Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 7 Mai 2019.
Rhoddais wybod i bawb ohonoch chi ym mis Gorffennaf y llynedd ein bod wedi penodi'r Comisiwn Gwaith Teg, dan gadeiryddiaeth Athro Linda Dickens, i ystyried a gweithio gyda'n partneriaid cymdeithasol i wneud argymhellion ar sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru. Roeddem ni'n teimlo ei bod yn bwysig i'r comisiwn fod yn annibynnol ar y Llywodraeth er mwyn iddo fod yn wrthrychol ac yn ddiflewyn ar dafod. Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio gan y Comisiwn, yn rhydd o fewnbwn golygyddol gan swyddogion Llywodraeth Cymru, a gofynnwyd i'r comisiwn adrodd erbyn mis Mawrth. Roedd y Prif Weinidog a minnau wrth ein boddau o gael yr adroddiad pan wnaethom ni gyfarfod â'r Comisiynwyr ddiwedd mis Mawrth, a phleser mawr yw cael cyhoeddi'r adroddiad hwnnw heddiw.
Dirprwy Lywydd, hoffwn gofnodi bod Llywodraeth Cymru yn diolch i'r Comisiwn am ei ymrwymiad i'r hyn sydd, yn amlwg, wedi bod yn ddarn trylwyr o waith dros nifer o fisoedd. Mae'n tystio i rinweddau'r Comisiwn ei fod nid yn unig wedi adrodd ar amser ond ei fod wedi cynhyrchu adroddiad rhagorol ac ystyriol. Fel y cydnabu'r Comisiwn yn ei adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i waith teg fel ffordd o greu economi sy'n gryfach, yn fwy cydnerth ac yn fwy cynhwysol.
Rwy'n cytuno â'r Comisiwn pan ddywed fod gwaith teg yn cyd-fynd â thraddodiadau sy'n hirsefydlog yng Nghymru, sef cydsafiad cymdeithasol a chydlyniant cymunedau. Mae'n hanfodol inni fynd i'r afael â'r heriau o ran anghydraddoldeb, tlodi a lles yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf i o'r farn fod y Comisiwn wedi datblygu argymhellion cyraeddadwy sy'n cynnig llwybr ymarferol i sicrhau'r gwaith teg hwnnw yng Nghymru. Mae'n adeiladu ar y seiliau cadarn yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi eu llunio eisoes, sy'n cynnwys y cod moesegol ar gaffael mewn cadwyni cyflenwi a'n contract economaidd, sy'n hyrwyddo gwaith teg a thwf cynhwysol.
Mae'r Comisiwn wedi gwneud cyfanswm o 48 o argymhellion mewn wyth maes ar gyfer eu gweithredu. Yn gyntaf, mae wedi ceisio mynegi pam mae angen clir inni anwesu, hyrwyddo a hybu gwaith teg ar draws pob sector yng Nghymru, y pryder cynyddol am ansawdd swyddi, y cynnydd mewn swyddi isel eu cyflog sy'n gofyn sgiliau isel ac o natur ansicr, a chanlyniadau hyn o ran cynhyrchiant isel, dyled, anghydraddoldeb a thlodi mewn gwaith. Mae'r Comisiwn wedi datblygu diffiniad o waith teg lle caiff gweithwyr eu gwobrwyo, eu clywed a'u cynrychioli'n deg, lle mae sicrwydd, ac y gallant ddod yn eu blaenau mewn amgylchedd sy'n iach a chynhwysol lle perchir hawliau. Bydd y diffiniad hwn nid yn unig yn helpu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei holl ysgogiadau i hyrwyddo a hybu gwaith teg, ond bydd yn ystyrlon hefyd i gyflogwyr a gweithwyr.
Er ein bod yn cydnabod bod cyfyngiadau ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o fewn y setliad datganoli presennol, gofynnwyd i'r comisiwn ystyried y camau ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys y potensial ar gyfer deddfwriaeth newydd. Mae'r Comisiwn wedi argymell sut y gallem ddefnyddio'r cymhwysedd sydd gennym i hybu gwaith teg, ac rwy'n falch ei fod wedi cymeradwyo'r ymrwymiad a wnaethom eisoes yn Llywodraeth Cymru i roi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol er mwyn gwreiddio partneriaeth gymdeithasol yn fwy cadarn.
Mae'r adroddiad wedi awgrymu mewn ffordd ddefnyddiol sut y gallem ddylanwadu ar y maes polisi hanfodol hwn mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli, sy'n fater o bwys arbennig wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir, wrth adael yr UE, na ddylid gwanhau hawliau cyflogaeth presennol, y dylai cytundebau masnach newydd ddiogelu safonau cyflogaeth, ac y dylai deddfwriaeth cyflogaeth y DU yn y dyfodol fod yn gydradd â chyfraith gyflogaeth flaengar yr UE.
