– Senedd Cymru ar 1 Mai 2019.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar hawliau gweithwyr, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7034 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau gweithwyr yng Nghymru.
2. Yn nodi bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran lefelau cyflog teg, gyda llawer o bobl yng Nghymru ar gyflogau sydd 30 y cant yn is na gweddill poblogaeth y DU.
3. Yn credu y dylid diweddaru'r ddeddfwriaeth i:
a) cyflawni 'Gwaith Teg' gan ddefnyddio dulliau polisi ac ariannu a chynyddu cwmpas cydfargeinio;
b) amddiffyn hawliau gweithwyr drwy ddulliau gorfodi mwy effeithiol; ac
c) sefydlu partneriaeth gymdeithasol a chydfargeinio yng ngwead bywyd gwaith Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob un o wasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno deddf partneriaeth gymdeithasol ac amserlen sy'n gysylltiedig â rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'n partneriaid yn y mudiad undebau llafur am eu gwaith yn cefnogi Plaid Cymru i ddatblygu'r cynnig hwn. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, ac rydym yn falch o allu cynnal y ddadl heddiw. Credwn ei bod yn bwysig nodi'r diwrnod drwy roi cyfle i Aelodau yn y Siambr hon leisio cefnogaeth ac undod â gweithwyr a chyfrannu at y ddadl ar hawliau gweithwyr. Mae TUC Cymru am wneud Cymru yn genedl gwaith teg. Mae Plaid Cymru yn rhannu'r gwerthoedd sylfaenol hyn. Does bosibl nad ydym i gyd am i weithwyr yng Nghymru elwa o gydfargeinio a chael dweud eu barn am gyflogau ac amodau'r gweithle, yn ogystal â thelerau ac amodau eu cytundebau. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau yn gyfarwydd iawn â'r materion hyn o'n gwaith achos. Dro ar ôl tro, clywn am arferion annheg yn y farchnad lafur, cyflogau isel, contractau amheus, gwahaniaethu ac arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac yn y blaen.
Mae'n wir dweud bod diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ers dechrau'r argyfwng ariannol, ond nid yw hynny'n golygu bod cyflogau wedi codi. Mae gwaith ar gyflog isel yn bla yng Nghymru. Talwyd cyflogau is na'r cyflog byw gwirfoddol mewn tua chwarter y swyddi yn y wlad hon yn 2017, gydag amrywiadau rhanbarthol yn y ffigur. Er enghraifft, roedd un o bob pum swydd yng Nghaerffili yn rhai ar gyflogau isel; roedd un o bob tair swydd ym Mlaenau Gwent yn rhai ar gyflogau isel. Yn 2016, talwyd llai na'r isafswm cyflog statudol mewn tua 17,000 o swyddi yng Nghymru. Canfu'r Comisiwn Cyflogau Isel fod y rhan fwyaf o weithwyr ar gyflogau rhy isel yn fenywod, yn gweithio'n rhan-amser, ac yn cael eu talu fesul awr. Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at gynyddu lefelau tlodi mewn gwaith. Yn wahanol i'r gorffennol, nid yw gwaith heddiw o reidrwydd yn arwain at lwybr allan o dlodi. Mae cyflogau, oriau gwaith, newidiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol oll wedi cael effaith ac effaith andwyol ar ein cymunedau. Rhwng 2014 a 2017, gwelwyd cynnydd o 10 y cant yn nifer y plant a oedd yn byw mewn tlodi cymharol lle'r oedd yr holl oedolion o oedran gweithio yn gweithio. Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud am gontractau dim oriau, er enghraifft, sy'n cyfrannu at hyn, ond bydd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones, yn trafod hynny maes o law.
Efallai nad oes gan y Senedd yr holl ddulliau economaidd at ei defnydd i ymdrin â'r holl broblemau hyn, ond mae pethau y gall y Llywodraeth eu gwneud, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y cynnig hwn i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol i hybu newid diwylliannol ym marchnad lafur Cymru, lle mae llais torfol y gweithwyr yn gyfartal â llais cyflogwyr—ffordd Gymreig o gryfhau hawliau gweithwyr y mae gennym hanes hir o'u cefnogi. Felly, gadewch inni sicrhau ein bod yn cadw'r traddodiad hwnnw'n fyw.
Rydym hefyd am weld ymrwymiad clir i hyn yn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, siom fawr i ni oedd bod Llywodraeth Lafur wedi difetha ein cynnig i bob pwrpas drwy ddileu pob pwynt ar ôl pwynt 1, gan ei droi'n ddatganiad hunanglodforus a diystyr arall, gyda geiriau di-ddim a chic hir i laswellt hirach byth. Rwy'n gwybod, oherwydd fy mod wedi bod ar banel gyda Martin Mansfield o TUC Cymru, eu bod am weld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio gydag amserlen glir.
