– Senedd Cymru ar 1 Mai 2019.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar newid hinsawdd. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7036 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi rhybudd llym gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu.
2. Yn nodi ymhellach fod cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth pobl ddirifedi ar draws y byd.
3. Yn cydnabod bod ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.
4. Yn croesawu'r ffaith bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.
5. Yn cefnogi penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi croesawu'r datganiad wnaeth y Llywodraeth yn gynharach yr wythnos yma yn datgan argyfwng hinsawdd, a hynny, wrth gwrs, mewn ymateb i ymgyrchu diflino gan ymgyrchwyr hinsawdd—gan bobl ifanc a streicwyr ysgol, miloedd o bobl eraill a ninnau fel plaid, wrth gwrs, sydd wedi codi hyn yn gyson dros y misoedd diwethaf yma.
Dwi'n cytuno hefyd, os caf i ddweud—os ydy'r Llywodraeth yn teimlo bod datganiad o'r fath ag arwyddocâd cenedlaethol, rwy'n cytuno â rhai o Aelodau meinciau cefn plaid y Llywodraeth y dylai'r datganiad fod wedi cael ei wneud i'r Siambr hon, ac nid cael ei ryddhau mewn rhyw ddatganiad i'r wasg ddigon tila gan Lywodraeth Cymru. Ond, mae yn dangos bod modd ennill a bod ymgyrchu diflino yn gallu llwyddo.
Felly, er bod y datganiad wedi cael ei wneud, mae yna bwrpas o hyd i'r ddadl heddiw, wrth gwrs. Gyda llaw, Lywydd, rwy'n deall bod aelodau o'r cyhoedd wedi'u gwahardd o'r oriel rhag dod i weld y ddadl hon, felly, rwy'n poeni am hynny, ond efallai y gellir dweud wrthym pam fod hynny wedi digwydd ar ryw bwynt. Wrth gwrs, rhaid inni wneud yn siŵr yn awr na allwn yn y pen draw weld hyn fel rhyw fath o ymgais orchestol gan y Llywodraeth i ddenu'r penawdau. Mae gwir angen iddo olygu newid go iawn ac uniongyrchol, a chamau gweithredu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Roedd datganiad y Prif Weinidog ddoe yn peri ychydig o ofid i lawer ohonom, pan ddywedodd nad yw datgan argyfwng hinsawdd yn golygu gwahaniaeth mawr ym mholisi'r Llywodraeth mewn gwirionedd. Does bosibl nad holl bwynt datgan argyfwng hinsawdd yw bod popeth yn newid. Bron iawn nad wyf yn disgwyl rhywbeth tebyg i ymateb argyfwng sifil posibl yn hytrach nag ymateb busnes fel arfer gan y Llywodraeth. Nid oes ond raid inni edrych ar ddatganiad Gweinidog yr amgylchedd a gyhoeddwyd ddoe ac unwaith eto, cytunaf â'r aelod o'i meinciau cefn ei hun, a'i disgrifiodd fel ymateb cwbl annigonol. Yn y bôn, rwy'n meddwl mai'r hyn a olyga yw sefydlu dau bwyllgor newydd a rhoi ychydig mwy o arian i Brifysgol Caerdydd. Wel, fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ac i'r Llywodraeth heddiw yw a ydych chi o ddifrif yn mynd i allu wynebu'r her hon. Rhaid i ddatgan argyfwng hinsawdd olygu mwy nag ailfrandio polisïau presennol. Rydym wedi gweld cyhoeddi papur 'Cymru carbon isel' y Llywodraeth yn ddiweddar wrth gwrs, a nododd y BBC yn gwbl glir fod y mwyafrif helaeth o'r addewidion yn y ddogfen honno eisoes yn bodoli mewn gwahanol adrannau o'r Llywodraeth. Mae'n rhaid i hyn newid pethau'n sylfaenol, ac nid yw busnes fel arfer yn opsiwn.
Mae'r ddogfen 'Cymru carbon isel' a grybwyllais—os edrychwch arni'n fanwl, wrth gwrs, mae llawer o'r ymrwymiadau'n dechrau gyda, 'Byddwn yn ymgynghori ar', 'Byddwn yn ystyried', 'Byddwn yn dechrau archwilio' hyn, llall ac arall. Wrth gwrs, mae'n rhaid i naratif y Llywodraeth ynghylch newid yn yr hinsawdd newid yn wirioneddol sylfaenol ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddechrau gweithredu. Felly, profwch inni heddiw, Weinidog, fod y Llywodraeth hon, fel y dywedais, yn gallu ateb yr her. Fel plaid, rydym wedi egluro'r mathau o fentrau y byddem am fynd ar eu trywydd fel Llywodraeth, o sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod Cymru'n dod yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddadwy, i'r atlas ynni, wrth gwrs, y rhestr genedlaethol o bosibiliadau ynni gwyrdd fel y gallwn ddechrau datgloi rhywfaint o'r potensial hwnnw mewn ffordd sy'n creu manteision i'n cymunedau ac i'n pobl. Amlinellwyd y rhaglen ôl-osod cartrefi fwyaf a welodd Cymru erioed, sef ein rhaglen effeithlonrwydd ynni gwerth miliynau o bunnoedd, i gyfrannu at y llinell waelod driphlyg sef lleihau allyriadau, creu swyddi, a threchu tlodi tanwydd ledled Cymru. Rwyf eisoes yn brin o amser, gan fy mod wedi fy nghyfyngu i bedair munud, felly rwyf am ddweud—[Torri ar draws.] Iawn, mae hynny'n iawn. O'r gorau—
Bydd angen i mi wneud y pwynt fod Plaid Cymru wedi dewis cyflwyno'r cynnig hwn fel cynnig hanner awr, ac fe'ch cyfyngir gan yr hanner awr.