Y pedwerydd maes a ystyriwyd gan y Comisiwn oedd y defnydd o gymhellion economaidd i hyrwyddo gwaith teg. Mae eu cynigion yn cyd-fynd ag ethos cyfnewid iach yng nghontract economaidd Llywodraeth Cymru. Rydym eisoes yn gallu cyfeirio at nifer o enghreifftiau o fusnesau o bob lliw a llun yn gwneud cyfiawnder ag ystyr gwaith teg. Ac rwy'n falch o weld sut y mae'r Comisiwn yn ein helpu ni i ystyried sut y gellir ymestyn yr arfer hwnnw ledled Cymru gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd gennym ni.
Mae rhan 5 yr adroddiad yn ystyried pwysigrwydd undebau llafur a bargeinio ar y cyd ar gyfer gwaith teg yn yr economi. Mae tystiolaeth ymchwil y Comisiwn yn dangos yn gyson fod amcanion pwysig o ran gwaith teg yn cael eu gwasanaethu gan bresenoldeb undebau a chydfargeinio yn y gweithle. Mae'r Comisiwn yn mynegi bod presenoldeb undebau llafur yn bwysig wrth wreiddio, monitro a gorfodi safonau cyfreithiol mewn arferion yn y gweithlu ac wrth helpu i orfodi hawliau cyflogaeth yn effeithiol. Rydym yn cefnogi asesiad sylfaenol y Comisiwn fod undebau llafur a chydfargeinio yn cyfrannu at gynhyrchiant a thwf economaidd, tra bod gwendid neu absenoldeb undebau llafur yn cyfrannu at anghydraddoldeb.
Mae'r Comisiwn wedi ystyried hefyd sut y gallem gymryd camau i ennyn diddordeb, brwdfrydedd a chyfranogiad i'r agenda o ran gwaith teg yng Nghymru ac argymhellodd y camau y gallem eu cymryd i gynorthwyo a chefnogi cyflogwyr ewyllysgar i fod yn sefydliadau gwaith teg. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn. Mae gwaith teg yn rhan hanfodol o economi fodern, gystadleuol ac nid oes dim ynddo i godi dychryn ar neb. Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn barod i weithio ar y cyd gyda busnesau a sefydliadau o bob maint i ddatblygu economi fodern, gystadleuol a chynhyrchiol i'r unfed ganrif ar hugain.
Mae Rhan 7 yn adroddiad y Comisiwn yn edrych ar y gallu i fwrw ymlaen â'r gwaith yng Nghymru ac mae'n awgrymu y dylid gwella'r sefydliadau a'r mecanweithiau presennol a chreu mecanweithiau ychwanegol, ac mae wedi gwneud argymhellion ynglŷn â sut i wneud hyn. Yn adran olaf yr adroddiad, mae'r Comisiwn yn ystyried sut y gallem wella a chasglu data i fesur cynnydd, y bydd angen i'n gwasanaeth gwybodaeth a dadansoddi eu hystyried yn fanwl.
Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n bwriadu mynd ar ôl y manylder hwnnw heddiw, cyn inni roi ein hymateb ffurfiol, ar wahân i ddweud y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio ein syniadau ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n defnyddio'r pwerau a'r dulliau sydd ar gael inni ar gyfer gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru. Fel y nododd y Comisiwn, mae gwaith teg yn gofyn am weithredu y tu hwnt i gwmpas unrhyw bortffolio gan Weinidog unigol. Bydd Gweinidogion nawr yn trafod yr adroddiad, ei argymhellion a'i oblygiadau i feysydd eu portffolio gyda'u swyddogion i borthi'r ymateb ehangach gan Lywodraeth Cymru.
Er hynny, gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y chwe argymhelliad blaenoriaethol a ddatblygwyd gan y Comisiwn. Maen nhw'n cyd-daro â'n hymrwymiad fel Llywodraeth i ysgogi gwaith teg. Yr argymhellion yw y daw holl Weinidogion a swyddogion Cymru i fod yn gyfrifol am waith teg; y bydd y diffiniad arfaethedig o waith teg yn cael ei fabwysiadu a'i ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru ac wrth hyrwyddo gwaith teg; y bydd canfyddiadau'r Comisiwn yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol arfaethedig a sut y gallai Llywodraeth Cymru hyrwyddo undebau llafur a chyd-fargeinio drwy ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid; y caiff strwythur ei sefydlu ac y caiff ei ariannu'n ddigonol o fewn Llywodraeth Cymru i gydgysylltu a llywio gweithgareddau gwaith teg; ac y bydd Gweinidogion yn monitro sut mae gwaith teg yn cael ei ddatblygu yn eu hardaloedd nhw i lywio adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar waith teg yng Nghymru.
Mae'r Comisiwn wedi gwahodd ein partneriaid cymdeithasol i roi ymatebion ffurfiol. Byddwn yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru a fydd yn adlewyrchu eu barn nhw ym mis Mehefin. Ac, yn olaf, fel y dywedodd y Comisiwn, bydd ein partneriaid cymdeithasol yn allweddol wrth barhau ag agenda gwaith teg. Byddwn yn ymgynghori'n llawn â nhw ynglŷn â gweithredu argymhellion y Comisiwn ar sail deirochrog a byddwn yn cynnal cynhadledd gwaith teg ym mis Mehefin i ddatblygu dull y cytunir arno. Diolch.