Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Credaf fod cynnig Plaid Cymru yn iawn i dynnu sylw at y rhybudd llym gan y gymuned wyddonol a'r angen am ymateb byd-eang a chyflym ar fyrder. Nid yw newid hinsawdd yn fygythiad pell. Fel yr ydym yn ei drafod heddiw, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn niweidio bywydau a bywoliaeth miliynau o bobl ar draws y byd. Mae'n gyrru digwyddiadau tywydd eithafol yma yng Nghymru, ac rydym eisoes yn gorfod ymaddasu i hynny.
Nid yw Cymru ond yn gyfrifol am gyfran fach iawn o allyriadau'r byd, ond barn Llywodraeth Cymru yw y gallwn fel cenedl gyflawni newid yma mewn ffordd a fydd yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, a gwneud ein cymdeithas yn decach ac yn iachach, ac y gallwn sbarduno newid cyflymach ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Dyna pam yr hoffwn inni fynd ymhellach na chynnig Plaid Cymru. Rwyf am inni ganolbwyntio nid yn unig ar yr hyn sydd angen inni ei wneud, ond hefyd ar y modd y byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ei gyflawni. Mae Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd yn gofyn, a hynny'n briodol: os yw hwn yn argyfwng, beth yw ein hymateb a sut y gallwn farnu cynnydd?
Gwelliant y Llywodraeth yw tynnu sylw at ein meysydd cryfder y gallwn adeiladu arnynt, a rhaid imi ddweud, mae safbwynt Plaid Cymru ar yr argyfwng newid hinsawdd—nid ydynt yn weithredoedd gwael, ond maent ymhell o'r hyn sydd yng nghynllun Llywodraeth Cymru, ac ni fyddent yn mynd i'r afael â hanner ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr hyd yn oed, heb sôn am fynd â ni unrhyw le yn agos at sero net. Felly, fel Llywodraeth, gallwn ddefnyddio ein deddfwriaeth flaengar i danategu'r newidiadau sydd eu hangen gyda grym cyfreithiol: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfraniad a wneir gan y sector cyhoeddus i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli rhywogaethau a chynefinoedd, a gallwn chwarae rôl gydlynol yn ysgogi newid mewn sectorau eraill, o feithrin y broses o greu diwydiannau gwyrdd newydd a phrosiectau ynni adnewyddadwy a arweinir gan y gymuned i wella'r sylfaen dystiolaeth drwy weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda phrifysgolion Cymru, a chydag arbenigwyr rhyngwladol.
Ddydd Llun, pan gyfarfûm â fy nghyd-Weinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, roeddem i gyd yn cytuno bod angen cyflymu gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n siomedig fod gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos hunanfodlonrwydd yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a wynebwn, a buaswn yn annog yr Aelodau i bleidleisio gyda'r Llywodraeth heddiw, i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd gyntaf yn y byd i bleidleisio o blaid datganiad ar argyfwng hinsawdd. Mae hadau ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd wedi'u cynnwys yn y 100 o bolisïau ac argymhellion yn y cynllun cyflawni carbon isel, ond ar ôl cael cyngor ein corff cynghori—yr UKCCC—yfory, byddaf yn adolygu'r rhain.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, i gyd-fynd â chyflymder a maint y newid sydd ei angen, mae angen inni alw yn awr am weithredu ar y cyd ar draws y gymdeithas gyfan, a bydd hynny'n cynnwys gweithredu ar sail penderfyniad cyffredin rhwng ein pleidiau gwleidyddol.