1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mai 2019.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid yr UE ar gyfer Cymru? OAQ53823
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Cymru wedi bod yn fuddiolwr hirdymor o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n parhau hyd heddiw, pan fo dros 90 y cant o'n dyraniad cronfeydd strwythurol presennol wedi ei fuddsoddi bellach mewn mesurau sgiliau a seilwaith, gan gynnwys enghreifftiau hynod lwyddiannus yn etholaeth yr Aelod ei hun.
Diolch, Prif Weinidog, a gallwn edrych o gwmpas nifer o etholaethau lle gwelwn seilwaith pwysig iawn a phrosiectau eraill a fu er budd pobl Cymru o ganlyniad i gyllid yr UE. Mae'r cyllid werth oddeutu £650 miliwn y flwyddyn i Gymru. Mae hynny'n golygu, dros gyfnod o bum mlynedd, bod £3.25 miliwn yn dod i mewn i Gymru. A, hyd yma, nid oes gennym unrhyw sicrwydd hirdymor gan y Torïaid. Mae Swyddfa Cymru yn dawedog, mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn dawedog, ac mae'r Torïaid Cymreig yn parhau i fod yn dawedog. Prif Weinidog, beth yw canlyniadau'r Torïaid yn methu â chyflawni'r addewidion hynny na fyddai Cymru yn dioddef ceiniog yn llai o ganlyniad i Brexit?
Llywydd, efallai fod y Blaid Geidwadol a'r Ysgrifennydd Gwladol yn dawedog nawr ynghylch sicrwydd hirdymor, ond nid oedden nhw'n dawedog o gwbl yn y cyfnod cyn y refferendwm yn 2016, pan gynigiodd arweinydd y blaid Geidwadol ar y pryd yma yng Nghymru sicrwydd pendant—ei derm ef yw hwnnw—sicrwydd pendant na fyddai Cymru yr un geiniog ar ei cholled o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna pam mae'n gwbl briodol i ni ddal y Blaid Geidwadol a'r Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU i'r addewidion hynny. Daw'r arian y mae Cymru yn ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd i Gymru gan ein bod ni'n gymwys i'w dderbyn ar sail ein hanghenion. Ni fydd yr anghenion hynny wedi diflannu y diwrnod ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, os mai dyna fydd yn digwydd. Ac mae'n rhaid i'r arian i ymateb i'r anghenion hynny ddod gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Byddai'n neges ryfedd iawn yn wir, Llywydd, oni fyddai, i bobl a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd eu bod nhw ar eu colled o ganlyniad i'w haelodaeth o'r Deyrnas Unedig nag yr oedden nhw wedi bod o ganlyniad i'w haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Mae hwnnw'n fater i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ag ef. Mae'n rhaid i'r arian ddod i Gymru, dim un geiniog yn llai, a heb golli unrhyw rym ychwaith, Llywydd, oherwydd mae angen i'r penderfyniad ynglŷn â sut i ddefnyddio'r arian hwnnw, fel y mae Mick Antoniw wedi ei ddweud, gael ei wneud yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, lle mae wedi cael ei wneud ers dechrau'r cyfnod datganoli.
Prif Weinidog, rydym ni'n clywed llawer o glochdar ar y meinciau Llafur am arian Ewropeaidd ar ôl Brexit, ond, wrth gwrs, y gwir amdani yw nad arian Ewropeaidd yw hwn, ond ein harian ni sydd wedi cael ei anfon i'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n cael ei anfon yn ôl i'r wlad hon ar ôl i gyfran ohono gael ei gymryd. A ydych chi'n derbyn, ar ôl Brexit, bod gan Gymru gyfle i allu buddsoddi mewn ardaloedd sydd y tu allan i'r rhaglen ariannu Ewropeaidd ar hyn o bryd oherwydd eu lleoliad ac eto'n haeddu rhywfaint o fuddsoddiad? Felly, a ydych chi'n croesawu'r cyfleoedd y gellid eu cynnig i Gymru o ganlyniad i gronfa ffyniant gyffredin y DU, fel y gall y cymunedau difreintiedig hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd gael y gefnogaeth y maent hwythau hefyd yn ei haeddu?
Nid wyf i mor frwd â'r Aelod am gronfa ffyniant y DU gan ein bod ni'n gwybod y nesaf peth i ddim am yr hyn y mae'r gronfa honno'n ei gynnig. Rydym ni'n gwybod y nesaf peth i ddim am yr arian. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn fy hysbysu, pan wahoddwyd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i roi tystiolaeth i bwyllgorau'r Cynulliad fel y gallwn gael y manylion sydd eu hangen arnom, ei fod yn gwrthod dod yma i ateb y cwestiynau hynny. Felly, nid wyf i mor frwd â'r aelod o bell ffordd. Gadewch i mi ddweud hyn: rydym ni'n gweithio'n galed o fewn Llywodraeth Cymru, a thrwy grŵp sy'n cynnwys pobl y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, i wneud yn siŵr ein bod ni'n barod ar gyfer y diwrnod pan fydd yr arian hwnnw'n parhau i ddod i Gymru, a lle ceir cyfleoedd, os oes rhai, i ddefnyddio'r arian hwnnw mewn ffyrdd newydd a mwy hyblyg a mwy effeithiol, wrth gwrs, y byddwn yn barod i achub ar y cyfleoedd hynny. Ond nid ydym yn gwybod dim am yr arian, nid ydym ni'n gwybod dim am leoliad y pwerau, a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gwneud yn siŵr bod y ddau beth hynny'n llifo i Gymru ac yn aros yng Nghymru yn y dyfodol.