O'r gorau. Ac rwyf eisoes wedi gwastraffu 30 eiliad yn gwneud y pwynt hwnnw, ac rwy'n derbyn y pwynt.
Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud, pe bai'r cynnig hwn yn cael ei basio heddiw, yw y byddai'n ein gwneud yn Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, a byddai hynny, gobeithio, yn rhoi mandad i'r Llywodraeth a'r hyder i fynd ymhellach ac yn gyflymach na sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae arnom hynny i genedlaethau'r dyfodol. Rydym yn gwybod eu bod wedi mynegi eu barn yn ddiweddar, ac wrth gwrs, rydym yn gwybod hefyd, erbyn i'r genhedlaeth nesaf gael eu dwylo ar awenau grym, fe fydd yn rhy hwyr, felly ein cyfrifoldeb ni fel arweinwyr heddiw yw camu ymlaen a chyflawni.
Nid yw datgan argyfwng hinsawdd yn benllanw unrhyw beth; dechrau ydyw. A fy apêl i chi, Weinidog, Brif Weinidog a Llywodraeth Cymru, yw: gadewch i ni droi at weithredu a gadewch i ni wneud rhywbeth.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu'r rôl arweiniol y mae'r DU wedi'i chwarae wrth weithio tuag at fargen fyd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy Gytundeb Paris ac yn nodi bod y DU, ers 1990, wedi torri allyriadau fwy na 40 y cant tra'n tyfu'r economi gan fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl G7 arall.
Yn gresynu mai dim ond 19 y cant y mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau yn ystod y cyfnod rhwng 1990 a 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU i sicrhau y cyrhaeddir targedau newydd o ran allyriadau carbon sy'n gyfreithiol orfodol wrth symud ymlaen yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon. Cytunaf â'r teimladau a fynegwyd heddiw. Mae'n drueni mai dim ond 30 munud o amser seneddol a ddefnyddir i ymdrin â'r mater eithriadol o bwysig hwn. Bydd gan bobl wahanol ffyrdd o ddenu ac ymosod ar y broblem arbennig hon a wynebwn a'r mater hwn a wynebwn, sef, fel y dywedodd y Prif Weinidog, problem y genhedlaeth hon ac mae angen inni ei hwynebu a mynd i'r afael â hi'n uniongyrchol. Ond mae wedi bod yn broblem dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf, a bu cynnydd aruthrol yn y ffordd y buom yn byw ein bywydau bob dydd, p'un a ydym yn y byd busnes, yn edrych arno ar lefel ddomestig neu fel cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant yn enw Darren Millar, sy'n tynnu sylw at rai o'r llwyddiannau ar lefel y DU a welsom hyd yn hyn, gyda gostyngiad o 40 y cant, tra bo'r economi wedi tyfu mwy na dwy ran o dair, ac ymuno â chytundeb Paris hefyd, ac mae'r gwelliant yn mynd rhagddo wedyn i dynnu sylw at y ffaith mai gostyngiad o 19 y cant yn unig a welwyd yng Nghymru yn yr un cyfnod o 1990 i 2015, yn anffodus. Nid wyf am funud yn amau difrifoldeb na bwriad a phwrpas y Gweinidog yn ymosod ar rai o'r heriau hyn y mae'n eu hwynebu yn ei swydd yn rhan o'r Llywodraeth, ond mae'n ffaith nad yw ein hôl troed yma yng Nghymru, ysywaeth, yn llwyddo i'r un graddau â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig neu enghreifftiau eraill y gallwn edrych arnynt ledled y byd.
Wrth yrru i mewn y bore yma gan wybod bod y ddadl hon yn digwydd, cofiais yr adeg yn fy ieuenctid pan fyddech yn gyrru i mewn heibio i'r domen dirlenwi anferth a arferai fod yno, yn Grangetown, drws nesaf fwy neu lai i siop IKEA ar y funud, ac yn y bôn byddai gwastraff tirlenwi yn mynd yno bob dydd o'r wythnos—sbwriel du a theirw dur yn gwastatáu'r safle dro ar ôl tro. Pan edrychwch ar ein cyfraddau ailgylchu a'r ffordd rydym wedi newid yn llwyr a gweddnewid, yn ddomestig ac yn ddiwydiannol, y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio, rhaid bod hynny'n gadarnhaol.
Mae datgan argyfwng newid hinsawdd—mae angen cael trywydd a map o'r ffordd rydym yn mynd i ymateb i hyn, oherwydd mae'r gair 'argyfwng' yn arwydd o ddifrifoldeb yr hyn sydd angen inni ei wneud. Fel Aelodau yma, cawsom ddatganiad ysgrifenedig, yn llythrennol, ddoe yn hytrach na datganiad llafar lle gallem herio a holi ynghylch yr hyn y bydd y Gweinidog yn ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf, y misoedd nesaf, a'r blynyddoedd i ddod i wneud y newidiadau y mae pobl at ei gilydd ar draws y gymdeithas yng Nghymru eisiau eu gweld yn digwydd. Ac yn sicr o'r meinciau hyn, mae ganddi gefnogwyr parod ar hyd y daith honno. Ond mae hefyd yn bwysig fod y Llywodraeth yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael i sicrhau y caiff y newidiadau o safbwynt polisi'r Llywodraeth eu gweithredu ar lawr gwlad, ac rwyf fi, fel un o gefnogwyr ffordd liniaru'r M4, yn gweld fy hun yn gwrthddweud rhai o'r pwyntiau y mae amgylcheddwyr am eu gwneud ar y pwynt hwn, ond rwy'n datgan y ffaith honno.
