Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 7 Mai 2019.
Diolch i chi am y cyfraniad hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud. Mae'r adroddiad, rwy'n falch iawn o ddweud—ac rwyf i am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r comisiynwyr gwaith teg, sef, Dirprwy Lywydd, yr Athro Linda Dickens MBE, athro Emeritws cysylltiadau diwydiannol ym Mhrifysgol Warwick; Sharanne Basham-Pyke, cyfarwyddwr ymgynghorol Shad Consultancy Ltd; Athro Edmund Heery, athro cysylltiadau cyflogaeth yn Ysgol Fusnes Caerdydd; a Sarah Veale CBE, a oedd yn bennaeth adran hawliau cydraddoldeb a chyflogaeth y TUC hyd nes iddi ymddeol yn 2015. Rwy'n credu eu bod nhw wedi gwneud darn aruthrol o waith mewn cyfnod byr iawn o amser. Roeddem wedi pennu cyfyngiadau mawr iawn o ran amser, gyda pheth anesmwythder, mae'n rhaid imi ddweud. Rwyf wrth fy modd gyda'r darn o waith y maen nhw wedi ei gynhyrchu, ond cafodd yr amserlen ei llywio gan ein hawydd i gael y Ddeddf yn ei lle a'i hamseru o fewn tymor y Cynulliad. Felly, dyna'r amserlen, i bob pwrpas.
Cynhyrchwyd y darn hwnnw o waith; darn da iawn o waith ydyw. Bydd ein hymateb swyddogol i hwnnw'n dod yn gyflym iawn, ac yna'r gynhadledd ym mis Mehefin i fwrw ymlaen â hyn yn y bartneriaeth gymdeithasol deirochrog—oherwydd dyna graidd y mater, wrth gwrs—gyda golwg ar gael Deddf ddrafft ar lawr y Cynulliad cyn gynted ag y mae hynny'n ymarferol bosibl ei reoli yn nhymor yr hydref nesaf. Bydd Mick Antoniw mor gyfarwydd â mi o leiaf, os nad yn fwy cyfarwydd, â pha mor bell y mae'n rhaid ichi ddod yn ôl o gyflwyniad Deddf er mwyn gallu cael y cyfarwyddyd yn iawn, felly mae amser yn hanfodol. Felly, rydym ni'n eiddgar i gael hynny i mewn.
Bydd y Ddeddf honno, yn fy marn i, yn rhoi pŵer i'r cod ymarfer caffael moesegol sydd gennym ni fel y bydd pobl yn cael eu gwobrwyo am gydymffurfio ag ef ac am ymuno ag ef, a bydd yn rhaid ystyried a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud pan fydd pobl yn ei dorri ar ôl ymrwymo iddo ac yn y blaen. Rwy'n credu bod cyfres gyfan o bethau yn yr adroddiad—gwn fod yna gyfres gyfan o bethau yn yr adroddiad ynglŷn â sut y gallwn gynnwys cydfargeinio priodol ar draws haenau gweithredu yn ein heconomi, nid yn unig gyda chyflogwyr unigol ac yn y blaen. Bydd ef yn gwybod cymaint â hynny o leiaf, os nad yn well na mi, faint o fargeinio rhwng undebau llafur o'r math hwnnw a sbardunodd nid yn unig lefelau cyflog—oherwydd nid oes a wnelo hyn â lefelau cyflog yn unig; mae hyn yn ymwneud â lefelau cydraddoldeb a chyfranogiad yn y cynhyrchiant y mae eich llafur chi yn ei gynhyrchu. Mae'r adroddiad yn gryf iawn yn hynny o beth, yn fy marn i; roeddwn i'n falch iawn o ddarllen hynny.
Hoffwn i bwysleisio, ar hyn o bryd, nad yw hyn yn achosi unrhyw broblem i'n partneriaid cymdeithasol. Dyna pam y gallaf ddweud bod hyn yn gytûn ac yn bendant iawn yn unol â thraddodiadau Cymru; rwy'n falch iawn o hynny. Ac yna, o ran dyletswydd i'r Ddeddf Cydraddoldeb, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd ef. Bydd yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn bwrw ymlaen â'r darn o waith ymchwil i'r ffordd orau o gwmpasu'r agenda hawliau o fewn ein deddfwriaeth, gan adeiladu ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a sicrhau ein bod yn gweithredu dyletswydd adran 1 yn y ffordd orau bosibl a sut y bydd hynny'n arwain tuag at y Ddeddf newydd hon yr ydym yn ei chynnig.
Hoffwn ddweud un peth terfynol yn unig am hyn: nid yw hyn yn ymwneud yn unig â chaffael, er bod gwariant caffael yn bwysig iawn ac yn cynrychioli biliynau o bunnoedd yn ein heconomi; mae hwn yn ymwneud â holl gyllid y Llywodraeth. Felly, byddwn yn ystyried pa gyfryngau y gallwn ni eu defnyddio i gael gwaith teg ledled yr economi yng Nghymru, gan ddefnyddio holl ddulliau ariannu'r Llywodraeth, ac maen nhw'n llawer mwy amlweddog na'r gwariant caffael yn unig.