Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 1 Mai 2019.
Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch, ac mewn gwirionedd roeddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedasoch yn eich araith, ac rwy'n meddwl bod y mwyafrif helaeth o gontractau dim oriau yn ecsbloetiol yn wir. Y broblem yno yw'r mater ynghylch rheolaeth a amlinellwyd gennych yn briodol. Rwyf am ei amodi ychydig, oherwydd mae'n ymwneud â rheolaeth. Ceir contractau dim oriau lle rhennir y rheolaeth ac mae angen y trefniadau hyblyg hynny ar bobl, ond nid ydynt ond yn gweithio lle mae'r gweithiwr yn rheoli'r trefniant hwnnw, ac mae hwnnw'n drefniant nad ydych yn ei weld yn aml iawn. Felly, cafeat bach iawn i'ch 'pob un' chi ydyw, gan nad wyf yn meddwl bod llawer iawn o'r rheini i'w cael. Felly, rydym yn awyddus iawn i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod rhai o'r materion rydych wedi'u codi ynglŷn â'r ffordd y caiff gweithwyr eu trin a'r ffordd y mae ganddynt berthynas anghyfartal o ran pŵer yn cael sylw. Ond mae y tu allan i'n setliad datganoli, ac felly yr hyn y byddwn yn ei wneud—ac fe ddechreuaf amlinellu hynny yn awr—yw defnyddio'r dulliau sydd gennym i'w llawn effaith i ddileu hynny gymaint ag y gallwn ac i arwain y ffordd ar gyfer meysydd yn economi Cymru lle nad oes gennym bŵer uniongyrchol drostynt. O ran hynny, rwyf innau hefyd yn credu y dylem gael y pŵer hwnnw, i fod yn glir.
Ond fel y dywedais, er mwyn i Gymru ddod yn genedl gwaith teg, bydd angen i'n polisïau a'n trefniadau sefydliadol ategol weithio gyda'i gilydd. Felly, bydd y comisiwn a benodwyd gennym, y Comisiwn Gwaith Teg annibynnol, yn cyhoeddi ei adroddiad yr wythnos hon, ar 3 Mai, a bydd ei argymhellion yn helpu i lywio ein syniadau ynglŷn â sut y gallem wella cyfleoedd cyflogaeth ledled Cymru. Bydd partneriaeth gymdeithasol yn gwbl allweddol i allu bwrw ymlaen â hyn. Bydd yn dibynnu ar gael y cydbwysedd yn iawn yn y berthynas rhwng y partneriaid er mwyn mynd â hwy gyda ni a chael y dylanwad rydym am ei gael. Bydd yn bwysig sicrhau bod cytundebau a wneir drwy bartneriaeth gymdeithasol yn cael eu gweithredu'n effeithiol.
Dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo, fel y dywedodd Mick Antoniw yn ei ymyriad, i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol yn nhymor y Cynulliad hwn er mwyn rhoi mwy o eglurder ynglŷn ag awdurdod y cyrff partneriaeth cymdeithasol a'u heffaith. Ac os a phan fyddwn yn gadael yr UE, byddwn yn wir yn ceisio sicrhau nad yw hawliau cyflogaeth presennol yn cael eu gwanhau mewn unrhyw fodd, fod cytundebau masnach newydd yn diogelu safonau cyflogaeth, a bod deddfwriaeth cyflogaeth y DU yn y dyfodol yn cyd-fynd â deddfwriaeth cyflogaeth flaengar yr UE. Russell George, nid yw sefyll yn llonydd a gorffwys ar ein rhwyfau yn ddigon. Mae angen inni sicrhau bod Cymru yn cadw ei lle yn y byd fel lle da i fyw a gweithio ynddo, lle da i wneud busnes. Ac er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i'r cyflogwyr a'r gweithwyr gydnabod mai dyna ydym ni a dyna pam, Ddirprwy Lywydd, y byddwn yn cyflwyno'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol, pam y byddwn yn ceisio gwneud Cymru yn genedl gwaith teg, a pham y cawsom yr adroddiad annibynnol. A dyna pam rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cywiro'r ffeithiau yn y ddadl hon heddiw. Diolch.