ni, y canllaw arferion gorau ar gyfer caffael fydd yn cael ei wneud yn enw Gweinidogion Cymru. Ac mae’r gwersi yna’n cael eu dysgu ar draws y Llywodraeth. Ac mi fydd y canllaw hwnnw'n ategu’r canllawiau adrannol sydd eisoes mewn bod ac yn sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r arferion gorau wrth wneud caffaeliadau gyda’r tryloywder priodol a’r diwydrwydd dyladwy ar draws y Llywodraeth, gan dderbyn y cyfyngiadau, wrth gwrs, sydd yn codi o gwestiwn unrhyw gyfrinachedd sydd yn wirioneddol fasnachol—y pwynt a wnaed gan Suzy Davies.
Mae ein trefniadau cyllid grant, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’n perthnasau cyllido â thrydydd partïon, yn dod o dan ein telerau ac amodau grant, sy’n amlinellu cyfrifoldebau’r ddau barti’n glir. Mae’r berthynas â Pinewood, fel y dywedwyd, yn enghraifft anarferol o ystyried natur arbennig yr hyn a gafwyd er mwyn sefydlu’r cynllun yma. Ac rydyn ni’n derbyn bod y camgymeriadau a wnaed oherwydd natur arbenigol delio â’r cwmni hwn yn rhai y mae’n rhaid inni ddysgu oddi wrthyn nhw yn y dyfodol, a bod yn rhaid inni gael ffordd o ddynesu tuag at y sector greadigol sydd yn briodol i’r sector, fel ein bod ni ddim yn gorfod gwneud eithriadau o gwmnïau unigol yn y presennol a’r dyfodol, fel rydyn ni wedi’i wneud yn y gorffennol. Yn y dyfodol, os oes angen trefniadau pwrpasol i ddiffinio perthynas rhwng partïon, yna mae’n rhaid sicrhau bod cyngor proffesiynol ychwanegol yn cael ei geisio, fel y cyfeiriais i'n gynt, i sicrhau bod yr asesiadau’n gadarn, fel mae’r pwyllgor wedi argymell.
O ran arolygon o bob eiddo gwerth dros £1 miliwn sy'n cael ei gaffael, er ein bod ni’n derbyn yr egwyddor gyffredinol, mi fydd achlysuron lle na fyddai arolwg yn berthnasol, er enghraifft lle mae adeilad yn cael ei brynu neu ei ddymchwel. Rydyn ni’n derbyn fel Llywodraeth ein bod ni wedi nodi'r potensial ehangach ar gyfer gwrthdaro buddiannau yn y dyfodol, ac y byddwn ni’n sicrhau, pan fydd swyddogion yn gweld problemau, y bydd yna dynnu sylw at Weinidogion yn syth, ac mae’n bosib na wnaed hynny yn ddigon cyflym, fel rydyn ni’n ei dderbyn yn yr adroddiad yma.
Mi fydd cymorth ar gyfer y sector yma yn y dyfodol yn cynnwys—fel dywedais i ddoe yn y datganiad mwy cyffredinol ar Cymru Greadigol—pwyslais ar waith teg a hybu sgiliau, sydd yn rhan o’n cynllun ni ar weithredu ar yr economi. Hefyd, mi fydd contract economaidd y cynllun gweithredu ar yr economi yn cyd-fynd â’r synergedd rhwng y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol a'n golygu y byddwn ni'n gallu gweld y manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol gyda’i gilydd, ac mae hynny’n golygu y bydd yna fwy o gyfrifoldeb cymdeithasol cyfrifol tuag at y sector yn y dyfodol.
A gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog ddirwyn i ben?
Iawn. Yn olaf, hoffwn ddweud bod y trefniadau gyda Bad Wolf wedi'u cyfeirio—
Mae'r cytundeb gyda Bad Wolf ynglŷn â rhentu'r lle gwag yn Pinewood yn gweithredu am y 12 mis nesaf, ac mae'r gwaith cynhyrchu'n mynd yn ei flaen, ac mae'r adeiladau presennol i gyd yn llawn. Dyw hynny ddim yn cyfiawnhau beth ddigwyddodd yn y gorffennol, ond mae o'n dangos bwriad clir y Llywodraeth i fod yn effeithiol yn y maes yma. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi ofyn i Nick Ramsay ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw a diolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am ei sylwadau, ac i bawb am godi nifer o bwyntiau pwysig? Credaf y dylwn nodi hefyd fod y pwyllgor yn cydnabod bod rhai o'r materion hyn yn dyddio'n ôl gryn dipyn o amser ac yn amlwg, nid oedd y Dirprwy Weinidog yn ei swydd bryd hynny, ond roedd nifer o swyddogion yn eu swyddi ac roeddem yn falch o glywed tystiolaeth ganddynt a gwneud ein hargymhellion.
