Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 1 Mai 2019.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Heb amheuaeth, mae eich cyfraniad i hawliau gweithwyr a'r mudiad undebau llafur yn ganmoladwy. A ydych chi felly'n gresynu at y gwelliant a gyflwynwyd gan y Llywodraeth heddiw i ddileu holl sylwedd ein cynnig i bob pwrpas, a dim ond llongyfarch ei hun heb feddwl am yr hyn y gall ei wneud yn y dyfodol i warchod hawliau'r gweithwyr hynny ymhellach?