Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 7 Mai 2019.
Ie wir, diolch yn fawr am y pwyntiau hynny, Dai Lloyd. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn bwriadu sicrhau gyda gofal mawr ein bod ni'n gwella Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol pan fyddwn ni'n gwneud y gwaith hwn ac, yn wir, pan fyddwn ni'n gwneud gwaith arall. Byddwch yn gwybod fy mod i, yn fy mhortffolio blaenorol, wedi bod yn allweddol o ran cael darn o waith ymchwil i wneud yn siŵr nad ydym, yn anfwriadol, yn gwanhau'r Ddeddf honno drwy ddeddfwriaeth ddilynol, ac rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n dwyn hynny ymlaen i'r Ddeddf hon hefyd. Os bydd raid, bydd angen inni ddiwygio'r Ddeddf honno i'w chryfhau hi, ond bydd hynny'n rhan o'r ystyriaeth wrth fwrw ymlaen â'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol.
O ran caffael cyhoeddus, mae'r adroddiad yn gwneud rhai argymhellion manwl iawn ynghylch defnyddio arian cyhoeddus fel trosoledd i gael ymatebion o fathau arbennig. Bydd hynny'n un o'r pethau y byddwn ni'n eu hystyried yn ofalus iawn. Mae'r adroddiad eisoes wedi cael ei drafod gyda phartneriaid cymdeithasol ac yn y blaen, felly'r amserlen yw y byddwn ni'n ymateb ddiwedd mis Mehefin pan fydd yr holl bartneriaid cymdeithasol, ac unrhyw un arall sydd am wneud cyfraniad, wedi cael cyfle i wneud hynny. Mae honno'n amserlen dynn iawn mewn un ffordd, ond, ar un ystyr, rydym wedi datblygu hyn mewn partneriaeth gymdeithasol, ac felly mae hi'n amserlen y mae pobl yn hapus â hi ac yn hapus i fwrw ymlaen â hi. Bydd gennym gynhadledd wedyn ym mis Mehefin, a byddwn yn gwahodd ystod eang o randdeiliaid iddi, er mwyn ei llunio ar gyfer mynd yn ein blaenau.
Holl ddiben hyn, wrth gwrs, yw mynd â'r sector preifat, y sector cyhoeddus, yr undebau llafur a'r Llywodraeth, gan gynnwys pawb ohonom ni yma, ar hyd yr un llwybr tuag at ein nod cyffredin. Ac rwy'n credu ei bod yn amlwg fod yna nodau cyffredin yma. Y cwestiwn mawr fydd sut y gallwn ni gael y dylanwad mwyaf ar gyfer cyflawni'r nodau cyffredin hynny, ac rwy'n credu y byddwch chi, yn briodol felly, yn ein dal ni i gyfrif o ran pa mor gyflym y byddwn ni'n gwneud hynny.