Os caf gyffwrdd ar rai o'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau a gyfrannodd. Jenny Rathbone, soniasoch am fater TAW—ni soniais am hynny'n iawn yn fy sylwadau agoriadol, felly rwy'n falch i chi ei godi oherwydd roedd yn bwynt pwysig a drafodwyd yn ein hadroddiad. Rydym wedi gweld enghreifftiau eraill mewn prosiectau Llywodraeth Cymru lle nad yw TAW wedi cael ei ystyried i bob pwrpas. Rwy'n gwybod bod y sefyllfa wedi codi gyda'r trafodaethau cynnar ar yr M4 hefyd. Felly, mae hwnnw'n faes lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud pethau'n iawn ac mae'n rhaid iddynt feithrin eu harbenigedd yn y maes hwnnw, oherwydd, gadewch inni wynebu'r gwir, mae TAW yn elfen eithaf sylfaenol ym mywydau pawb ohonom mewn gwirionedd, ac ym mywyd Llywodraeth Cymru yn sicr, felly mae'n rhywbeth sydd angen ei gael yn iawn, ac rwy'n falch o glywed y sylwadau gan y Dirprwy Weinidog ynglŷn â hynny.
Fel y dywedoch chi, Jenny, roeddech yn hael yn dweud y gellid cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio bod yn rhy uchelgeisiol yn ôl yn 2014 pan lofnodwyd y contractau gwreiddiol gyda Pinewood. Roedd hwn yn dir arloesol. Fel y dywedodd Mohammad Asghar, mae'n faes a ysgogodd gryn gyffro ar ran y Llywodraeth ac ymhlith pobl ledled Cymru. Mae'n beth gwych i ni gymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol gyda'r diwydiant teledu a ffilm ac rwy'n credu y byddai pawb yn dymuno'n dda i'r prosiect. Wrth gwrs, fel y gwyddom yn awr wrth edrych yn ôl, nid oedd pethau mor hyfryd ag yr ymddangosent ar y pryd, ac yn anffodus, daeth y berthynas honno i ben ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach heb y difidendau a addawyd. Ond roedd yna obaith ar y cychwyn, a gobeithio y gellir ailgynnau'r fflam honno yn y dyfodol.
Mae pawb ohonom yn derbyn nad yw hwn yn faes hawdd i weithredu ynddo; gall gymryd sawl blwyddyn i wireddu manteision menter o'r fath, ond yn bendant ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn, pan derfynwyd y berthynas honno, felly mae angen dysgu'r gwersi.
Siaradodd Mohammad Asghar am yr adeilad rhestredig. Dylid bod wedi cynnal arolwg yn yr achos hwn—wrth gwrs y dylid bod wedi gwneud hynny. Rwy'n credu bod pawb yn cydnabod hynny bellach. Rwy'n deall y rhesymau pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad. Efallai y bydd adegau pan fydd arolwg yn wastraff arian os yw adeilad yn mynd i gael ei ddymchwel, felly ni fyddai angen hynny, nac yn wir y gwrthwyneb i hynny, lle gallai fod achos dros arolwg lle mae pryniannau yn werth llai nag £1 filiwn. Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw, sut bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—[Torri ar draws.]—Fe ddof â chi i mewn yn awr, Mike. Sut bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, rydym am weld y broses honno'n digwydd fel bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud ar y pryd. Mike Hedges.
Roeddwn yn mynd i ddweud, os ydych am ei ddymchwel, does bosibl nad oes angen i chi gael arolwg i weld a oes asbestos neu bethau eraill yn yr adeilad, a fyddai'n cynyddu'r gost o'i ddymchwel.
Ie, rwy'n credu mai'r hyn sydd dan sylw yma yw y bydd amgylchiadau unigol ym mhob achos, ac rydym wedi cytuno fel pwyllgor y dylai'r gweithdrefnau sydd ar waith yn Llywodraeth Cymru fod yn ddigon cadarn fel y gellir ystyried yr amgylchiadau unigol hynny, ac os oes unrhyw awgrym fod angen arolwg, dylai ddigwydd, ac os gellir diystyru arolwg yn gyfan gwbl, gall hynny ddigwydd hefyd. Ond yn amlwg, aeth rhywbeth o'i le yn yr achos hwn. Ond diolch, Mike.