Felly, edrychaf ymlaen at glywed sut y gall y Llywodraeth gyfiawnhau diwygio'r cynnig yn y fath fodd, ac apeliaf ar bob un o'r Aelodau Llafur ar y meinciau cefn sy'n gwerthfawrogi eu perthynas â'r undebau llafur i'n cefnogi yn hyn o beth. Dangoswch iddynt, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, o bob diwrnod, y byddwch yn rhoi hawliau gweithwyr uwchben chwip y blaid ar y diwrnod hwn heddiw.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cymeradwyo gwaith pob Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth gymdeithasol effeithiol gydag undebau llafur a busnesau Cymru.
Yn nodi bod y dull gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.
Yn croesawu’r camau a ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig sy’n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwynt 4.
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar ddatblygu deddf partneriaethau cymdeithasol.
Gwelliant 4—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a dweud hefyd y byddaf yn cynnig y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar.
A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi'r mwyafrif helaeth o gynnig Plaid Cymru? Rwy'n cefnogi eu pwyntiau 1, 2 a 3 yn arbennig, ac rwy'n edrych ar bwynt 2 yn eu cynnig, sy'n nodi—cynnig sy'n nodi ydyw—fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o ran lefelau cyflog teg, gyda llawer o bobl yng Nghymru ar gyflogau 30 y cant yn is na gweddill poblogaeth y DU. Mae'n ffaith drist fod hynny'n gywir, ond yn siomedig mai felly y mae, ac rwy'n credu bod hynny o ganlyniad i'r Llywodraeth, ac ers inni gael datganoli 20 mlynedd yn ôl, mae'r bwlch wedi lledu, sy'n gwneud hyn yn fwy siomedig byth. Mae adolygiad Taylor o arferion gwaith modern yn dweud—ac rwy'n dyfynnu yma—fod hyblygrwydd yn y farchnad lafur yn bwysig a rhaid ei gadw er mwyn cadw cyfraddau cyfranogiad yn uchel, ac mae'r adroddiad yn cyfeirio at yr arolwg o'r llafurlu yn 2017, a ganfu fod un rhan o bump o bobl ar gontractau dim oriau mewn addysg amser llawn, ac nad yw 68 y cant o'r rheini sydd â chontractau eisiau mwy o oriau. Yn sicr, yr awgrym yno yw bod y mwyafrif helaeth y bobl sydd arnynt yn fodlon â chontractau dim oriau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn bendant.
Diolch. Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng contractau dim oriau, sy'n rhoi'r holl bŵer yn nwylo'r cyflogwr, a chontractau gweithio hyblyg, lle mae'r pŵer yn fwy cytbwys. Nid wyf yn gwybod a oes gennych aelodau o'r teulu sydd wedi bod yn gweithio ar gontractau dim oriau, ond mae gennyf fi, ac fel y dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, nid wyf erioed wedi cyfarfod ag unrhyw un sy'n gweithio ar gontract dim oriau a oedd eisiau'r contract hwnnw. Efallai eu bod am gael hyblygrwydd ond nid oeddent am gael contract dim oriau lle mae'r pŵer gyda'r cyflogwr.
Credaf fod yma gydbwysedd sy'n rhaid ei daro, ac mae'n amlwg ein bod ar ochr wahanol i'r cydbwysedd hwnnw, ond yr hyn y mae contractau dim oriau'n ei gynnig yw hyblygrwydd i weithwyr, gan gynnig patrymau i weithwyr sy'n gweddu i'w hamgylchiadau personol ac yn rhoi gallu iddynt weithio mewn ffordd sy'n addas iddynt hwy. Mae contractau dim oriau hefyd yn rhoi hyblygrwydd i fusnesau, gan ganiatáu iddynt ateb y galw gan gwsmeriaid ar adegau prysurach. Dyna un o'r pethau sydd hefyd yn bwysig yma, a dyma pam na all fy nghyd-Aelodau a minnau ar yr ochr hon gefnogi'r rhan honno o'ch cynnig. Ond rwy'n amau bod yr hyn yr ydym am ei gyflawni yr un fath—mae'r ffordd rydym yn ei gyflawni'n wahanol, dyna i gyd, ac mae cydbwysedd gwahanol yma o ran hynny. Ond dylai gweithwyr allu sicrhau gwaith teg, a dylai cyflogeion allu cael hawl i ofyn i'w cyflogwr am gontractau mwy rhagweladwy a sefydlog os yw'n well ganddynt. Dyma graidd ein gwelliant, gan gymryd agwedd Llywodraeth y DU yma yn eu hymrwymiadau hwy hefyd i warchod hawliau gweithwyr. Mae angen i ni gael dull o weithredu sy'n grymuso gweithwyr, yn rhoi'r gallu iddynt ddewis pa gontract sy'n gweddu orau i'w gofynion personol ac ariannol. Er bod yr Undeb Ewropeaidd yn nodi'r gofynion sylfaenol y dylai gweithwyr eu mwynhau, mae Llywodraeth y DU wedi rhagori arnynt yn gyson, ac mae wedi arwain y ffordd o ran gwella hawliau gweithwyr. Mae hyn yn cynnwys ehangu hawliau mamolaeth ac absenoldeb rhieni yr UE. Mae cynigion newydd yn cynnwys rhoi mwy o amddiffyniad i fenywod beichiog [Torri ar draws.]—mewn munud—a rhieni newydd rhag dileu swyddi, ac ymestyn yr amddiffyniadau presennol a fwynheir gan rieni i rieni eraill, megis y rhai sy'n dychwelyd o absenoldeb rhiant a rennir. Iawn.
