8. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:27, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon. Cytunaf â'r teimladau a fynegwyd heddiw. Mae'n drueni mai dim ond 30 munud o amser seneddol a ddefnyddir i ymdrin â'r mater eithriadol o bwysig hwn. Bydd gan bobl wahanol ffyrdd o ddenu ac ymosod ar y broblem arbennig hon a wynebwn a'r mater hwn a wynebwn, sef, fel y dywedodd y Prif Weinidog, problem y genhedlaeth hon ac mae angen inni ei hwynebu a mynd i'r afael â hi'n uniongyrchol. Ond mae wedi bod yn broblem dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf, a bu cynnydd aruthrol yn y ffordd y buom yn byw ein bywydau bob dydd, p'un a ydym yn y byd busnes, yn edrych arno ar lefel ddomestig neu fel cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant yn enw Darren Millar, sy'n tynnu sylw at rai o'r llwyddiannau ar lefel y DU a welsom hyd yn hyn, gyda gostyngiad o 40 y cant, tra bo'r economi wedi tyfu mwy na dwy ran o dair, ac ymuno â chytundeb Paris hefyd, ac mae'r gwelliant yn mynd rhagddo wedyn i dynnu sylw at y ffaith mai gostyngiad o 19 y cant yn unig a welwyd yng Nghymru yn yr un cyfnod o 1990 i 2015, yn anffodus. Nid wyf am funud yn amau difrifoldeb na bwriad a phwrpas y Gweinidog yn ymosod ar rai o'r heriau hyn y mae'n eu hwynebu yn ei swydd yn rhan o'r Llywodraeth, ond mae'n ffaith nad yw ein hôl troed yma yng Nghymru, ysywaeth, yn llwyddo i'r un graddau â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig neu enghreifftiau eraill y gallwn edrych arnynt ledled y byd.

Wrth yrru i mewn y bore yma gan wybod bod y ddadl hon yn digwydd, cofiais yr adeg yn fy ieuenctid pan fyddech yn gyrru i mewn heibio i'r domen dirlenwi anferth a arferai fod yno, yn Grangetown, drws nesaf fwy neu lai i siop IKEA ar y funud, ac yn y bôn byddai gwastraff tirlenwi yn mynd yno bob dydd o'r wythnos—sbwriel du a theirw dur yn gwastatáu'r safle dro ar ôl tro. Pan edrychwch ar ein cyfraddau ailgylchu a'r ffordd rydym wedi newid yn llwyr a gweddnewid, yn ddomestig ac yn ddiwydiannol, y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio, rhaid bod hynny'n gadarnhaol.

Mae datgan argyfwng newid hinsawdd—mae angen cael trywydd a map o'r ffordd rydym yn mynd i ymateb i hyn, oherwydd mae'r gair 'argyfwng' yn arwydd o ddifrifoldeb yr hyn sydd angen inni ei wneud. Fel Aelodau yma, cawsom ddatganiad ysgrifenedig, yn llythrennol, ddoe yn hytrach na datganiad llafar lle gallem herio a holi ynghylch yr hyn y bydd y Gweinidog yn ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf, y misoedd nesaf, a'r blynyddoedd i ddod i wneud y newidiadau y mae pobl at ei gilydd ar draws y gymdeithas yng Nghymru eisiau eu gweld yn digwydd. Ac yn sicr o'r meinciau hyn, mae ganddi gefnogwyr parod ar hyd y daith honno. Ond mae hefyd yn bwysig fod y Llywodraeth yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael i sicrhau y caiff y newidiadau o safbwynt polisi'r Llywodraeth eu gweithredu ar lawr gwlad, ac rwyf fi, fel un o gefnogwyr ffordd liniaru'r M4, yn gweld fy hun yn gwrthddweud rhai o'r pwyntiau y mae amgylcheddwyr am eu gwneud ar y pwynt hwn, ond rwy'n datgan y ffaith honno.

Nawr, cyhoeddwyd yr argyfwng newid hinsawdd ddydd Llun, a ddoe cawsom ddatganiad gan y Llywodraeth yn sôn am yr hyn yr oedd am ei wneud ym maes hedfan, a gwyddom fod rhwng £30 miliwn a £40 miliwn wedi'i wario hyd yn hyn ar hyrwyddo ffordd liniaru'r M4. Rwy'n derbyn bod gwahaniaeth barn yma, ond yn yr un modd, os ydych yn y gadair honno fel Llywodraeth, mae angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio'r arfau sydd ar gael i gefnogi eich rhethreg yn hytrach na dim ond mynd ar drywydd penawdau ar ddatganiad i'r wasg ar brynhawn dydd Llun.

Ac o ran cynllunio, er enghraifft, sy'n faes pwysig arall ac yn ddull pwysig y gellir ei ddefnyddio, os edrychwn o gwmpas dinas Caerdydd gyda'r ystadau tai newydd enfawr sy'n cael eu hadeiladu, faint o waith amgylcheddol sydd wedi'i wneud i ddiogelu a datblygu'r ystadau hynny fel bod ganddynt ôl troed cadarnhaol pan gânt eu hadeiladu erbyn y 2030au a'r 2035au? Mae cymaint mwy y gallwn ei wneud ym maes cynllunio. Mae'r pwerau hynny ar gael inni wneud y gwahaniaeth hwnnw.

Yn benodol, buaswn yn erfyn ar y Gweinidog i fynd i'r afael â rhai o'r argymhellion a ddaeth o adroddiad pwyllgor yr amgylchedd a chynaliadwyedd a edrychodd ar y ffordd yr oedd y Llywodraeth yn perfformio yn y maes hwn—ym maes coedwigaeth, er enghraifft, lle gwyddom fod targedau'r Llywodraeth heb eu cyrraedd a hynny o gryn dipyn. Unwaith eto, mae'n ymwneud â'r Llywodraeth yn sicrhau, pan fydd yn gosod her iddi'i hun ac yn gosod targed iddi'i hun, ei bod yn cyrraedd y targed hwnnw. Efallai y cewch eich beirniadu am beidio â bod yn ddigon uchelgeisiol, ond o leiaf gallwn fod yn hyderus fod y targedau'n mynd i gael eu cyrraedd a'n bod yn symud ymlaen at y lefel nesaf o'r hyn sydd angen inni ei wneud.

Pan edrychwch ar y dystiolaeth, mae amser yn tician yn ein herbyn. Bu cynnydd dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf. Mae angen gwneud llawer iawn mwy, ond gadewch inni sicrhau ein bod yn penderfynu ac yn ymrwymo i drosglwyddo amgylchedd gwell i'r genhedlaeth nesaf, sy'n rhywbeth nad yw wedi digwydd dros sawl cenhedlaeth yn flaenorol. Gallwn ei wneud, mae'r dechnoleg yn bodoli i'w wneud. Y cyfan sydd arnom ei angen yw'r ymrwymiad a gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein haddewidion.