Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 1 Mai 2019.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon gyda 'diolch' mawr i Greta Thunberg, y streicwyr ysgol ac Extinction Rebellion, ond hefyd i'r holl ymgyrchwyr a gweithredwyr amgylcheddol eraill sydd wedi bod yn tynnu sylw at hyn ers blynyddoedd, os nad degawdau. Rydych yn llwyddo, mae'r sgwrs yn newid—gyda rhai eithriadau, wrth gwrs.
Un cais canolog a geir ym mhrotestiadau Extinction Rebellion: rhaid i wleidyddion ddweud y gwir am newid hinsawdd a bod o ddifrif am ein hargyfwng ecolegol. Ond y gwir amdani yw ein bod yn methu'n druenus. Yng Nghymru, mae ein hallyriadau carbon deuocsid wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yn 2007, fel rhan o gytundeb clymblaid Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a Llafur, cytunasom ar leihad rhwymol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac er mwyn monitro hyn, sefydlwyd comisiwn newid yn yr hinsawdd. Beth a ddigwyddodd yn lle hynny? Ni chyrhaeddwyd y targedau ac mae'r comisiwn ar newid yn yr hinsawdd bellach wedi'i ddiddymu.
Nid dyma'r amser i Lywodraeth Cymru longyfarch ei hun ar gynnydd a llaesu dwylo. Ac nid dyma'r amser i gymeradwyo hanes Llywodraeth y DU o weithredu, a ninnau wedi'u gweld yn torri'r cyllid ar gyfer cynaliadwyedd. Fel y dywedodd Greta Thunberg wrthym, 'Mae'r tŷ ar dân', ac nid wyf yn gweld unrhyw banig. A dyna pam ein bod yn gwrthod gwelliannau'r Blaid Lafur a'r Torïaid heddiw. Nid yw'n wir dweud, Weinidog, fod eich gweithredoedd yn mynd ymhellach. Mae'n edrych yn rhy debyg i fusnes fel arfer i mi.
Dyna pam fod un o ofynion y protestwyr newid hinsawdd, i sefydlu cynulliadau dinasyddion, i sicrhau bod Llywodraethau'n cael eu dwyn i gyfrif, mor allweddol. Heb hynny, ni fydd y rhwystredigaeth nad yw Llywodraethau'n dweud y gwir ac nad ydynt yn gwneud popeth a allant i osgoi argyfwng hinsawdd yn diflannu. Ein cam cyntaf yw cydnabod y broblem, ac rwy'n falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bod yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd cyn y bleidlais heddiw, ond ni all hynny fod yn ddiwedd ar y mater. Os yw Llywodraeth Cymru'n onest am yr argyfwng hinsawdd, byddai'r posibilrwydd o M4 newydd o amgylch Casnewydd yn cael ei ddiddymu. Pe baem yn deall difrifoldeb ein hargyfwng ecolegol, byddai'r syniad o osod concrit dros wastadeddau Gwent yn cael ei ddiystyru gan y byddai'n drychineb. Ni allwn ddefnyddio atebion yr ugeinfed ganrif bellach i'n problemau yn yr unfed ganrif ar hugain. Rhaid inni feddwl sut y defnyddir buddsoddiad y Llywodraeth i wrthweithio a lliniaru'r problemau hyn er mwyn meithrin cadernid, a rhaid inni wrthwynebu buddsoddiad sy'n gwneud y gwrthwyneb. Mae llwybr du yr M4 yn brawf allweddol o beth y mae'r datganiad argyfwng hinsawdd hwn yn ei olygu. Rydym i gyd yn gwybod hynny, os ydym yn onest â ni'n hunain. Rhaid inni roi'r gorau i greu swyddi ar unrhyw gost. Nid oes swyddi ar blaned farw.
Felly, rydym am weld ymrwymiadau a chamau clir gan y Llywodraeth hon i wireddu ei datganiad ynghylch argyfwng hinsawdd. Rydym am weld y gostyngiadau cyflym mewn allyriadau, ac rydym am weld y cynulliadau dinasyddion, ac ni fydd unrhyw beth sy'n llai na hynny yn gwneud y tro.