Nawr, cyhoeddwyd yr argyfwng newid hinsawdd ddydd Llun, a ddoe cawsom ddatganiad gan y Llywodraeth yn sôn am yr hyn yr oedd am ei wneud ym maes hedfan, a gwyddom fod rhwng £30 miliwn a £40 miliwn wedi'i wario hyd yn hyn ar hyrwyddo ffordd liniaru'r M4. Rwy'n derbyn bod gwahaniaeth barn yma, ond yn yr un modd, os ydych yn y gadair honno fel Llywodraeth, mae angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio'r arfau sydd ar gael i gefnogi eich rhethreg yn hytrach na dim ond mynd ar drywydd penawdau ar ddatganiad i'r wasg ar brynhawn dydd Llun.
Ac o ran cynllunio, er enghraifft, sy'n faes pwysig arall ac yn ddull pwysig y gellir ei ddefnyddio, os edrychwn o gwmpas dinas Caerdydd gyda'r ystadau tai newydd enfawr sy'n cael eu hadeiladu, faint o waith amgylcheddol sydd wedi'i wneud i ddiogelu a datblygu'r ystadau hynny fel bod ganddynt ôl troed cadarnhaol pan gânt eu hadeiladu erbyn y 2030au a'r 2035au? Mae cymaint mwy y gallwn ei wneud ym maes cynllunio. Mae'r pwerau hynny ar gael inni wneud y gwahaniaeth hwnnw.
Yn benodol, buaswn yn erfyn ar y Gweinidog i fynd i'r afael â rhai o'r argymhellion a ddaeth o adroddiad pwyllgor yr amgylchedd a chynaliadwyedd a edrychodd ar y ffordd yr oedd y Llywodraeth yn perfformio yn y maes hwn—ym maes coedwigaeth, er enghraifft, lle gwyddom fod targedau'r Llywodraeth heb eu cyrraedd a hynny o gryn dipyn. Unwaith eto, mae'n ymwneud â'r Llywodraeth yn sicrhau, pan fydd yn gosod her iddi'i hun ac yn gosod targed iddi'i hun, ei bod yn cyrraedd y targed hwnnw. Efallai y cewch eich beirniadu am beidio â bod yn ddigon uchelgeisiol, ond o leiaf gallwn fod yn hyderus fod y targedau'n mynd i gael eu cyrraedd a'n bod yn symud ymlaen at y lefel nesaf o'r hyn sydd angen inni ei wneud.
Pan edrychwch ar y dystiolaeth, mae amser yn tician yn ein herbyn. Bu cynnydd dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf. Mae angen gwneud llawer iawn mwy, ond gadewch inni sicrhau ein bod yn penderfynu ac yn ymrwymo i drosglwyddo amgylchedd gwell i'r genhedlaeth nesaf, sy'n rhywbeth nad yw wedi digwydd dros sawl cenhedlaeth yn flaenorol. Gallwn ei wneud, mae'r dechnoleg yn bodoli i'w wneud. Y cyfan sydd arnom ei angen yw'r ymrwymiad a gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein haddewidion.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am:
a) ddwyn ymlaen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;
b) ymrwymo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted â bod modd gwneud hynny o ran contractau; ac
c) edrych ar phob opsiwn ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda bob sector a chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.
Yn ffurfiol.
Rwy'n falch iawn o gael cyfle i siarad yn y ddadl hon, gan ei bod hi'n ddeng mlynedd ar hugain ers y trychineb niwclear yn Chernobyl, ac mae gwaddol y trychineb yn parhau i fod gyda ni, ac efallai ein bod yn cofio pob Chernobyl arall posibl sy'n bodoli mewn gorsafoedd niwclear a leolwyd o amgylch ardaloedd lle ceir gwrthdaro mewn rhannau amrywiol o'r byd. Nid yn gymaint deall, gwybod a bod yn ymwybodol o'r holl bethau sy'n digwydd i'r blaned hon yw fy mhryder, ond yn hytrach sut y mae cyflawni newid gwirioneddol.
Eleni, byddaf yn 65. Y flwyddyn nesaf, rwy'n gymwys i gael pensiwn gwladol. Ymhen 20 mlynedd, mae'n fwy na thebyg na fyddaf yma. Fy nghenhedlaeth i yw'r genhedlaeth sydd wedi dinistrio'r blaned hon, sy'n parhau i ddinistrio'r blaned hon, a'n gwaddol i'r genhedlaeth iau yw datrys y camgymeriadau y mae ein cenhedlaeth ni wedi'u gwneud mewn gwirionedd. Felly, pan welsom blant ysgol ar y strydoedd, pobl ifanc yn meddiannu'r strydoedd, yn meddiannu ysgolion, yn protestio, rwy'n rhoi fy nghefnogaeth lawn i hynny ac nid wyf yn derbyn beirniadaeth y bobl hynny oherwydd yr hyn a wnânt yw mynegi yn awr eu perchenogaeth ar y gwaddol rydym yn ei adael iddynt: gwaddol sydd wedi gwthio'r blaned at y pwynt tipio bron iawn.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn pedair o alwadau'r streicwyr ysgol ar yr hinsawdd. 'Y Llywodraeth i ddatgan argyfwng hinsawdd': wel, rydym yn symud tuag at hynny, a gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn San Steffan cyn bo hir. 'Y cwricwlwm cenedlaethol i fynd i'r afael â'r argyfwng ecoleg fel blaenoriaeth': mae'n dechrau gwneud hyn, ond wrth i ni siarad am ein cwricwlwm yn awr, rwy'n credu bod y pwynt hwnnw'n berthnasol tu hwnt o ran deall y cysylltiad rhwng y gymdeithas sydd gennym a'r gwaddol amgylcheddol. Rwy'n hoff iawn o ddyfyniad gan Naomi Klein, a ddywedai yn y bôn, ei bod hi bellach yn rhyfel rhwng ein system economaidd a'n system blanedol. Neu, yn fwy cywir, mae ein heconomi'n rhyfela yn erbyn sawl math o fywyd ar y ddaear, gan gynnwys bywyd dynol.