Felly, gyda'r hyn rydych wedi'i ddweud, pam nad yw Theresa May yn cefnogi'r siarter hawliau sylfaenol? Pam ei bod yn mynnu bod y siarter yn cael ei heithrio'n ddeddfwriaethol rhag unrhyw gysylltiad â hawliau gweithwyr Cymru, hawliau gweithwyr y DU?
Wel, rwyf eisoes wedi dweud bod Llywodraeth y DU wedi mynd y tu hwnt i'r amddiffyniadau a geir o dan gyfraith yr UE. Rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw, a hoffwn orffen drwy ddweud fy mod yn cytuno â Leanne Wood o ran y siom fod y Llywodraeth wedi dileu cynnig Plaid Cymru yn ei gyfanrwydd, a gallwn gytuno â'r rhan fwyaf o'r cynnig hwnnw. Am y rheswm hwnnw—[Torri ar draws.] Am y rheswm hwnnw, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ar hawliau gweithwyr. Hoffwn siarad yn falch am y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac aelodau eraill o'r meinciau hyn ar hyrwyddo'r hawliau hynny. I rai ohonom, mae hwn yn fater real a phersonol, ac yn fy achos i bûm yn swyddog undeb llafur am 30 mlynedd yn amddiffyn ac ymladd am hawliau gweithwyr bob dydd. Rwy'n parhau i fod yn aelod balch o Unsain ac yn parhau i gefnogi ac edmygu'r gwaith a wnânt ar ran gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU a thu hwnt. Fel merch i swyddog Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol mae'n amlwg i mi fod rhai pethau, fel perthyn i undeb llafur, yn rhywbeth sydd yn y gwaed.
Yn ystod y blynyddoedd a dreuliais yn swyddog undeb llafur cofiaf weithio gyda chyd-Aelodau, fel Vaughan Gething a Mick Antoniw, fel partneriaid cyfraith cyflogaeth yn gweithio ar achosion personol a chyfunol a oedd o fudd i filoedd lawer o bobl—buddion a enillwyd drwy fynnu eu hawliau yn y gweithle. Hefyd, cofiaf weithio'n agos gydag Eluned Morgan yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ein gwrthwynebiad i'r Bil Undebau Llafur, a cheisio amddiffyn gweithwyr yng Nghymru rhag ras y Torïaid i'r gwaelod, a'r balchder o weld y Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn cyflwyno deddfwriaeth i warchod Cymru rhag yr ymosodiadau ar drefniadaeth undebau llafur yn y sector cyhoeddus.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Heb amheuaeth, mae eich cyfraniad i hawliau gweithwyr a'r mudiad undebau llafur yn ganmoladwy. A ydych chi felly'n gresynu at y gwelliant a gyflwynwyd gan y Llywodraeth heddiw i ddileu holl sylwedd ein cynnig i bob pwrpas, a dim ond llongyfarch ei hun heb feddwl am yr hyn y gall ei wneud yn y dyfodol i warchod hawliau'r gweithwyr hynny ymhellach?
