1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mai 2019.
4. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar weithredu'r penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE? OAQ53801
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi parchu canlyniad y refferendwm erioed, ond nid yw erioed wedi credu bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid niweidio eu dyfodol economaidd eu hunain a dyfodol economaidd eu plant. Dyna sail ein polisi o hyd.
Pleidleisiodd pobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'r penderfyniad hwnnw, ond onid oes angen iddo ei barchu? A welodd ef y canlyniadau yn yr etholiadau lleol yn Lloegr yr wythnos diwethaf ac, yn arbennig, bod y canlyniadau gwaethaf o bell ffordd i'r blaid Lafur ar draws cyn-gymunedau'r maes glo? A yw'n cytuno â'r Aelodau sy'n cynrychioli Blaenau Gwent, lle y pleidleisiodd 62 y cant i adael, neu Torfaen, lle y pleidleisiodd 60 y cant i adael, y dylai'r etholwyr gael eu hanwybyddu a'u gorfodi i bleidleisio eto gan nad ydyn nhw'n parchu eu hetholwyr na'r penderfyniad a wnaed ganddynt?
Wel, Llywydd, nid yw erioed wedi bod yn bolisi gan Lywodraeth Cymru i anwybyddu'r hyn y mae pleidleiswyr yn ei ddweud. Nid wyf i'n credu bod unrhyw aelod o Lywodraeth Cymru wedi sefyll dros un blaid ac yna wedi anwybyddu barn y bobl a bleidleisiodd drostyn nhw a phenderfynu ymuno â phlaid arall yma ar lawr y Cynulliad, felly nid wyf i'n meddwl bod angen llawer o bregethau arnom ni ar yr ochr yma i'r Cynulliad ar barchu penderfyniadau democrataidd.
Fel y dywedais yn fy ateb i'r Aelod, rydym ni wedi canolbwyntio erioed ar ffurf yn hytrach na ffaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gan ein bod ni'n parchu'r ffaith y bu pleidlais gan bobl yng Nghymru, ac mae'n bleidlais yr oeddem ni'n ei gresynu oherwydd ein bod ni wedi ymgyrchu dros y canlyniad cyferbyniol. Rwyf i wedi credu erioed, fel yr wyf i'n cofio Steffan Lewis, ein cyd-Aelod, yn dweud y diwrnod ar ôl y refferendwm, er efallai bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, nad oedd neb yng Nghymru wedi pleidleisio i golli arnynt eu hunain. A byddai'n weithred o golli arnom ein hunain i syrthio allan o'r Undeb Ewropeaidd, i adael ar y math o delerau y mae'r Aelod yn eu hargymell yn barhaus, gan y byddai'r rheini'n gwneud niwed economaidd a chymdeithasol difrifol i Gymru, ac ni wnaiff Llywodraeth Cymru sefyll o'r neilltu a gweld hynny'n digwydd.
Prif Weinidog, fel y dywedasoch yn gywir ddigon, ni phleidleisiodd pobl Blaenau Gwent o blaid llai o wasanaethau, ni wnaethon nhw bleidleisio o blaid llai o swyddi, ni wnaethon nhw bleidleisio i fod yn dlotach, ni wnaethon nhw bleidleisio i weld gostyngiad i wariant ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol. Pleidleisiodd pobl Blaenau Gwent yn erbyn cyni cyllidol, fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn polisi'r Torïaid sy'n rhwygo'r galon o'n cymunedau, pa un a yw rhai pobl yn cydnabod hynny ai peidio. Ar y sail ein bod ni'n cael ein hethol i warchod buddiannau'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli ac i frwydro'n galed dros y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli, a allwch chi fy sicrhau, Prif Weinidog, y byddwch chi'n parhau i frwydro'n galed dros refferendwm na fydd yn cael ei ymladd ar sail celwydd y refferendwm blaenorol ond ar sail gwir realiti yr hyn sy'n ein hwynebu o ran Brexit caled, Brexit heb gytundeb, Brexit dall a Brexit a fydd yn tanseilio ein heconomi a'n gallu i ddarparu gwasanaethau?
Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod am y rhesymau cymhleth hynny a oedd yn sail i'r penderfyniadau a wnaeth pobl yn y bleidlais yn ôl yn 2016, ac yn arbennig y rhannau hynny o Gymru a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu dal yn ôl, yn teimlo eu bod wedi eu torri i ffwrdd o'r ffyniant yr oedd eraill yn gallu ei fwynhau ac a oedd wedi teimlo y gofynnwyd iddyn nhw ysgwyddo baich cyni cyllidol cwbl annheg. Y bobl hynny—cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud: ni wnaeth yr un o'r bobl hynny bleidleisio i gael dyfodol gwaeth iddyn nhw eu hunain nac i'w teuluoedd. Os na ellir taro bargen o'r math sy'n diogelu dyfodol y bobl hynny, sy'n bodloni'r chwe phrawf y mae'r Blaid Lafur wedi eu hamlinellu, yna mae mynd yn ôl at y bobl am benderfyniad pellach a therfynol yn ymddangos yn anochel i mi. Fel Llywodraeth, fel yr wyf i wedi ei ddweud lawer gwaith, pe byddai'r sefyllfa honno yn digwydd, nid oes dim yr ydym ni wedi ei weld yn y bron i dair blynedd sydd wedi mynd heibio ers y refferendwm hwnnw wedi ein harwain i gredu bod y cyngor a roesom yn ôl yn 2016 yn gyngor anghywir, a byddwn yn dweud eto wrth bobl yng Nghymru, os cânt y cyfle hwnnw, bod ein dyfodol yn fwy diogel a bod eu dyfodol nhw a dyfodol eu teuluoedd yn fwy diogel trwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.