Nid deddfau natur yw'r hyn sydd angen newid, ond deddfau'r economi sy'n galw am fwy a mwy o ehangu heb fawr o sylw i'r amgylchedd.
Lywydd, y feirniadaeth fwyaf a wnaeth llawer o'r bobl ifanc a glywsom ar y cyfryngau cymdeithasol ac a welsom ar y teledu yw bod gwleidyddion yn dda am ddweud geiriau ond nad ydym yn dda iawn am weithredu. Wel, rwy'n meddwl bod ein pobl ifanc wedi dangos eu bod yn barod i weithredu, ac y byddant yn gweithredu, ac rwy'n eu cefnogi'n llwyr i weithredu mewn ymgyrch o'r fath oherwydd os na allwn gyflawni, yr unig bobl a all ddiogelu dyfodol ein hamgylchedd a'n planed mewn gwirionedd fydd y bobl ifanc sy'n gweithredu, yn ymladd ac yn amddiffyn ar gyfer eu dyfodol. Diolch.
Nid yn aml y byddwn yn teimlo pwysau hanes ar ein hysgwyddau, neu yn hytrach pwysau'r dyfodol. Croesawaf ddatganiad Llywodraeth Cymru ar argyfwng yn yr hinsawdd, ond fel y gwnaed y pwynt gan Aelodau ar draws y Siambr, rhaid ei gefnogi â gweithredu. Mae'r Oxford English Dictionary yn diffinio argyfwng fel 'sefyllfa ddifrifol sy'n galw am weithredu ar unwaith'. Fe'i diffinnir gan y ffaith ei fod yn ei gwneud hi'n angenrheidiol i wneud rhywbeth mewn ymateb, felly rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn deall yr angen i wneud y penderfyniad cywir ar brosiectau fel ffordd liniaru'r M4. Ni allwch ddatgan argyfwng hinsawdd a pharhau i ystyried y posibilrwydd o adeiladu'r llwybr du; byddai'n afresymol. Rydym yn byw mewn cyfnod arwyddocaol iawn. Iawn, fe dderbyniaf ymyriad.
A yw hynny hefyd yn golygu nad ydych am gael y ffordd osgoi yn Llandeilo?
I ddychwelyd at y pwynt yr oeddwn yn ei wneud o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud: er mwyn datgan argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid ei gefnogi drwy weithredu. Rydym yn byw mewn cyfnod tywyll. Mae hyn yn wir yn agos at adref lle mae dros hanner bywyd gwyllt Cymru yn dirywio ac mae un o bob 14 rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu. Gwelwn effaith newid hinsawdd ar ffurf erydu arfordirol ar wastadeddau Gwent. Mae'r galar a'r dicter y dylem ei deimlo ynglŷn â hyn nid yn unig yn ymateb i golli'r byd naturiol ond hefyd i'n perthynas ni â'r byd naturiol hwnnw, yr ysbrydoliaeth a gawn ohono a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i'n hiechyd a'n lles. Rydym yn greaduriaid ein cynefinoedd ac rydym yn ddibynnol arnynt. Os gadawn iddynt fynd, beth fydd yn ei olygu i'n goroesiad?
Mae gwledydd sydd heb wneud llawer i gyfrannu at yr argyfwng yn byw yn nannedd y storm. Mae tymheredd Mongolia eisoes wedi codi 2.2 gradd Celsius a'r wlad honno sydd â'r llygredd aer gwaethaf yn y byd. Mae Mozambique eleni wedi dioddef dau seiclon; mae llawer o'r tir ger yr arfordir wedi troi'n fôr. Ydy, mae'n ddiwrnod tywyll, ond dyma'r dyddiau hefyd pan fo gennym un cyfle olaf i wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae'n weddus yn yr ystyr fod tarddiad y gair argyfwng yn dod o'r Lladin emergere, sy'n golygu 'codi neu ddwyn i'r amlwg'. Mae'n ein hatgoffa bod yn rhaid i oleuni ddilyn y tywyllwch os oes unrhyw obaith. Rhaid i ni weithredu a dilyn y dywediad: meddyliwch yn fyd-eang, gweithredwch yn lleol.
Mae Seland Newydd wedi penderfynu na fydd rhagor o drwyddedau archwilio nwy ac olew yn cael eu rhoi. Gweriniaeth Iwerddon fydd y wlad gyntaf yn y byd i werthu ei holl fuddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil, sy'n debygol o ddigwydd o fewn pum mlynedd. Ac yn yr Unol Daleithiau, mae bargen werdd newydd Alexandria Ocasio-Cortez yn anelu i ddileu llygredd nwyon tŷ gwydr i bob pwrpas o fewn degawd.
Mae angen i Gymru feddwl yn awr am ba gamau y bydd yn eu cymryd. Ie, o fewn ei chymhwysedd, ond mae angen inni fod yn uchelgeisiol. Dylem osod targedau sy'n bellgyrhaeddol iawn i gyfyngu ar ein hallbwn carbon, annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau trydan, a chymryd camau i gael ein pweru gan ynni adnewyddadwy yn unig. Er ein lles ni a'r blaned, mae datgan yr argyfwng hwn yn gam angenrheidiol i'w groesawu, ond rhaid iddo fod yn ddechrau ar newid sylfaenol yn ein holl ymagwedd tuag at ddiogelu ein hamgylchedd gan nad yw effaith newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth amwys, ynysig neu bell i ffwrdd: mae yma yn awr, mae'n uniongyrchol, mae wrth law. Mae ei ddatrys a'i atal hefyd o fewn ein gafael.
