Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 1 Mai 2019.
Bydd angen arweinyddiaeth genedlaethol ddewr i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom ni a'r blaned, oherwydd byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni a'n hetholwyr yn byw ac yn gweithio, sut y teithiwn, sut yr awn ar wyliau, beth a brynwn, beth a fwytawn, a mwy. Byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni fel Llywodraeth yn blaenoriaethu buddsoddiad, yn rheoleiddio ac yn deddfu i newid ymddygiad, defnydd a ffordd o fyw. Felly, peidiwch â thwyllo eich hun, bydd rhai o'r camau pellach y bydd angen inni eu cymryd i ateb yr argyfwng newid hinsawdd yn amhoblogaidd. Bydd angen i Weinidogion fod yn ddewr, ond i ni fel Aelodau'r Cynulliad ac fel pleidiau gwleidyddol—os ydym yn cytuno yn y bôn gyda'r ymgyrchwyr, y protestwyr a'r cynnig heddiw, bydd angen inni barcio'r wleidyddiaeth ac adeiladu consensws ar gyfer gweithredu a fydd yn ateb y brys a maint yr her, yr un arweiniad ac ysbryd o gonsensws gwleidyddol a ganiataodd i Lafur gyflwyno'r Ddeddf newid hinsawdd gyntaf erioed—Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008—neu i ddatblygu Deddf cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Bydd angen ei harneisio os ydym yn wirioneddol o ddifrif am hyn.
Fe'm gwahoddwyd un tro i Rif 10 fel Gweinidog amgylchedd i esbonio penderfyniad arbennig o anodd a wneuthum, a oedd yn benderfyniad hollol gywir ond a oedd yn amhoblogaidd iawn gyda dyrnaid o gydweithwyr a'u hetholwyr. Eglurais i'r cynghorwyr arbennig yn Rhif 10 sut a pham y gwnaed y penderfyniad a sut a pham yr oedd y penderfyniad yn un cywir. Gwrandawodd y cynghorwyr arbennig yn astud, a fy holi'n ddeallus wrth i mi grynhoi bod yna benderfyniad hawdd yn wir a bod yna benderfyniad anos yn seiliedig ar dystiolaeth a meddwl hirdymor, ac mai hwnnw oedd y penderfyniad a wneuthum. Bu'r cynghorwyr yn cnoi cil ar hyn a daethant ataf gyda chasgliad: byddent yn fy nghefnogi'n llwyr. Roeddent yn cytuno fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir, er mor anodd ydoedd. Wrth i mi adael yr ystafell, trodd yr uwch gynghorwr a sibrwd wrthyf, 'Y tro nesaf, Huw, gwnewch y penderfyniad hawdd.'
Wel, Weinidogion, gyd-Aelodau, yma yn y Siambr, o hyn ymlaen, bydd yn rhaid inni wneud llawer mwy o'r penderfyniadau anodd ond cywir ac adeiladu consensws yma yn y Siambr hon a'r tu allan gyda'r cyhoedd hefyd am y manteision sy'n deillio o'r penderfyniadau cywir ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a chynhesu byd-eang, ar wrthdroi bioamrywiaeth a cholli cynefinoedd, ar greu cymunedau a ffyrdd o fyw sy'n wirioneddol gynaliadwy ac yn iachach ym mhob rhan o Gymru.
Rwyf wrth fy modd fod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi dynodi y bydd yn archwilio gyda'i swyddogion, hyd yn oed yng ngoleuni cynllun carbon isel Cymru a'i 100 o bolisïau ac argymhellion, sut y gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach er mwyn datgarboneiddio. Nawr, rwy'n croesawu hynny, oherwydd er bod Cymru'n dangos arweiniad yn wir—mae wedi ymrwymo i dorri allyriadau carbon net 80 y cant erbyn 2050—mae pawb ohonom yn gwybod yn ein calonnau ac yn ein pennau nad yw'r camau gweithredu rydym wedi cytuno arnynt yn genedlaethol, ond hefyd yn rhyngwladol, yn ddigon. Mae Stern wedi rhybuddio, mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi, ac yn rhybuddio dro ar ôl tro—y consensws gwyddonol rhyngwladol a wrthodir i'r fath raddau gan y rhai a fyddai'n barod i losgi'r blaned yn ulw nawr a dinistrio dyfodol ein plant a'n hwyrion—maent i gyd yn rhybuddio'n gyson fod yn rhaid inni weithredu'n bendant ac yn gynnar, oherwydd bydd costau gwneud hynny'n is. Fel arall, bydd y gost o beidio â gwneud hynny'n enfawr a gallai fod yn derfynol o ran ein rhagolygon ar y blaned hon.
Felly, bydd angen inni fynd ymhellach, a bydd angen inni wneud penderfyniadau anodd, sy'n cefnogi cynhyrchiant ynni cost isel a dewisiadau lleihau galw, fel gwynt ar y tir yn ogystal ag ar y môr; cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ac adeiladau preswyl; plannu coed ar gyfradd ddigyffelyb; newid sylfaenol o ran lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff; creu cymunedau cynaliadwy a thrafnidiaeth sy'n ei gwneud yn hawdd, yn fforddiadwy, yn ddymunol ac yn gyffredin i bobl deithio'n bell ac agos ar drafnidiaeth gyhoeddus, a cherdded a beicio; sicrhau bod peiriannau tanio mewnol, yn hytrach na rhywogaethau a chynefinoedd, yn diflannu o'r tir; newid yr hyn a fwytawn a faint a fwytawn, sut i reoli'r tir er lles y cyhoedd, gan gynnwys addasu i newid yn yr hinsawdd, sut y cynhyrchwn ein bwyd, sut i hedfan llai. Ym mhob maes polisi a pholisi integredig ar draws y Llywodraeth, bydd angen i ni symud y tu hwnt i fesurau gwirfoddol a thu hwnt i welliannau graddol tuag at newid sylfaenol a mwy o gyfeiriad.
Felly, gadewch i'r rheini ohonom yng Nghymru sy'n credu'n wirioneddol ein bod mewn argyfwng hinsawdd gydweithio i greu consensws newydd, cymryd y camau angenrheidiol i achub y blaned a thrwy hynny, achub ein hunain a'n plant hefyd. Beth am gytuno i wneud y penderfyniadau cywir ond anodd, y penderfyniadau dewr, ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol ac ar gyfer y blaned werthfawr hon, yr unig un sydd gennym, a'r un a rannwn gyda llawer o rywogaethau eraill am ychydig bach o amser. Nid ein planed ni i'w dinistrio a'i llosgi yw hi. Nid ni sy'n berchen arni; dim ond pasio heibio a wnawn ni, felly gadewch inni droedio'n ysgafn wrth inni fynd.