1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mai 2019.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ysbytai cymunedol yn y Gogledd? OAQ53824
Diolch, Llywydd. Mae symud gwasanaethau o leoliadau acíwt i leoliadau cymunedol yn ganolog i ddyfodol yr NHS yng Nghymru. Yn y gogledd, mae hyn yn golygu ailfeddwl ac ailfodelu cyfraniad ysbytai cymunedol. Enghraifft o hyn yw’r cynllun i fuddsoddi £40 miliwn mewn ysbyty newydd i ogledd sir Ddinbych yn y Rhyl.
Wel, fyddech chi'n cytuno â fi bod ysbyty preifat sydd ar fin cael ei adeiladu yn ardal Llanelwy yn dangos bod cau ysbytai cymunedol yn ôl yn 2013 wedi bod yn gamgymeriad? Oherwydd mi gollwyd rhyw 50 o welyau pan gaewyd yr ysbytai cymunedol yn y Fflint, yn Llangollen, ym Mhrestatyn ac ym Mlaenau Ffestiniog. Nawr, mi rybuddiodd nifer ohonom ni, a meddygon teulu ac eraill, ar y pryd fod angen y ddarpariaeth step-up, step-down yna, yn enwedig gyda phoblogaeth sy'n heneiddio yn y gogledd, wrth gwrs. Ond mi fynnodd y bwrdd iechyd, a'ch Llywodraeth chi, fwrw ymlaen i gau yr ysbytai. A nawr, wrth gwrs, rŷm ni'n gweld ysbyty preifat, 63 gwely, am gael ei adeiladu nepell o Ysbyty Glan Clwyd, yn union i lenwi y bwlch yna sydd wedi cael ei adael ar ôl. Ac nid fi sy'n dweud hynny; y datblygwyr eu hunain sy'n dweud hynny. Felly, beth rŷn ni'n ei weld, i bob pwrpas, yw preifateiddio haen arall o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru oherwydd cau yr ysbytai cymunedol. Nawr, onid yw hynny yn sgandal, ac oni ddylech chi a'r bwrdd iechyd esbonio i bobl gogledd Cymru pam rydych chi wedi gadael i hyn ddigwydd?
Wel, Llywydd, dwi ddim yn cytuno o gwbl â beth mae'r Aelod wedi ei ddweud. Mae'n hanfodol i ddyfodol y gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru i foderneiddio ac i symud gwasanaethau yn agosach at bobl a ble mae'n nhw'n byw, a, ble rŷm ni'n cadw gwasanaethau yn y gymuned, i'w moderneiddio nhw, fel rŷm ni wedi ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog, er enghraifft, ble mae nifer fwy o wasanaethau ar gael i bobl leol nawr nag oedd pan oedd plaid yr Aelod yn trial stopio beth oedd y bwrdd lleol yn trial ei wneud. Ac nid yw'r ffaith bod ysbyty preifat wedi rhoi cais mewn i'r gogledd yn golygu dim byd am breifateiddio gwasanaethau rŷm ni'n eu darparu yn y gogledd. Os yw ysbyty preifat eisiau trial adeiladu yn y gogledd, mae hi lan i'r bobl sy'n cefnogi'r ysbyty preifat yna. Ond dyw'r ysbyty preifat yna ddim yn dibynnu ar waith sy'n dod o'r sector cyhoeddus, achos rŷm ni'n rhoi gwasanaethau drwy wasanaethau'r NHS yng ngogledd Cymru, a'r gwasanaethau rŷm ni'n eu rhoi yw'r gwasanaethau sydd agosaf i ble mae pobl yn byw, a gwasanaethau sy'n mynd i lwyddo yn y dyfodol.
Prif Weinidog, mae ysbytai ar bob lefel, gan gynnwys ein hysbytai cymuned, yn dibynnu ar dimau o staff gweithgar sydd, fel y gwyddoch, yn wynebu cynnydd ychwanegol o ran pwysau. Rwy'n drist iawn o fod yn sefyll yma heddiw, er hynny, yn nodi bod staff yn wynebu her arall. Yn frawychus, mae Wales Online wedi darganfod bod ymosodiadau ar staff ysbyty wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed yng Nghymru, gydag ymosodiadau'n digwydd 10 gwaith bob un dydd ar gyfartaledd. Prif Weinidog, adroddwyd 3,805 o ymosodiadau corfforol yn erbyn staff gan fyrddau iechyd Cymru yn 2017-18, ac roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 70 y cant ers 2010. Pa gamau wnewch chi eu cymryd i gynorthwyo'r rhai sydd eisoes wedi eu heffeithio gan ymosodiadau pan oedden nhw yn y gweithle, yn gweithio yn ein hysbytai? A hefyd, sut gwnewch chi gynorthwyo ein gweithwyr iechyd rheng flaen i amddiffyn eu hunain rhag risgiau pellach o ran trais, yn y dyfodol?
Llywydd, a gaf i ddechrau trwy gytuno â'r hyn y mae Janet Finch-Saunders wedi ei ddweud am y sefyllfa gwbl annerbyniol o bobl yn wynebu ymosodiadau yn rhan o'u gwaith beunyddiol? Ac mae'r ffigurau hynny'n frawychus. Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn cytuno â mi mai'r rheswm amdanyn nhw, yn rhannol, yw bod pobl yn fwy parod i hysbysu am y digwyddiadau hynny a'u cofnodi, efallai y bydden nhw wedi eu derbyn yn y gorffennol yn rhan o natur y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Nid oedd hynny'n iawn erioed. A chefnogwyd y camau a gymerwyd ar draws y Siambr, i'w gwneud yn gwbl eglur bod pobl sy'n gweithio yn ein GIG yn haeddu gwneud y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud heb y perygl o ddioddef ymosodiadau gan bobl. Mae'n ffaith, rydym ni'n deall, bod staff y GIG yn aml yn ymdrin â phobl mewn trallod. Efallai eu bod yn ymdrin â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, efallai y byddan nhw yn ymdrin â phobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau, ac weithiau mae ymddygiad pobl yn anrhagweladwy yn ei hanfod. O dan yr amgylchiadau hynny, mae staff bob amser, mi wn, eisiau gweithio gyda phobl i ddatrys yr anawsterau hynny. Ond mae staff hefyd yn wynebu anawsterau gan bobl sydd wedi bod yn yfed, sy'n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys, er enghraifft, wedi meddwi, ac, o dan yr amgylchiadau hynny, mae polisi o ddim goddefgarwch o ymddygiad sy'n arwain at yr anawsterau hyn yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag ef yn y GIG. Rydym ni'n ymdrin ag ef gyda'n partneriaid yng ngwasanaeth yr heddlu, gyda'n cydweithwyr yn y mudiad undebau llafur, oherwydd mae'n gwbl sicr mai adrodd, cofnodi ac yna ymateb i'r digwyddiadau hynny yw'r ffordd yr ydym ni eisiau gweld y digwyddiadau hynny'n cael eu dileu.