Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 1 Mai 2019.
Buaswn yn hapus iawn i fynd drwyddo gyda chi.
Wrth gwrs, y bygythiad mwyaf i'r byd os credwch ragfynegiadau'r cynheswyr yw'r cynnydd yn y boblogaeth, oherwydd roedd poblogaeth y byd yn 1800 yn 1 biliwn ac yn 2019, mae bron yn 8 biliwn a rhagwelir y bydd yn 8.5 biliwn erbyn 2030. A bydd y rhan fwyaf o'r cynnydd hwn yn digwydd mewn gwledydd sy'n diwydianeiddio'n gyflym, a gŵyr pawb ohonom beth sy'n digwydd yn y dwyrain pell. Yn India y llynedd, cafwyd cynnydd o 6.7 y cant yn eu hallyriadau; yn Tsieina—