7. Anerchiad gan y Llywydd i nodi ugain mlynedd ers datganoli

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 7 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:18, 7 Mai 2019

A gaf i ddechrau’n ffurfiol yr eitem yma heno drwy groesawu pawb i’r Senedd heno? Mae’n bleser cael cwmni pawb yma yn yr oriel gyhoeddus ac yn ymuno â ni hefyd yn yr adeilad ar gyfer wythnos mor nodedig yn ein Senedd genedlaethol ni wrth inni ddathlu ein penblwydd yn 20 oed.

Mi oedd nifer ohonon ni yno ar y cychwyn, ym mis Mai 1999, mewn Siambr arall, mewn canrif arall, a chyffro, nerfusrwydd a chyfrifoldeb yn ein nodweddu ni oll ar y dydd cyntaf hwnnw yn ethol ein Llywydd cyntaf a'n Prif Ysgrifennydd cyntaf. Teg yw dweud bod y cyfnod ers ethol yr Aelodau cyntaf hynny ym 1999 wedi cynnig ei siâr o heriau i Senedd ifanc fel hon. Yn wir, dechrau o brin ddim oedden ni bryd hynny.

Ond gyda’r newydd-deb hynny daeth y cyfle hefyd i dorri ein cwys ein hunain. O’r cychwyn, Senedd gwbl ddwyieithog oedd hon, a Senedd gynhwysol, gyda chydraddoldeb yn ein nodweddu o’r cychwyn cyntaf. Menywod oedd 24 o'r 60 Aelod a etholwyd i'r Cynulliad cyntaf hwnnw. Dros nos, cyflwynwyd 24 o fenywod i wleidyddiaeth gynrychioladol Cymru, gan gofio taw dim ond saith Aelod Seneddol benywaidd o Gymru a etholwyd i San Steffan yn yr 80 mlynedd cyn hynny. Erbyn hyn, mae 62 o fenywod wedi eu hethol yn Aelodau Cynulliad ac 80 o ddynion: 142 ohonom, yn greaduriaid prin, yn Aelodau Cynulliad, heddiw a ddoe.

Pinacl ein cyrhaeddiad, wrth gwrs, o gydraddoldeb oedd 2003, pan etholwyd 30 menyw a 30 dyn yn Aelodau Cynulliad a'n gwneud y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd rhywedd. Ac o fy nghwmpas i heddiw, mae 47 y cant o’n Haelodau Cynulliad ni'n fenywod—y gyfran uchaf drwy holl Senedd-dai gwledydd Prydain o hyd. Ac mae'n cyflawniad o ran cynhwysedd a chydraddoldeb yn ymestyn y tu hwnt i gynrychiolaeth etholedig. Mae’r Cynulliad yma ymysg y pum cyflogwr gorau drwy Brydain gyfan o ran staff LGBT am y bumed flwyddyn yn olynol, ac wedi ennill gwobr aur am ein cynllun amrywiaeth a chynhwysedd ymysg ein gweithlu.

Mi oedd 2006 yn flwyddyn nodedig ar ein taith, blwyddyn a welodd agoriad swyddogol adeilad godidog Richard Rogers, y Senedd yma, a phan basiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a roddodd yr hawl i Aelodau’r Cynulliad lunio deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf drwy gyfundrefn yr annwyl LCO.

Mae taith ddeddfwriaethol boenus, lafurus yr LCO cig coch—y red meat LCO—wedi ei saernïo ar fy nghof i am byth. Ac mae Ann Jones yn dal o'r farn taw ei chosb fwyaf llym erioed gan Chwip Llafur oedd ei gosod ar bwyllgor yr LCO cig coch. [Chwerthin.] Ond fe'n rhyddhawyd o gyfundrefn orthrymus yr LCO gan bobl Cymru yn refferendwm 2011, pan bleidleisiodd 63.5 y cant o blaid pwerau deddfu llawn—carreg filltir hanesyddol a oedd yn cynrychioli creu Senedd go iawn i Gymru. Ychwanegwyd at ein pwerau fis Ebrill, gyda Chymru’n gyfrifol, am y tro cyntaf yn yr oes fodern, am godi cyfran o’r arian mae’r Llywodraeth yn ei wario ar ffurf grymoedd trethiant.

