Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'n partneriaid yn y mudiad undebau llafur am eu gwaith yn cefnogi Plaid Cymru i ddatblygu'r cynnig hwn. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, ac rydym yn falch o allu cynnal y ddadl heddiw. Credwn ei bod yn bwysig nodi'r diwrnod drwy roi cyfle i Aelodau yn y Siambr hon leisio cefnogaeth ac undod â gweithwyr a chyfrannu at y ddadl ar hawliau gweithwyr. Mae TUC Cymru am wneud Cymru yn genedl gwaith teg. Mae Plaid Cymru yn rhannu'r gwerthoedd sylfaenol hyn. Does bosibl nad ydym i gyd am i weithwyr yng Nghymru elwa o gydfargeinio a chael dweud eu barn am gyflogau ac amodau'r gweithle, yn ogystal â thelerau ac amodau eu cytundebau. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau yn gyfarwydd iawn â'r materion hyn o'n gwaith achos. Dro ar ôl tro, clywn am arferion annheg yn y farchnad lafur, cyflogau isel, contractau amheus, gwahaniaethu ac arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac yn y blaen.
Mae'n wir dweud bod diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ers dechrau'r argyfwng ariannol, ond nid yw hynny'n golygu bod cyflogau wedi codi. Mae gwaith ar gyflog isel yn bla yng Nghymru. Talwyd cyflogau is na'r cyflog byw gwirfoddol mewn tua chwarter y swyddi yn y wlad hon yn 2017, gydag amrywiadau rhanbarthol yn y ffigur. Er enghraifft, roedd un o bob pum swydd yng Nghaerffili yn rhai ar gyflogau isel; roedd un o bob tair swydd ym Mlaenau Gwent yn rhai ar gyflogau isel. Yn 2016, talwyd llai na'r isafswm cyflog statudol mewn tua 17,000 o swyddi yng Nghymru. Canfu'r Comisiwn Cyflogau Isel fod y rhan fwyaf o weithwyr ar gyflogau rhy isel yn fenywod, yn gweithio'n rhan-amser, ac yn cael eu talu fesul awr. Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at gynyddu lefelau tlodi mewn gwaith. Yn wahanol i'r gorffennol, nid yw gwaith heddiw o reidrwydd yn arwain at lwybr allan o dlodi. Mae cyflogau, oriau gwaith, newidiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol oll wedi cael effaith ac effaith andwyol ar ein cymunedau. Rhwng 2014 a 2017, gwelwyd cynnydd o 10 y cant yn nifer y plant a oedd yn byw mewn tlodi cymharol lle'r oedd yr holl oedolion o oedran gweithio yn gweithio. Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud am gontractau dim oriau, er enghraifft, sy'n cyfrannu at hyn, ond bydd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones, yn trafod hynny maes o law.
Efallai nad oes gan y Senedd yr holl ddulliau economaidd at ei defnydd i ymdrin â'r holl broblemau hyn, ond mae pethau y gall y Llywodraeth eu gwneud, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y cynnig hwn i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol i hybu newid diwylliannol ym marchnad lafur Cymru, lle mae llais torfol y gweithwyr yn gyfartal â llais cyflogwyr—ffordd Gymreig o gryfhau hawliau gweithwyr y mae gennym hanes hir o'u cefnogi. Felly, gadewch inni sicrhau ein bod yn cadw'r traddodiad hwnnw'n fyw.
Rydym hefyd am weld ymrwymiad clir i hyn yn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, siom fawr i ni oedd bod Llywodraeth Lafur wedi difetha ein cynnig i bob pwrpas drwy ddileu pob pwynt ar ôl pwynt 1, gan ei droi'n ddatganiad hunanglodforus a diystyr arall, gyda geiriau di-ddim a chic hir i laswellt hirach byth. Rwy'n gwybod, oherwydd fy mod wedi bod ar banel gyda Martin Mansfield o TUC Cymru, eu bod am weld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio gydag amserlen glir.
Felly, edrychaf ymlaen at glywed sut y gall y Llywodraeth gyfiawnhau diwygio'r cynnig yn y fath fodd, ac apeliaf ar bob un o'r Aelodau Llafur ar y meinciau cefn sy'n gwerthfawrogi eu perthynas â'r undebau llafur i'n cefnogi yn hyn o beth. Dangoswch iddynt, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, o bob diwrnod, y byddwch yn rhoi hawliau gweithwyr uwchben chwip y blaid ar y diwrnod hwn heddiw.