8. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:23, 1 Mai 2019

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi croesawu'r datganiad wnaeth y Llywodraeth yn gynharach yr wythnos yma yn datgan argyfwng hinsawdd, a hynny, wrth gwrs, mewn ymateb i ymgyrchu diflino gan ymgyrchwyr hinsawdd—gan bobl ifanc a streicwyr ysgol, miloedd o bobl eraill a ninnau fel plaid, wrth gwrs, sydd wedi codi hyn yn gyson dros y misoedd diwethaf yma.

Dwi'n cytuno hefyd, os caf i ddweud—os ydy'r Llywodraeth yn teimlo bod datganiad o'r fath ag arwyddocâd cenedlaethol, rwy'n cytuno â rhai o Aelodau meinciau cefn plaid y Llywodraeth y dylai'r datganiad fod wedi cael ei wneud i'r Siambr hon, ac nid cael ei ryddhau mewn rhyw ddatganiad i'r wasg ddigon tila gan Lywodraeth Cymru. Ond, mae yn dangos bod modd ennill a bod ymgyrchu diflino yn gallu llwyddo.