Na, rwy'n ddigon hapus gyda'r gwelliant ac fe egluraf pam wrth i mi barhau. Hoffwn ddweud ei bod yn ddrwg gennyf, Russell, er gwaethaf yr hyn a ddywedwch, mai ateb y Torïaid i'r problemau yn y gweithle bob amser yw ymosod ar weithwyr a'r rhai sy'n eu cynrychioli gan anwybyddu'r cathod tew yn ystafelloedd y byrddau gyda'u taliadau bonws tra bo gweithwyr yn wynebu cyni yn gyson a rhewi cyflogau drwy'r cyfnodau anodd hyn. Ar y meinciau hyn, fodd bynnag, mae gennym werthoedd greddfol a chynhenid sy'n dal i helpu i lunio'r gwaith a wnawn yn y Senedd hon. Yng nghyfnod datganoli, gwelsom Lywodraethau Llafur Cymru olynol yn datblygu agenda hawliau gweithwyr, yn ymgorffori partneriaeth gymdeithasol, yn gweithio tuag at genedl gwaith teg, yn hyrwyddo cydfargeinio, yn diogelu ac ariannu Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yn diddymu contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol, yn cyflwyno codau ar gyflogaeth a chaffael moesegol, yn sefydlu'r contract economaidd, ac fel y crybwyllwyd eisoes, yn diddymu elfennau gwaethaf Deddf Undebau Llafur filain y Torïaid yma yng Nghymru, ac yn olaf, Llywodraeth Lafur sydd wedi ymrwymo i ddatblygu Deddf partneriaeth gymdeithasol yn nhymor y Cynulliad hwn. Mae cymaint o gyflawniadau balch gan ein mudiad Llafur, ond ar ôl nodi'r Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr, credaf ei fod yn ein hatgoffa nad yw'r gwaith hwn wedi'i gwblhau o bell ffordd, boed hwnnw'n waith ar iechyd a diogelwch, ar ddiogelu'r enillion a wnaethom ar gydraddoldeb, neu weld mwy o weithwyr yn cael eu hamddiffyn drwy gydfargeinio. Ac roeddwn yn falch iawn o weld bod symud tuag at gydfargeinio gorfodol yn rhan o faniffesto cyffredinol y Blaid Lafur yn 2017 mewn gwirionedd, sy'n dangos bod Llafur yn parhau i fod yn blaid y gweithwyr heb unrhyw amheuaeth.
Ond ni allem gael y ddadl hon, wrth gwrs, heb sôn am Brexit, ac mae eraill wedi cyffwrdd â hyn. Os gadawn yr Undeb Ewropeaidd, bydd angen inni gryfhau ein hymdrechion i sicrhau bod pob hawl a enillir gan weithwyr ar draws Ewrop yn dal i fod yn ganolog i hawliau gweithwyr yn y DU hefyd. Ni allwn ac ni fyddwn yn caniatáu i hawliau gweithwyr gael eu haberthu ar allor y dadreoleiddio a'r masnachu rhydd y mae prif bleidwyr Brexit yn daer eisiau eu gweld. Mae llawer o waith i'w wneud eto yn yr UE neu'r tu allan iddo, ac ni fydd rhai ohonom byth yn rhoi'r gorau i'r frwydr honno, oherwydd, i rai ohonom, mae ymladd dros hawliau gweithwyr yn ein DNA.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn, y ddadl bwysig hon. Mae'n wych i ni gyd fel Senedd allu dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, a gwnawn hyn, wrth gwrs, yng nghyd-destun datganiad teimladwy iawn gan Mick Antoniw, a chofio mai dydd Sul oedd y Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr.
Nawr, cawsom ein hatgoffa gan Mick o thema'r diwrnod hwnnw, sef cofio'r meirw ac ymladd dros y byw. Ac rwyf am ganolbwyntio ar fy siom ynglŷn â'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi dewis diwygio'r cynnig hwn mewn perthynas â chontractau dim oriau. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl ar gontractau dim oriau eisiau bod ar gontractau dim oriau, ac rwyf am roi ychydig ffeithiau o ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni gan Gyngres yr Undebau Llafur. Mae pobl ar gontractau dim oriau fwy na dwywaith mor debygol o fod yn gweithio sifftiau nos, a chânt eu talu traean yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr eraill. Y cyflog canolrifol fesul awr cyn treth i rywun ar gontract dim oriau oedd £7.70, o'i gymharu â £11.80 i weithwyr eraill. Unwaith eto, mae 23 y cant o gontractau dim oriau yn cynnwys gwaith nos gorfodol.
Nawr, y peth am gontract dim oriau, yn hytrach na pherthynas weithio hyblyg, yw bod yr holl bŵer yn nwylo'r cyflogwr. Sut y mae disgwyl i bobl fyw pan na wyddant o'r naill wythnos i'r llall faint o oriau y maent yn mynd i weithio? Mae gweithio hyblyg yn gweithio i rai pobl, ond nid gweithio hyblyg yw contract dim oriau, ac rydym wedi mynd i'r arfer—ac mae arnaf ofn i ni weld hyn braidd gyda Russell George—o ddefnyddio'r rhain yn gyfnewidiol. Ac nid yr un peth ydyw. Mae contractau hyblyg yn rhoi'r un pŵer i'r gweithiwr ac i'r cyflogwr; gyda chontractau dim oriau, mae'r holl bŵer yn nwylo'r cyflogwr, ac nid yw hynny'n deg.
