7. Dadl Plaid Cymru: Hawliau Gweithwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:17, 1 Mai 2019

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, beth dwi'n gobeithio a beth dwi'n trio ei wneud yn gyson ydy datblygu polisi a dal Llywodraeth Cymru i gyfrif fel rhan o'r gwaith yna o gryfhau ein heconomi a gwneud Cymru'n fwy llewyrchus. Ond, mae'r gweithiwr yn gorfod bod wrth galon hynny, nid dim ond achos mai sicrhau hawliau gweithwyr yw'r peth iawn a chywir a chyfiawn i'w wneud, achos bod gweithiwr, wrth gwrs, yn haeddu triniaeth deg—mewn cyflog, mewn telerau, mewn hyfforddiant, mewn diogelwch, ac yn y blaen, i atal ecsploetio, ac ati, ond hefyd am fod hynny yn ei dro yn mynd i fod yn dda i'n heconomi ni. Os fydd gweithiwr yn teimlo gwerth i'r gwaith y mae o neu hi yn ei wneud, yn cael cydnabyddiaeth deg am y gwaith hwnnw, yn dod yn wir rhanddeiliad yn ei weithle ei hun, yna mae'r gweithiwr hwnnw yn debyg o fod yn fwy cynhyrchiol. Dŷn ni'n gwybod bod codi lefelau cynhyrchiant yn allweddol wrth inni weithio tuag at gryfhau ein heconomi. Mae'r cyfan yn cydblethu efo'i gilydd.