Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 7 Mai 2019.
Fel eraill, ac eithrio, efallai, llefarydd y Ceidwadwyr, rwyf eisiau croesawu cyhoeddi'r cynllun hwn, ac mae llawer i'w groesawu ynddo. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n codi arswyd ar Darren Millar yw maint yr uchelgais ynghyd â'r weledigaeth o sector gofal iechyd sylfaenol sy'n gydlynol ac sy'n trin ystod o gyflyrau ac afiechydon ar y lefel fwyaf lleol. Dyma sydd yn rhaid i ni allu ei wneud.
Cytunaf ag ehangder y dull gweithredu hwn, ond hefyd ei bwyslais—pwyslais ar les rhagweithiol, system gyfan sydd wedi'i gwreiddio yn y pwyslais hwnnw, a'r elfen o rymuso gwybodaeth y mae'r model yn ceisio ei disgrifio. Fodd bynnag, mae angen inni gyflawni hynny, ac mae'r pwynt a wnaed gynnau gan fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ferthyr a Rhymni, yn sôn am yr amser y mae'n ei gymryd i wireddu'r weledigaeth hon. Ac rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod yn gallu cyflawni hyn mewn ffordd amserol.
Rwy'n siarad ag etholwyr yn rheolaidd sy'n pryderu ac yn gofidio am gefnu ar feddygfa gyfarwydd, unigol a chael yn ei lle y ganolfan draws-ddisgyblaethol ar gyfer gofal sylfaenol. Rwyf yr un mor bryderus a gofidus â nhw. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cyflwyno'r achos a wnaeth Dai Lloyd yn dda iawn—nad y meddyg teulu yw'r unig ateb, ond gallu cael y math o ofal sylfaenol sy'n briodol ar gyfer eu hanghenion nhw. Mae hyn yn gofyn—ac mae'r cynllun yn cydnabod hyn—bod angen cyhoedd gwybodus, a'r hyn y mae'r cynllun yn ei ddisgrifio fel cymunedau grymus yn sail i wireddu'r weledigaeth honno. Mewn gwirionedd, mae cyhoedd gwybodus yn cael ei ddisgrifio fel elfen sy'n hanfodol i lwyddiant y weledigaeth gyffredinol.
Rwy'n cytuno â hyn, ond byddwn i'n mynd ymhellach. Byddwn i'n dweud fod cael ffydd yn y system, a ffydd pobl a chymunedau yn y gwasanaethau a dderbyniant, hefyd yn hanfodol i wireddu'r weledigaeth, ac yn hanfodol i ddarparu system les ragweithiol ac nid system salwch adweithiol yn unig. Yn rhy aml o lawer, gwelwn bobl nad ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth a grym i allu cael y gwasanaethau hyn yn hawdd. Cyhoedd nad yw'n deall y newidiadau sy'n cael eu gwneud a'r rhesymau am y newidiadau hynny. Mae'r diffyg dealltwriaeth yma yn dadrymuso pobl ac yn tanseilio ffydd yn y newidiadau a'r buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud.
Nawr, mae hwn yn gyfnod ym Mlaenau Gwent lle'r ydym ni'n gweld buddsoddiad gwych yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym ni wedi gweld canolbwyntio ar system iechyd athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, ac rwy'n ei chefnogi'n llwyr, ac, fel y gŵyr y Gweinidog, credaf y bydd y newidiadau'n gweddnewid iechyd yn rhanbarth y de-ddwyrain. Ond mae angen i ni hefyd weld, ac rydym ni wedi gweld buddsoddiad ym Mrynmawr, a'r cynlluniau ar gyfer canolfan les newydd ar safle'r ysbyty cyffredinol yn Nhredegar. Rwy'n credu ei bod hi'n wych cael trafod buddsoddi mewn gofal yr unfed ganrif ar hugain ar safle'r hen ysbyty bwthyn a sefydlwyd gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar ychydig dros ganrif yn ôl. Yn yr un modd ag y daeth hwn yn fodel i'r GIG, felly mae angen i'r model gofal newydd hwn ddod adref i Dredegar. Roedd Bevan eisiau 'Tredegareiddio' Prydain; nawr mae'n bryd i bobl Tredegar gael yr un cydlyniad ac ansawdd gofal ag yr oeddem ni eisiau ei rannu â phobl Prydain 70 mlynedd yn ôl.
Ond mae'n rhaid inni fod yn ffyddiog, Gweinidog, y bydd y buddsoddiad hwnnw'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yn arwain at gynnydd yn ansawdd y gofal. Gwyddom nad yw hyn wedi digwydd ym Mrynmawr. Gwyddom nad yw pobl, os na allan nhw gael gafael ar y meddyg, neu gael apwyntiad gyda'r system gofal sylfaenol, yn teimlo'u bod yn cael eu grymuso—maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu dadrymuso, ac nid oes ganddyn nhw ffydd yn y system. Mae angen inni sicrhau—. Mae'n flynyddoedd lawer—. Siaradodd Dawn Bowden am nifer y Gweinidogion iechyd a fu yn ystod y cyfnod y mae system De Cymru wedi bod yn destun adolygiad, ond rwyf i'n ddigon hen i gofio Syr Jeremy Beecham a gwasanaethau yn canolbwyntio ar y dinesydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni gyflawni'r rhain, yn hytrach na dim ond darparu'r gweledigaethau a'r areithiau. Felly, rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny.
Y pwynt olaf yr hoffwn i ei wneud yw hyn: mae'n ymwneud â chydraddoldeb a gallu defnyddio gwasanaethau. Fe wnaethom ni golli Julian Tudor Hart y llynedd, a cholli ei weledigaeth ynghylch y ddeddf gofal gwrthgyfartal, ond gobeithio nad ydym ni wedi colli golwg ar hyn. Rwy'n awyddus i sicrhau—. Rydym ni'n deall fod tlodi'n effeithio ar ganlyniadau iechyd, a gwyddom hefyd ei fod yn sail i rai o'r problemau iechyd mewn unrhyw gymuned. Rwyf hefyd eisiau sicrhau ei fod yn sail gwariant, ei fod yn cymell y buddsoddiad a welwn ni. Rwyf eisiau sicrhau, ac rwyf eisiau deall bod gennym ni'r meddygon teulu, fod gennym ni'r cyfleusterau iechyd yn y cymunedau sydd eu hangen fwyaf. Mae angen inni gael cydraddoldeb a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau, a chydraddoldeb o ran dosbarth ac o ran daearyddiaeth. Yn rhy aml o lawer, nid wyf yn credu ein bod ni'n sylweddoli hynny.
Felly, edrychaf ymlaen at foderneiddio gofal sylfaenol. Rwy'n llwyr gefnogi gweledigaeth y Llywodraeth a'r weledigaeth sydd wedi'i hamlinellu gan y Gweinidog heddiw. Gobeithio mai'r hyn a welwn ni yw gwireddu'r weledigaeth hon a meithrin hyder yn y cymunedau yr ydym ni'n ceisio'u gwasanaethu.