Wel, gobeithio y gallaf godi calon pawb gyda fy araith fach gan fod y cynnig yn dechrau gydag un o'r datganiadau mwyaf syfrdanol o wirion y gallech ei ddychmygu: fod cymuned wyddonol y byd yn dweud mai dim ond 12 mlynedd sydd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu. Rwy'n ddigon hen i gofio dyfeisio'r amgylchedd fel mater gwleidyddol ar ddiwedd y 1960au, a chynhadledd gyntaf yn wir Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig ar Ddiwrnod y Ddaear yn 1970. Ac mae'n ddifyr iawn edrych yn ôl ar y rhagfynegiadau a wnaed yn y gynhadledd honno, gan gynnwys un gan yr ecolegydd Kenneth Watt, a rybuddiodd am yr oes iâ sydd ar y gorwel mewn araith:
Mae'r byd wedi bod yn oeri'n sydyn ers tua ugain mlynedd, datganodd, ac
Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd y byd tua phedair gradd yn oerach o ran y tymheredd cymedrig byd-eang yn 1990, ond un ar ddeg gradd yn oerach yn y flwyddyn 2000. Mae hyn tua dwywaith yr hyn y byddai'n ei gymryd i fynd â ni i mewn i oes iâ.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wel, dim ond pedair munud sydd gennyf, felly nid wyf yn credu y gallaf, diolch.
Yn yr un gynhadledd, dywedodd Paul Ehrlich, a oedd yn enwog am ei broffwydoliaethau llawn gwae ynglŷn â'r boblogaeth, y byddai tua 4 biliwn o bobl yn marw rhwng 1980 ac 1989, gan gynnwys 65 miliwn o Americanwyr, a 50 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'n dal i fod wrthi. Yn y Guardian ar 22 Mawrth eleni, mae bellach yn dweud,
Mae cwymp ysgytwol gwareiddiad "bron yn sicr" yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf oherwydd y modd y mae'r ddynoliaeth yn dinistrio'r byd naturiol yn barhaus.
Felly, mae arnaf ofn, ni waeth i ba raddau y mae rhagfynegiadau'n gwyro oddi wrth realiti, nid yw'r bobl hyn byth yn rhoi'r gorau iddi.
Roedd cylchgrawn Life yn 1970 yn nodi,
Mae gan wyddonwyr dystiolaeth arbrofol a damcaniaethol gadarn i gefnogi... y rhagfynegiadau canlynol: Ymhen degawd, bydd rhaid i drigolion trefol wisgo masgiau nwy er mwyn goroesi llygredd aer... erbyn 1985 bydd llygredd aer wedi haneru faint o haul sy'n cyrraedd y ddaear.
A gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Wel, dyma'r ffeithiau: ers 1850, mae'r tymheredd byd-eang wedi codi 0.9 gradd canradd, a digwyddodd hanner y cynnydd hwnnw cyn 1950 pan dderbynnid yn gyffredinol na allai'r cynhesu byd-eang gan bobl—hyd yn oed os ydych yn credu'r wyddoniaeth—y dywedir ei fod yn rheswm drosto fod wedi'i achosi.
Wrth gwrs, yr hyn y mae'r rhagfynegiadau hyn yn methu ymdopi ag ef yw data tymheredd mwy diweddar, oherwydd ers i'r bygythiad oeri byd-eang mawr ddod i ben yn 1975, cafwyd y canlynol: tan 1998, fe gododd lefelau carbon deuocsid atmosfferig a thymereddau ochr yn ochr â'i gilydd yn fras, ond wedyn, yn 1998, dechreuodd saib o 20 mlynedd yn y cynnydd yn nhymheredd y byd, wrth i ffigurau carbon deuocsid byd-eang godi i'r entrychion, a hyd at 2015 neu 2016, roeddent yn wastad. Nid oes neb wedi egluro'n iawn sut y mae'r rhagfynegiadau hyn yn methu ymdopi â realiti'r tymereddau a gofnodir gan arsylwi gweithredol. Yn 2015-16, roedd mwy o gynhesu, ond yn 2017-18, roedd mwy o oeri, ac yn awr, mae tymereddau byd-eang cyfartalog 1 gradd Fahrenheit islaw rhagfynegiadau modelau cyfrifiadurol mewn gwirionedd. Felly, sut ydych chi'n esbonio'r saib? Sut y gallwch ragfynegi gyda hyder y bydd cynnydd o 1.5 gradd yn nhymheredd y byd ymhen 12 mlynedd, pan fo profiad yr 50 mlynedd diwethaf yn profi'r gwrthwyneb?
Wrth gwrs, ceir llwythi o ragfynegiadau brawychus eraill nad oes gennyf amser i'w chwalu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ni allaf, mae arnaf ofn. Llai na munud sydd gennyf ar ôl. Ond—
Gadewch i mi ddangos map i chi.
Wedyn, os gwelwch yn dda. [Chwerthin.]
Nid yw'n derbyn ymyriad.
Buaswn yn hapus iawn i fynd drwyddo gyda chi.