Bethan Sayed, gwn i'ch pwyllgor wneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn. Roeddem yn hapus i dderbyn y cais i edrych yn fanylach arno, fel y gwyddoch, o safbwynt budd y cyhoedd—o safbwynt gwerth am arian cyhoeddus. Rwy'n falch i chi ei gyfeirio atom. Gwnaethoch bwynt diddorol yn eich cyfraniad nad oedd y model y mae Llywodraeth Cymru'n dibynnu arno yn addas i Gymru. Nid wyf yn siŵr a wnaethom y pwynt hwnnw yn ein hadroddiad—awgrymwyd hynny yn ein tystiolaeth—ond credaf ei fod yn fater sy'n ganolog i hyn yn ôl pob tebyg, sef yn sicr, os ydym yn mynd i geisio cyflawni'r mentrau hyn yn y dyfodol i annog y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru, mae'n bwysig fod y model sy'n cael ei ddefnyddio yn addas i Gymru. Byddwn yn aml yn sôn am ddatganoli'n creu budd o fod yn addas i Gymru, ond mae'n ymddangos weithiau, wrth inni fwrw ati i ddatganoli ymhellach, nad ydym yn defnyddio modelau sy'n addas, felly mae hwnnw'n faes y dylid edrych arno, felly rwy'n falch ichi ei godi. Efallai na ddylai fod disgwyl i Lywodraeth Cymru gael yr holl brofiad ac arbenigedd angenrheidiol yn y meysydd hyn ar ddechrau menter o'r fath, ond mae angen iddynt allu cael y gallu i wybod ble mae'r bylchau a cheisio llenwi'r wybodaeth honno.
Suzy Davies, unwaith eto, roeddech yn pryderu am y diffyg tryloywder a mater cyfrinachedd masnachol, sy'n codi dro ar ôl tro yn ein dadleuon yn yr adeilad hwn. Credaf i chi ddweud nad yw'n glogyn anweledigrwydd, a soniasoch am Harry Potter hefyd, gan barhau â'r cyfeiriadau ffilm a chyfryngau. Da iawn, Suzy. Oes, mae angen i ni sicrhau nad yw'r clogyn anweledigrwydd, cyfrinachedd masnachol, yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno a'i fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n briodol.
A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb calonogol iawn heddiw, ac am y ffordd y mae wedi ymateb i'r argymhellion—yn wir, i Lywodraeth Cymru am dderbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion? Fel y dywedais, rwy'n cydnabod bod rhesymau rhesymegol dros wrthod argymhelliad 8, ond gofynnaf yn barchus ichi lynu wrth ysbryd yr argymhelliad hwnnw yn y dyfodol a'r holl bwyntiau a wneuthum yn gynharach—sef bod Llywodraeth Cymru yn gwybod p'un a oes angen arolwg ai peidio, ac nad ydym yn y sefyllfa hon eto yn y dyfodol.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ei gyfeiriad at Cymru Greadigol? Nid wyf am roi gormod o sylw i hyn, oherwydd fe wnaethoch ddatganiad ar hynny ddoe, ac mae'n enghraifft o strategaeth sy'n cael ei dilyn a'i datblygu ar hyn o bryd, felly dyna'r union fath o faes lle byddem yn gobeithio nad yw'r gwersi a ddysgir yma yn mynd i mewn i ddogfen i'w gadael ar silff lychlyd yn rhywle, ond eu bod yn cael eu hymgorffori yn y broses o lunio polisïau cyfoes a modern, fel bod yr hyn y mae pawb ohonom am ei weld—sef gwelliant yn y sefyllfa yn y dyfodol—yn digwydd mewn gwirionedd.
Felly, yn gryno, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl heddiw, i Aelodau'r Cynulliad, aelodau'r pwyllgor diwylliant yn benodol, sydd wedi cyfrannu agwedd werthfawr at y ddadl heddiw? A gaf fi hefyd ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb? Mae materion ehangach yn y fantol yma, neu yn hytrach, mae yma wersi i'w dysgu ar draws Llywodraeth Cymru i gyd, nid un adran yn unig, ac mae angen taro cydbwysedd. Yn sicr, fel pwyllgor, nid oeddem am weld creadigrwydd yn cael ei fygu, yn sicr nid oeddem am gau'r drws ar gyfleoedd ffilm a theledu i Gymru yn y dyfodol a chynyrchiadau a wneir yma yng Nghymru ac yn wir, yma yng Nghaerdydd. Felly, roeddem yn ofalus iawn o ran y modd y lluniasom yr adroddiad, a gobeithio bod hynny wedi'i werthfawrogi. Ond mae'n rhaid taro'r cydbwysedd cywir. Yn y pen draw, rhaid diogelu buddiannau'r trethdalwr hefyd ac mae angen inni sicrhau yn y dyfodol, pan wneir y mathau hyn o benderfyniadau, fod y profiad cywir, yr arbenigedd cywir—os nad yw yno ar y dechrau, yn cael ei ddwyn i mewn i Lywodraeth Cymru—fel y gall trethdalwyr Cymru fod yn hyderus fod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.