Darn wrth ddarn, mae’r gwaith o adeiladu Senedd, o adeiladu cenedl, wedi mynd rhagddo, ac erbyn heddiw, rydym yn sefyll ar seiliau cadarn penseiri cynnar datganoli. Ond mae cymaint eto i'w wneud, ac mae un ffaith sy'n ddigyfnewid, er cymaint y newid yn ein cyfrifoldebau. Ar y diwrnod cyntaf un, mi oedden ni'n 60 Aelod Cynulliad, a heddiw, 7,301 o ddiwrnodau yn ddiweddarach, rydyn ni'n dal ond yn 60 Aelod.

Os ydym am wireddu unrhyw uchelgais i gynyddu pwerau’r Senedd hon, neu i chwistrellu mwy o greadigrwydd a gwreiddioldeb mewn at ddefnydd o’r pwerau sydd eisoes gennym, mae angen cynyddu ein capasiti. Does dim mwy o oriau yn y dydd, does dim posib bod mewn dau le, neu mewn dau bwyllgor, ar yr un pryd, ac felly, i gynrychioli pobl Cymru ar ein gorau, yna mae bellach yn anorfod bod angen mwy o Aelodau.

Nid gwleidyddion yn pleidleisio am fwy o wleidyddion yw hyn, ond cydnabyddiaeth bod pobl Cymru angen cynrychiolaeth deg a chymesur yn eu Senedd genedlaethol. Ac mae dyletswydd arnom ni, fel gwleidyddion y genhedlaeth yma, i beidio â chyfyngu ar allu a dyheadau gwleidyddion y dyfodol i gyflawni ar ran Cymru.

Oes, felly, mae llawer i’w wneud, ond mae digonedd i’w ddathlu hefyd. Eisoes yn y pumed Cynulliad rydym wedi torri tir newydd drwy ethol Senedd Ieuenctid gyntaf erioed Cymru. Roedd eistedd yn yr union fan yma, yn y sedd yma, a chadeirio Cyfarfod Llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, ym mhresenoldeb rhai o bobl ifanc dewraf, mwyaf angerddol a mwyaf huawdl ein cenedl yn brofiad fydd yn aros gyda fi am byth. Dyma dyst i’r ffaith bod gan bobl ifanc ddiddordeb yn ein democratiaeth a'u bod yn haeddu llais yn y drafodaeth fydd yn llunio eu dyfodol nhw gymaint ag unrhyw un.

Ac wrth inni ddathlu ein hugeinfed flwyddyn, edrych i'r dyfodol sydd fwyaf pwysig, a dyna pam y byddwn yn cynnull Cynulliad y Bobl, Citizen's Assembly, yr haf yma. Mi fyddwn yn rhoi'r cyfle a'r hawl i gynrychiolaeth o bobl Cymru gyflwyno eu dyheadau am yr 20 mlynedd nesaf yng Nghymru—ffynhonnell syniadau gwreiddiol i siapio ein gwaith a'n blaenoriaethau i'r dyfodol.

Ac yna, ym mis Medi, mi fyddwn yn cynnal ein gŵyl ddemocratiaeth gyntaf erioed—gŵyl a fydd yn wledd o drafod materion o bwys i bobl Cymru, o chwaraeon i dechnoleg, i’r celfyddydau, gyda’r bwriad o ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r Senedd yn y Bae. Ond er bod ein Senedd yn ein prifddinas, mae'n Senedd yn perthyn ac yn cynrychioli pob cymuned yng Nghymru. Dros yr 20 mlynedd, mae'n pwyllgorau wedi mynd i bob cwr o Gymru, a Senedd@ wedi bod yn fenter deithiol o'n gwaith. Ond y fenter fwyaf un fyddai cynnal Cyfarfodydd Llawn o'r Senedd yn y gogledd, y gorllewin neu yn y Cymoedd—carafán o Gynulliad yn ymestyn allan yn ein cyfanrwydd i gymunedau Cymru, nid newid aelwyd bob yn eilddydd, ond bob yn eilflwydd, o bosib.