Wrth gwrs, y bygythiad mwyaf i'r byd os credwch ragfynegiadau'r cynheswyr yw'r cynnydd yn y boblogaeth, oherwydd roedd poblogaeth y byd yn 1800 yn 1 biliwn ac yn 2019, mae bron yn 8 biliwn a rhagwelir y bydd yn 8.5 biliwn erbyn 2030. A bydd y rhan fwyaf o'r cynnydd hwn yn digwydd mewn gwledydd sy'n diwydianeiddio'n gyflym, a gŵyr pawb ohonom beth sy'n digwydd yn y dwyrain pell. Yn India y llynedd, cafwyd cynnydd o 6.7 y cant yn eu hallyriadau; yn Tsieina—
Ie, ac mae'n ffaith, a dyma sy'n rhaid i ni ei gydnabod. Mae India a Tsieina rhyngddynt yn gyfrifol am 36 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd. Ac yn Tsieina, cafwyd cynnydd o 4.7 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid ac yn India, 6.7 y cant o gynnydd mewn allyriadau. Mae beth bynnag a wnawn yn y wlad hon yn mynd i gael ei lethu gan realiti'r hyn sy'n digwydd yn y dwyrain pell. Rydych yn argymell gosod beichiau economaidd enfawr ar y bobl sy'n lleiaf abl i'w cario yn y wlad hon—y rhai sydd ar ben isaf y raddfa incwm. Credaf fod hyn yn ofnadwy o anfoesol, ac yn hurt.
Gwnaf y pwynt o'r cychwyn nad oes gennym amser i'w wastraffu bellach yn dadlau â'r rhai sy'n gwadu newid hinsawdd; mae gennym bethau pwysicach i'w gwneud yn awr, a hynny ar fyrder. Rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn cefnogi'r prif gynnig heddiw a gwelliant y Llywodraeth sy'n adlewyrchu realiti'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, ond hefyd ymrwymiad a pharodrwydd Llywodraeth Cymru i weithredu. Ond fy nod wrth siarad heddiw yw egluro bod goblygiadau sylweddol i hyn, nid yn unig i Lywodraeth Cymru, ond i bob un ohonom yn unigol. Bydd angen inni wneud mwy, llawer mwy. Bydd yn rhaid i ni wneud dewisiadau gwirioneddol anodd sy'n dilyn y dystiolaeth, gwneud y peth iawn ar gyfer dyfodol hirdymor ein planed yn ogystal ag ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ond a fydd, yn y tymor byr, yn heriol yn wleidyddol ac i ni fel unigolion.
Bydd angen arweinyddiaeth genedlaethol ddewr i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom ni a'r blaned, oherwydd byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni a'n hetholwyr yn byw ac yn gweithio, sut y teithiwn, sut yr awn ar wyliau, beth a brynwn, beth a fwytawn, a mwy. Byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni fel Llywodraeth yn blaenoriaethu buddsoddiad, yn rheoleiddio ac yn deddfu i newid ymddygiad, defnydd a ffordd o fyw. Felly, peidiwch â thwyllo eich hun, bydd rhai o'r camau pellach y bydd angen inni eu cymryd i ateb yr argyfwng newid hinsawdd yn amhoblogaidd. Bydd angen i Weinidogion fod yn ddewr, ond i ni fel Aelodau'r Cynulliad ac fel pleidiau gwleidyddol—os ydym yn cytuno yn y bôn gyda'r ymgyrchwyr, y protestwyr a'r cynnig heddiw, bydd angen inni barcio'r wleidyddiaeth ac adeiladu consensws ar gyfer gweithredu a fydd yn ateb y brys a maint yr her, yr un arweiniad ac ysbryd o gonsensws gwleidyddol a ganiataodd i Lafur gyflwyno'r Ddeddf newid hinsawdd gyntaf erioed—Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008—neu i ddatblygu Deddf cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Bydd angen ei harneisio os ydym yn wirioneddol o ddifrif am hyn.
Fe'm gwahoddwyd un tro i Rif 10 fel Gweinidog amgylchedd i esbonio penderfyniad arbennig o anodd a wneuthum, a oedd yn benderfyniad hollol gywir ond a oedd yn amhoblogaidd iawn gyda dyrnaid o gydweithwyr a'u hetholwyr. Eglurais i'r cynghorwyr arbennig yn Rhif 10 sut a pham y gwnaed y penderfyniad a sut a pham yr oedd y penderfyniad yn un cywir. Gwrandawodd y cynghorwyr arbennig yn astud, a fy holi'n ddeallus wrth i mi grynhoi bod yna benderfyniad hawdd yn wir a bod yna benderfyniad anos yn seiliedig ar dystiolaeth a meddwl hirdymor, ac mai hwnnw oedd y penderfyniad a wneuthum. Bu'r cynghorwyr yn cnoi cil ar hyn a daethant ataf gyda chasgliad: byddent yn fy nghefnogi'n llwyr. Roeddent yn cytuno fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir, er mor anodd ydoedd. Wrth i mi adael yr ystafell, trodd yr uwch gynghorwr a sibrwd wrthyf, 'Y tro nesaf, Huw, gwnewch y penderfyniad hawdd.'
Wel, Weinidogion, gyd-Aelodau, yma yn y Siambr, o hyn ymlaen, bydd yn rhaid inni wneud llawer mwy o'r penderfyniadau anodd ond cywir ac adeiladu consensws yma yn y Siambr hon a'r tu allan gyda'r cyhoedd hefyd am y manteision sy'n deillio o'r penderfyniadau cywir ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a chynhesu byd-eang, ar wrthdroi bioamrywiaeth a cholli cynefinoedd, ar greu cymunedau a ffyrdd o fyw sy'n wirioneddol gynaliadwy ac yn iachach ym mhob rhan o Gymru.