Felly, mae ein cynnig gwreiddiol yn dweud hyn—mae cymal 4
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob un o wasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig'.
Mae'r gwelliant yn dweud ei fod
'Yn croesawu'r camau a ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a'r gwaith a wnaed drwy'r Cod Ymarfer'.
Wel, mae hynny'n awgrymu bod y fath beth â chontract dim oriau nad yw'n ecsbloetiol yn bodoli, ac nid oes neb ar y meinciau hyn yn credu bod hynny'n wir. Mae contractau dim oriau yn fewnforion Americanaidd annifyr na ddylem eu cael yma yn unrhyw un o wledydd yr ynysoedd hyn, ac yn sicr nid yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Mae'n flin iawn gennyf, ni welais. Mick.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Nid wyf yn credu bod neb yn anghytuno â'r naratif a roesoch, ond o ran fformat y cymal, a dderbyniwch ei fod y tu allan i'n cymhwysedd deddfwriaethol mewn gwirionedd?
Roeddwn ar fin dod at hynny, oherwydd wrth gwrs o ran gwahardd—gwahardd yn gyfreithiol—contractau dim oriau nid oes gennym gymhwysedd i wneud hynny. Ond nid yw ein cynnig yn gofyn am hynny. Yr hyn y mae ein cynnig yn ei ofyn yw i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phŵer economaidd i gadw contractau dim oriau allan o'r meysydd gwasanaeth y mae ganddi reolaeth drostynt—
'gwasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig'.
Pe bai Llywodraeth Cymru yn dewis eu gwahardd mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy wahanol gytundebau lefel gwasanaeth a'r gwahanol ffyrdd y caiff eu gwasanaethau cyhoeddus eu rheoli, gallent wneud hynny. Pe baent yn dewis rhoi cymal i mewn sy'n ei wahardd, drwy'r contractau a osodir ganddynt a'r contractau a osodir gan gyrff cyhoeddus, byddai hynny'n gwbl gyfreithlon o fewn deddfwriaeth y DU fel y mae. Wrth gwrs, ar y meinciau hyn, teimlwn y dylem gael pŵer i ddeddfu, ond gadewch inni ddefnyddio'r pŵer sydd gennym.
Nawr, a gafwyd rhai camau ymlaen? Yn sicr. Ond rydym yn gofyn am rywbeth penodol. Rwyf fi, fel Leanne Wood, yn siomedig iawn eich bod chi fel Llywodraeth, ar rywbeth y byddem wedi disgwyl y gallem gytuno'n fras arno ar draws y rhan fwyaf o'r meinciau hyn, ac yn wir â chyd-Aelodau mewn rhannau eraill o'r Siambr, wedi dewis diberfeddu ein cynnig a gwneud dim ond canmol eich hunain am yr hyn sydd wedi'i wneud eisoes. Nid wyf yn credu bod hynny'n cyd-fynd ag ysbryd y ffordd y cyflwynasom y cynnig hwn a sut y gobeithiem y byddech yn ymateb.
Felly, gadewch imi ddod yn ôl at yr hyn a ddywedodd Mick: cofio'r meirw ac ymladd dros y byw. Nid oes gennym bŵer yma eto i wahardd contractau dim oriau. Nid wyf yn deall pam na wnaiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pŵer sydd ganddi i'w lleihau.
Er bod gennyf nifer o siaradwyr, mae'n rhaid imi alw ar y Gweinidog, ac mae'n rhaid i Blaid Cymru ymateb i'r ddadl, felly rwy'n ymddiheuro i'r rheini na chawsant eu galw. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel plaid wleidyddol a grëwyd i uno undebwyr llafur a sosialwyr ac i roi llais i'r dosbarth gweithiol, ac fel Llywodraeth sy'n credu mewn cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a chyfle i bawb, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr fel modd o amlygu trafferthion llawer o weithwyr a hyrwyddo hawliau gweithwyr. Ond fel plaid gyda chyswllt annileadwy ag undebaeth lafur—ac fel Dawn Bowden rwyf innau hefyd yn aelod balch o Unsain, ac wedi bod ers tua 40 mlynedd bellach—mae Llywodraethau Cymru olynol wedi datblygu a defnyddio perthynas waith ardderchog gyda chyflogwyr ac undebau llafur dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi disodli gweddill pwyntiau'r cynnig i nodi hynny, oherwydd nid yw'r cynnig wedi'i ysgrifennu a'i gynllunio ar gyfer sicrhau consensws ar draws y Siambr, mae wedi'i ysgrifennu fel ymosodiad, a dyna pam rydym yn ei wrthod ac yn gosod ein cynnig ni yn ei le, ac rwy'n hapus iawn ein bod wedi gwneud hynny. [Torri ar draws.] Yn sicr.
