Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 7 Mai 2019.
A gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron? Mae'n hanfodol bod y newidiadau hyn yn cael eu gweld yn rhan o'r brif ffrwd o ddarparu ein gwasanaethau gofal iechyd, nid rhywbeth sy'n digwydd ar y cyrion yn unig.
Y llynedd, Llywydd, treuliais gryn amser yn edrych yn fanylach ar y darpariaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fy etholaeth i, ac ar rywfaint o'r arloesi mewn ardaloedd cyfagos fel Cwm Cynon. Gwnaethpwyd argraff arnaf gan lawer o'r gwaith a oedd yn digwydd, gwaith y mae'r Gweinidog ac eraill wedi manylu ar elfennau ohono. Ym Merthyr, roedd clystyrau meddygon teulu'n cyflogi swyddogion cymorth meddygon teulu, ac roedden nhw'n lleihau'r pwysau ar feddygfeydd a oedd yn aml yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion anfeddygol a oedd yn peri pryder i gleifion, ac felly'n rhyddhau amser meddygon teulu. A hefyd y gwaith o ddatblygu parthau cynllunio cymdogaethau yng Nghwm Rhymni uchaf. Yn sicr, clywais adborth calonogol iawn ynghylch gwaith y ward rithwir yn Aberdâr, lle maen nhw wrthi'n ddygn yn gwneud gwaith allgymorth i helpu cleifion mewn perygl. A chlywais ganmoliaeth fawr i'r timau nyrsio cymunedol yn Hirwaun.
Mae rhai o'r mentrau hyn yn bwysig iawn, gan eu bod yn lleihau'r pwysau ar feddygon teulu, fel y dywedais, ond hefyd, yr un mor bwysig, maen nhw'n gwella ansawdd y profiad gweithio i'r gweithlu ehangach. Roedd honno'n neges glir iawn gan y tîm nyrsio cymunedol yn Hirwaun, lle'r oedden nhw'n defnyddio technoleg i ddyrannu achosion ac yn gallu cynnwys egwyliau, amser hyfforddi a chyfarfodydd tîm fel eu bod, heb leihau eu llwyth gwaith, yn gallu rheoli eu hamser yn fwy effeithiol.
Felly, mae'r holl fentrau trawsnewid hyn, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn bwrw ymlaen â nhw, yn darparu gwell gofal i gleifion, ond maen nhw hefyd yn lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac yn gwella ansawdd profiad y claf ar yr un pryd. Ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Mae'n rhan o'r gwaith rheoli gweithlu effeithiol y mae ei angen arnom ni yn y dyfodol. Oherwydd rwy'n gwybod o'm gwaith yn fy etholaeth bod gallu defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau'n flaenoriaeth bwysig i lawer o gleifion. Ein tasg ni yw sicrhau eu bod yn cael y math priodol o gymorth cyn gynted ag y bo modd—y pwynt rwy'n credu yr oedd Dai Lloyd yn ei wneud—ac, wrth gwrs, mae bellach yn cael ei gydnabod yn gyffredinol nad y meddyg teulu yw hynny o reidrwydd; mae hefyd yn golygu, fel y gwnaethoch chi sôn, Gweinidog, y fferyllydd cymunedol. Mae'n golygu'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, y therapyddion galwedigaethol, y ffisiotherapyddion ac yn y blaen, yn ogystal â'r rheini sy'n cael presgripsiynau cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl llai dwys.
Eto hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hyn o drawsnewid, byddaf yn cofio'r gwersi y mae modd eu dysgu o gylchoedd blaenorol o ddiwygiadau yn y GIG yng Nghymru, ac wrth gymharu newidiadau megis rhaglen de Cymru, y wers sy'n amlwg i mi yw bod y newidiadau'n cymryd gormod o amser i'w gweithredu. Er enghraifft, rwyf ar hyn o bryd yn ymdrin ag enghraifft ynghylch gwasanaethau dementia mewn ysbytai yn ward 35 yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Er gwaethaf penderfyniadau a wnaethpwyd tua phum mlynedd yn ôl—ac rwy'n credu bod hynny'n golygu dau Weinidog iechyd yn ôl—nid yw'r ddarpariaeth amgen yn yr ardal ar gael eto. Felly, rwy'n dod yn gynyddol fwy anniddig â'r Bwrdd Iechyd ynghylch y gweddill sy'n dal i ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw.
O'm rhan i, rwy'n glir bod cefnu ar y gwasanaeth hwnnw sydd wedi ei leoli yn yr ysbyty yn welliant o ran y cymorth i'r cleifion hynny. Ond, yn wahanol i rai gwasanaethau eraill, wrth ymdrin â dementia, mae angen dewis arall yn yr ardal leol, nid yn unig ar gyfer cleifion, ond hefyd er budd gwŷr a gwragedd oedrannus a'r teulu ehangach, y mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gael eu hystyried wrth wneud y newid hwnnw. Ac, fel y gwnaethom ni ddysgu'r wythnos diwethaf, mewn gwasanaethau mamolaeth, gall fod gwrthwynebiad proffesiynol i gynlluniau a gymeradwywyd, ac o ganlyniad, gohiriwyd y newidiadau a oedd â'r bwriad o ddarparu gwelliannau yr oedd eu dirfawr angen mewn gofal.
Felly, teimlaf yn gryf mai un wers y gallai'r rhaglen drawsnewid ei dysgu'n fuan yw mabwysiadu newidiadau hanfodol yn gyflymach. Yn fyr, mae angen gweddnewid er mwyn llwyddo, mae angen i ddewisiadau eraill fod ar gael wrth i'r newidiadau ddigwydd, ac mae angen i'r newid hwnnw ddigwydd yn gyflymach.