Rwyf wrth fy modd fod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi dynodi y bydd yn archwilio gyda'i swyddogion, hyd yn oed yng ngoleuni cynllun carbon isel Cymru a'i 100 o bolisïau ac argymhellion, sut y gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach er mwyn datgarboneiddio. Nawr, rwy'n croesawu hynny, oherwydd er bod Cymru'n dangos arweiniad yn wir—mae wedi ymrwymo i dorri allyriadau carbon net 80 y cant erbyn 2050—mae pawb ohonom yn gwybod yn ein calonnau ac yn ein pennau nad yw'r camau gweithredu rydym wedi cytuno arnynt yn genedlaethol, ond hefyd yn rhyngwladol, yn ddigon. Mae Stern wedi rhybuddio, mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi, ac yn rhybuddio dro ar ôl tro—y consensws gwyddonol rhyngwladol a wrthodir i'r fath raddau gan y rhai a fyddai'n barod i losgi'r blaned yn ulw nawr a dinistrio dyfodol ein plant a'n hwyrion—maent i gyd yn rhybuddio'n gyson fod yn rhaid inni weithredu'n bendant ac yn gynnar, oherwydd bydd costau gwneud hynny'n is. Fel arall, bydd y gost o beidio â gwneud hynny'n enfawr a gallai fod yn derfynol o ran ein rhagolygon ar y blaned hon.
Felly, bydd angen inni fynd ymhellach, a bydd angen inni wneud penderfyniadau anodd, sy'n cefnogi cynhyrchiant ynni cost isel a dewisiadau lleihau galw, fel gwynt ar y tir yn ogystal ag ar y môr; cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ac adeiladau preswyl; plannu coed ar gyfradd ddigyffelyb; newid sylfaenol o ran lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff; creu cymunedau cynaliadwy a thrafnidiaeth sy'n ei gwneud yn hawdd, yn fforddiadwy, yn ddymunol ac yn gyffredin i bobl deithio'n bell ac agos ar drafnidiaeth gyhoeddus, a cherdded a beicio; sicrhau bod peiriannau tanio mewnol, yn hytrach na rhywogaethau a chynefinoedd, yn diflannu o'r tir; newid yr hyn a fwytawn a faint a fwytawn, sut i reoli'r tir er lles y cyhoedd, gan gynnwys addasu i newid yn yr hinsawdd, sut y cynhyrchwn ein bwyd, sut i hedfan llai. Ym mhob maes polisi a pholisi integredig ar draws y Llywodraeth, bydd angen i ni symud y tu hwnt i fesurau gwirfoddol a thu hwnt i welliannau graddol tuag at newid sylfaenol a mwy o gyfeiriad.
Felly, gadewch i'r rheini ohonom yng Nghymru sy'n credu'n wirioneddol ein bod mewn argyfwng hinsawdd gydweithio i greu consensws newydd, cymryd y camau angenrheidiol i achub y blaned a thrwy hynny, achub ein hunain a'n plant hefyd. Beth am gytuno i wneud y penderfyniadau cywir ond anodd, y penderfyniadau dewr, ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol ac ar gyfer y blaned werthfawr hon, yr unig un sydd gennym, a'r un a rannwn gyda llawer o rywogaethau eraill am ychydig bach o amser. Nid ein planed ni i'w dinistrio a'i llosgi yw hi. Nid ni sy'n berchen arni; dim ond pasio heibio a wnawn ni, felly gadewch inni droedio'n ysgafn wrth inni fynd.
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Credaf fod cynnig Plaid Cymru yn iawn i dynnu sylw at y rhybudd llym gan y gymuned wyddonol a'r angen am ymateb byd-eang a chyflym ar fyrder. Nid yw newid hinsawdd yn fygythiad pell. Fel yr ydym yn ei drafod heddiw, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn niweidio bywydau a bywoliaeth miliynau o bobl ar draws y byd. Mae'n gyrru digwyddiadau tywydd eithafol yma yng Nghymru, ac rydym eisoes yn gorfod ymaddasu i hynny.
Nid yw Cymru ond yn gyfrifol am gyfran fach iawn o allyriadau'r byd, ond barn Llywodraeth Cymru yw y gallwn fel cenedl gyflawni newid yma mewn ffordd a fydd yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, a gwneud ein cymdeithas yn decach ac yn iachach, ac y gallwn sbarduno newid cyflymach ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Dyna pam yr hoffwn inni fynd ymhellach na chynnig Plaid Cymru. Rwyf am inni ganolbwyntio nid yn unig ar yr hyn sydd angen inni ei wneud, ond hefyd ar y modd y byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ei gyflawni. Mae Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd yn gofyn, a hynny'n briodol: os yw hwn yn argyfwng, beth yw ein hymateb a sut y gallwn farnu cynnydd?
Gwelliant y Llywodraeth yw tynnu sylw at ein meysydd cryfder y gallwn adeiladu arnynt, a rhaid imi ddweud, mae safbwynt Plaid Cymru ar yr argyfwng newid hinsawdd—nid ydynt yn weithredoedd gwael, ond maent ymhell o'r hyn sydd yng nghynllun Llywodraeth Cymru, ac ni fyddent yn mynd i'r afael â hanner ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr hyd yn oed, heb sôn am fynd â ni unrhyw le yn agos at sero net. Felly, fel Llywodraeth, gallwn ddefnyddio ein deddfwriaeth flaengar i danategu'r newidiadau sydd eu hangen gyda grym cyfreithiol: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfraniad a wneir gan y sector cyhoeddus i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli rhywogaethau a chynefinoedd, a gallwn chwarae rôl gydlynol yn ysgogi newid mewn sectorau eraill, o feithrin y broses o greu diwydiannau gwyrdd newydd a phrosiectau ynni adnewyddadwy a arweinir gan y gymuned i wella'r sylfaen dystiolaeth drwy weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda phrifysgolion Cymru, a chydag arbenigwyr rhyngwladol.