A ydych yn croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog, yn gynharach eleni, wedi rhoi ymrwymiad llwyr i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol eisoes ac i ddiddymu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo?
Yn sicr, ac rwy'n dod at hynny mewn munud. Mae partneriaeth gymdeithasol, fel y dywedodd Dawn Bowden, wedi bod yn rhan o'n DNA o ddechrau datganoli. Cydnabyddwn ei rôl hanfodol wrth lunio polisi effeithiol ac rydym wedi sefydlu llawer o fecanweithiau i gefnogi hyn, megis cynllun busnes Gweinidogion Cymru, ac yn nyddiau cynnar datganoli, y cyngor partneriaeth busnes, y cyngor datblygu economaidd, ac yn fwy diweddar grŵp strategaeth partneriaid cymdeithasol ac uned partneriaid cymdeithasol Cymru.
Cytunaf hefyd â Dawn Bowden ei bod yn iawn inni fod yn falch o'n model partneriaeth gymdeithasol. Yn wir, mae wedi helpu i ddarparu hawliau diriaethol i weithwyr yng Nghymru drwy Ddeddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 fel y crybwyllodd, y Gorchymyn cyflogau amaethyddol, a thrwy'r cod caffael moesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae'r egwyddorion arweiniol ar y defnydd priodol o drefniadau oriau heb eu gwarantu mewn gwasanaethau datganoledig cyhoeddus yng Nghymru yn enghraifft ragorol o ba mor llwyddiannus y gall y bartneriaeth hon fod. Serch hynny, rwy'n llwyr gydnabod llawer o'r pwyntiau a'r materion a godwyd gan Leanne a Helen Mary. Cytunaf yn llwyr â hwy fod angen inni wneud mwy er mwyn i Gymru ddod yn genedl gwaith teg. Er mwyn i hynny ddigwydd, bydd angen i'n polisïau a'n trefniadau sefydliadol ategol weithio gyda'i gilydd i roi siâp i natur gwaith a chyflogaeth yng Nghymru. Rydym wedi penodi—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Pwynt penodol iawn am eich gwelliant ar gontractau dim oriau: fel y'i hysgrifennwyd, mae'n dweud
'dileu contractau dim oriau ecsbloetiol'.
Fe'ch gwahoddaf i achub ar y cyfle hwn i egluro bod y Llywodraeth yn credu bod pob contract dim oriau yn ecsbloetiol a bod hynny yno i ddisgrifio pob contract dim oriau ac nid i awgrymu bod yna gontractau dim oriau nad ydynt yn ecsbloetiol.
Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch, ac mewn gwirionedd roeddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedasoch yn eich araith, ac rwy'n meddwl bod y mwyafrif helaeth o gontractau dim oriau yn ecsbloetiol yn wir. Y broblem yno yw'r mater ynghylch rheolaeth a amlinellwyd gennych yn briodol. Rwyf am ei amodi ychydig, oherwydd mae'n ymwneud â rheolaeth. Ceir contractau dim oriau lle rhennir y rheolaeth ac mae angen y trefniadau hyblyg hynny ar bobl, ond nid ydynt ond yn gweithio lle mae'r gweithiwr yn rheoli'r trefniant hwnnw, ac mae hwnnw'n drefniant nad ydych yn ei weld yn aml iawn. Felly, cafeat bach iawn i'ch 'pob un' chi ydyw, gan nad wyf yn meddwl bod llawer iawn o'r rheini i'w cael. Felly, rydym yn awyddus iawn i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod rhai o'r materion rydych wedi'u codi ynglŷn â'r ffordd y caiff gweithwyr eu trin a'r ffordd y mae ganddynt berthynas anghyfartal o ran pŵer yn cael sylw. Ond mae y tu allan i'n setliad datganoli, ac felly yr hyn y byddwn yn ei wneud—ac fe ddechreuaf amlinellu hynny yn awr—yw defnyddio'r dulliau sydd gennym i'w llawn effaith i ddileu hynny gymaint ag y gallwn ac i arwain y ffordd ar gyfer meysydd yn economi Cymru lle nad oes gennym bŵer uniongyrchol drostynt. O ran hynny, rwyf innau hefyd yn credu y dylem gael y pŵer hwnnw, i fod yn glir.
Ond fel y dywedais, er mwyn i Gymru ddod yn genedl gwaith teg, bydd angen i'n polisïau a'n trefniadau sefydliadol ategol weithio gyda'i gilydd. Felly, bydd y comisiwn a benodwyd gennym, y Comisiwn Gwaith Teg annibynnol, yn cyhoeddi ei adroddiad yr wythnos hon, ar 3 Mai, a bydd ei argymhellion yn helpu i lywio ein syniadau ynglŷn â sut y gallem wella cyfleoedd cyflogaeth ledled Cymru. Bydd partneriaeth gymdeithasol yn gwbl allweddol i allu bwrw ymlaen â hyn. Bydd yn dibynnu ar gael y cydbwysedd yn iawn yn y berthynas rhwng y partneriaid er mwyn mynd â hwy gyda ni a chael y dylanwad rydym am ei gael. Bydd yn bwysig sicrhau bod cytundebau a wneir drwy bartneriaeth gymdeithasol yn cael eu gweithredu'n effeithiol.
Dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo, fel y dywedodd Mick Antoniw yn ei ymyriad, i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol yn nhymor y Cynulliad hwn er mwyn rhoi mwy o eglurder ynglŷn ag awdurdod y cyrff partneriaeth cymdeithasol a'u heffaith. Ac os a phan fyddwn yn gadael yr UE, byddwn yn wir yn ceisio sicrhau nad yw hawliau cyflogaeth presennol yn cael eu gwanhau mewn unrhyw fodd, fod cytundebau masnach newydd yn diogelu safonau cyflogaeth, a bod deddfwriaeth cyflogaeth y DU yn y dyfodol yn cyd-fynd â deddfwriaeth cyflogaeth flaengar yr UE. Russell George, nid yw sefyll yn llonydd a gorffwys ar ein rhwyfau yn ddigon. Mae angen inni sicrhau bod Cymru yn cadw ei lle yn y byd fel lle da i fyw a gweithio ynddo, lle da i wneud busnes. Ac er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i'r cyflogwyr a'r gweithwyr gydnabod mai dyna ydym ni a dyna pam, Ddirprwy Lywydd, y byddwn yn cyflwyno'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol, pam y byddwn yn ceisio gwneud Cymru yn genedl gwaith teg, a pham y cawsom yr adroddiad annibynnol. A dyna pam rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cywiro'r ffeithiau yn y ddadl hon heddiw. Diolch.
A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, beth dwi'n gobeithio a beth dwi'n trio ei wneud yn gyson ydy datblygu polisi a dal Llywodraeth Cymru i gyfrif fel rhan o'r gwaith yna o gryfhau ein heconomi a gwneud Cymru'n fwy llewyrchus. Ond, mae'r gweithiwr yn gorfod bod wrth galon hynny, nid dim ond achos mai sicrhau hawliau gweithwyr yw'r peth iawn a chywir a chyfiawn i'w wneud, achos bod gweithiwr, wrth gwrs, yn haeddu triniaeth deg—mewn cyflog, mewn telerau, mewn hyfforddiant, mewn diogelwch, ac yn y blaen, i atal ecsploetio, ac ati, ond hefyd am fod hynny yn ei dro yn mynd i fod yn dda i'n heconomi ni. Os fydd gweithiwr yn teimlo gwerth i'r gwaith y mae o neu hi yn ei wneud, yn cael cydnabyddiaeth deg am y gwaith hwnnw, yn dod yn wir rhanddeiliad yn ei weithle ei hun, yna mae'r gweithiwr hwnnw yn debyg o fod yn fwy cynhyrchiol. Dŷn ni'n gwybod bod codi lefelau cynhyrchiant yn allweddol wrth inni weithio tuag at gryfhau ein heconomi. Mae'r cyfan yn cydblethu efo'i gilydd.
Daeth fy nau riant, fel y mae'n digwydd, yn arweinwyr undebau, felly nid oedd yn syndod efallai fod ymuno ag undeb, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn fy achos i, yn gam eithaf naturiol pan ddechreuais yn y byd gwaith. Roedd gwerth undebau'n glir i mi bryd hynny, fel y mae yn awr. Mae undebau'n dda ar gyfer lefelau cyflog a lles, ar gyfer sicrwydd swydd. Lle mae gennych undebau, mae hyfforddiant da'n fwy tebygol o ddigwydd, mae materion cydraddoldeb yn fwy tebygol o gael sylw drwy undebau llafur, mae undebau yn helpu i ddod â sefydlogrwydd i weithle, gan leihau trosiant staff, sy'n dda i fusnes. Daw hynny â ni'n ôl at y pwynt a wneuthum yn gynharach: mae'n gylchol. Mae trin gweithwyr yn deg, a rhoi llais i weithwyr yn dda i'r economi yn ogystal ag i'r gweithwyr eu hunain. A cheir digon o dystiolaeth o'r gwerth a ddaw drwy sicrhau bod gan y gweithiwr lais go iawn.