Ddydd Llun, pan gyfarfûm â fy nghyd-Weinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, roeddem i gyd yn cytuno bod angen cyflymu gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n siomedig fod gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos hunanfodlonrwydd yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a wynebwn, a buaswn yn annog yr Aelodau i bleidleisio gyda'r Llywodraeth heddiw, i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd gyntaf yn y byd i bleidleisio o blaid datganiad ar argyfwng hinsawdd. Mae hadau ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd wedi'u cynnwys yn y 100 o bolisïau ac argymhellion yn y cynllun cyflawni carbon isel, ond ar ôl cael cyngor ein corff cynghori—yr UKCCC—yfory, byddaf yn adolygu'r rhain.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, i gyd-fynd â chyflymder a maint y newid sydd ei angen, mae angen inni alw yn awr am weithredu ar y cyd ar draws y gymdeithas gyfan, a bydd hynny'n cynnwys gweithredu ar sail penderfyniad cyffredin rhwng ein pleidiau gwleidyddol.
Galwaf ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon gyda 'diolch' mawr i Greta Thunberg, y streicwyr ysgol ac Extinction Rebellion, ond hefyd i'r holl ymgyrchwyr a gweithredwyr amgylcheddol eraill sydd wedi bod yn tynnu sylw at hyn ers blynyddoedd, os nad degawdau. Rydych yn llwyddo, mae'r sgwrs yn newid—gyda rhai eithriadau, wrth gwrs.
Un cais canolog a geir ym mhrotestiadau Extinction Rebellion: rhaid i wleidyddion ddweud y gwir am newid hinsawdd a bod o ddifrif am ein hargyfwng ecolegol. Ond y gwir amdani yw ein bod yn methu'n druenus. Yng Nghymru, mae ein hallyriadau carbon deuocsid wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yn 2007, fel rhan o gytundeb clymblaid Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a Llafur, cytunasom ar leihad rhwymol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac er mwyn monitro hyn, sefydlwyd comisiwn newid yn yr hinsawdd. Beth a ddigwyddodd yn lle hynny? Ni chyrhaeddwyd y targedau ac mae'r comisiwn ar newid yn yr hinsawdd bellach wedi'i ddiddymu.
Nid dyma'r amser i Lywodraeth Cymru longyfarch ei hun ar gynnydd a llaesu dwylo. Ac nid dyma'r amser i gymeradwyo hanes Llywodraeth y DU o weithredu, a ninnau wedi'u gweld yn torri'r cyllid ar gyfer cynaliadwyedd. Fel y dywedodd Greta Thunberg wrthym, 'Mae'r tŷ ar dân', ac nid wyf yn gweld unrhyw banig. A dyna pam ein bod yn gwrthod gwelliannau'r Blaid Lafur a'r Torïaid heddiw. Nid yw'n wir dweud, Weinidog, fod eich gweithredoedd yn mynd ymhellach. Mae'n edrych yn rhy debyg i fusnes fel arfer i mi.
Dyna pam fod un o ofynion y protestwyr newid hinsawdd, i sefydlu cynulliadau dinasyddion, i sicrhau bod Llywodraethau'n cael eu dwyn i gyfrif, mor allweddol. Heb hynny, ni fydd y rhwystredigaeth nad yw Llywodraethau'n dweud y gwir ac nad ydynt yn gwneud popeth a allant i osgoi argyfwng hinsawdd yn diflannu. Ein cam cyntaf yw cydnabod y broblem, ac rwy'n falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bod yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd cyn y bleidlais heddiw, ond ni all hynny fod yn ddiwedd ar y mater. Os yw Llywodraeth Cymru'n onest am yr argyfwng hinsawdd, byddai'r posibilrwydd o M4 newydd o amgylch Casnewydd yn cael ei ddiddymu. Pe baem yn deall difrifoldeb ein hargyfwng ecolegol, byddai'r syniad o osod concrit dros wastadeddau Gwent yn cael ei ddiystyru gan y byddai'n drychineb. Ni allwn ddefnyddio atebion yr ugeinfed ganrif bellach i'n problemau yn yr unfed ganrif ar hugain. Rhaid inni feddwl sut y defnyddir buddsoddiad y Llywodraeth i wrthweithio a lliniaru'r problemau hyn er mwyn meithrin cadernid, a rhaid inni wrthwynebu buddsoddiad sy'n gwneud y gwrthwyneb. Mae llwybr du yr M4 yn brawf allweddol o beth y mae'r datganiad argyfwng hinsawdd hwn yn ei olygu. Rydym i gyd yn gwybod hynny, os ydym yn onest â ni'n hunain. Rhaid inni roi'r gorau i greu swyddi ar unrhyw gost. Nid oes swyddi ar blaned farw.
Felly, rydym am weld ymrwymiadau a chamau clir gan y Llywodraeth hon i wireddu ei datganiad ynghylch argyfwng hinsawdd. Rydym am weld y gostyngiadau cyflym mewn allyriadau, ac rydym am weld y cynulliadau dinasyddion, ac ni fydd unrhyw beth sy'n llai na hynny yn gwneud y tro.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Ddirprwy Lywydd, tybed a fyddech yn cymryd pwynt o drefn cyn inni symud at y bleidlais.
Gwnaf, fe gymeraf y pwynt o drefn.
Roeddwn am wybod pam nad oedd y rhai a oedd wedi ymgasglu ar risiau'r Senedd i ddangos eu cefnogaeth i'r cynnig rydym newydd ei basio, neu ar fin ei basio, yn cael dod i glywed y ddadl, oherwydd rwyf bob amser wedi bod yn falch o'r ffaith ein bod yn Gynulliad agored ac yn awyddus i sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod beth a drafodwn. Dywedwyd wrthyf mai dim ond chwech o bobl a gafodd ddod i mewn i glywed y ddadl er y byddai llawer mwy o bobl wedi hoffi ei chlywed.
O'r gorau. Nid oeddwn yn ymwybodol o hynny. Byddaf yn trafod gyda'r Llywydd ac fe ystyriwn yr hyn rydych wedi'i ddweud, ond mae wedi'i gofnodi. Diolch.
Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf ymlaen i'r cyfnod pleidleisio.