Yr hyn y mae arnom ei eisiau, wrth gwrs, a phwrpas y cynnig hwn heddiw yw gwneud gwaith yn decach, a rhaid gwneud hynny ar adeg pan fo gwaith yn newid. Mae patrymau gwaith yn newid. Mae'r economi gig yn cyflwyno heriau newydd, ond mae undebau bob amser yn ceisio addasu i'r amgylchiadau newidiol hynny. Rwyf bob amser wedi gweld gwerth gallu cydweithredu â'r mudiad undebau llafur yng Nghymru.
Wrth gloi fy sylwadau ar y cynnig hwn heddiw, atgoffaf y Llywodraeth y byddwn yn ei dwyn i gyfrif o ganlyniad i ymgyrch ddiweddaraf TUC Cymru, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw lithriant o ran yr addewid i symud tuag at Ddeddf partneriaeth gymdeithasol—mae'n rhywbeth y mae mudiad yr undebau llafur yng Nghymru yn ei fynnu.
Rhaid dweud ei bod hi'n drueni mawr fod gwelliant y Llywodraeth Lafur yn dileu'r rhan fwyaf o'n cynnig, yn enwedig, efallai, yr un ar gontractau dim oriau. Bydd rhai pobl yn gallu cyfrif a nodi mai dyna'r wythfed tro i Lafur Cymru mewn Llywodraeth wrthod cyfle i bleidleisio dros eiriad cryf—cynnig cryf—ar gontractau dim oriau.
Mae'n drueni eu bod yn dileu ein cynnig, neu'r rhan fwyaf ohono. Canlyniad gwaith rhyngom ni a'n ffrindiau—eich ffrindiau—yn y mudiad undebau llafur yng Nghymru oedd y cynnig hwn, felly efallai yr hoffech esbonio iddynt hwy beth nad oedd yn dderbyniol yn eu geiriau ac yn eu gofynion a ddygwyd gerbron y Cynulliad heddiw yn y cynnig hwn. Ond gadewch i bawb ohonom ymrwymo—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Roeddwn yn dod i ben, ond mewn ychydig eiliadau, gwnaf.
Roeddwn yn meddwl tybed—ond mae'n debyg eich bod yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol yn fawr, a'ch bod yn fwy na pharod i gefnogi a gweithio gyda'r Llywodraeth, a phob plaid, mewn gwirionedd, i sicrhau ein bod yn cyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol yn y sesiwn hon.
Diolch am roi'r cyfle i mi nodi bod ein cynnig heddiw wedi gwneud yr ymrwymiad i symud tuag at y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol. Mae rhywbeth rhyfedd o lwythol yn y ffaith eich bod yn dileu ein hymrwymiad i ofyn am Ddeddf partneriaeth gymdeithasol ac yna'n ei roi i mewn eich hun. Pam na chefnogwch chi'r hyn yr oedd mudiad yr undebau llafur yn ei ddweud drwy ein cynnig heddiw a'r hyn yr oeddent am inni ei wthio?
Yr un yw'r canlyniad—mae'r canlyniad yr un fath, wrth gwrs. Roeddem ni ei eisiau, a byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif er mwyn sicrhau eich bod yn ei gyflawni. Ond bydd y bobl sy'n gwylio o'r tu allan yn ffurfio'u barn eu hunain ynglŷn â beth ar y ddaear sy'n digwydd o ran dileu ein cynnig a gosod eich un chi yn ei le.
Gan roi gwleidyddiaeth lwythol i'r naill ochr, gadewch i ni gyd ymrwymo i wneud Cymru'n genedl gwaith teg. Yn wir, mewn ymateb i Alun Davies ar ei eistedd, gwleidyddiaeth ddifrifol yw hyn, ac mae gwleidyddiaeth ddifrifol yn ymwneud â gweithio cyfunol, lle mae hynny'n bosibl. Wrth gydweithio â'n ffrindiau—a'ch ffrindiau—yn y mudiad undebau llafur, roedd gennym gynnig heddiw a ofynnai i'r Llywodraeth hon gymryd camau y mae mudiad yr undebau llafur yng Nghymru am eu gweld yn cael eu cymryd. Gwleidyddiaeth aeddfed yw hynny. Ond gadewch inni wneud Cymru yn genedl gwaith teg.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio, felly, y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.