– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 7 Mai 2019.
Galwaf yn awr ar y Llywydd i annerch y Cynulliad.
Rwy'n credu y dechreuaf i heno drwy ofyn i bob Aelod ymatal rhag codi llaw ar bobl yn yr oriel gyhoeddus. [Chwerthin.] Hefin David, daliais chi wrthi. [Chwerthin.]
A gaf i ddechrau’n ffurfiol yr eitem yma heno drwy groesawu pawb i’r Senedd heno? Mae’n bleser cael cwmni pawb yma yn yr oriel gyhoeddus ac yn ymuno â ni hefyd yn yr adeilad ar gyfer wythnos mor nodedig yn ein Senedd genedlaethol ni wrth inni ddathlu ein penblwydd yn 20 oed.
Mi oedd nifer ohonon ni yno ar y cychwyn, ym mis Mai 1999, mewn Siambr arall, mewn canrif arall, a chyffro, nerfusrwydd a chyfrifoldeb yn ein nodweddu ni oll ar y dydd cyntaf hwnnw yn ethol ein Llywydd cyntaf a'n Prif Ysgrifennydd cyntaf. Teg yw dweud bod y cyfnod ers ethol yr Aelodau cyntaf hynny ym 1999 wedi cynnig ei siâr o heriau i Senedd ifanc fel hon. Yn wir, dechrau o brin ddim oedden ni bryd hynny.
Ond gyda’r newydd-deb hynny daeth y cyfle hefyd i dorri ein cwys ein hunain. O’r cychwyn, Senedd gwbl ddwyieithog oedd hon, a Senedd gynhwysol, gyda chydraddoldeb yn ein nodweddu o’r cychwyn cyntaf. Menywod oedd 24 o'r 60 Aelod a etholwyd i'r Cynulliad cyntaf hwnnw. Dros nos, cyflwynwyd 24 o fenywod i wleidyddiaeth gynrychioladol Cymru, gan gofio taw dim ond saith Aelod Seneddol benywaidd o Gymru a etholwyd i San Steffan yn yr 80 mlynedd cyn hynny. Erbyn hyn, mae 62 o fenywod wedi eu hethol yn Aelodau Cynulliad ac 80 o ddynion: 142 ohonom, yn greaduriaid prin, yn Aelodau Cynulliad, heddiw a ddoe.
Pinacl ein cyrhaeddiad, wrth gwrs, o gydraddoldeb oedd 2003, pan etholwyd 30 menyw a 30 dyn yn Aelodau Cynulliad a'n gwneud y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd rhywedd. Ac o fy nghwmpas i heddiw, mae 47 y cant o’n Haelodau Cynulliad ni'n fenywod—y gyfran uchaf drwy holl Senedd-dai gwledydd Prydain o hyd. Ac mae'n cyflawniad o ran cynhwysedd a chydraddoldeb yn ymestyn y tu hwnt i gynrychiolaeth etholedig. Mae’r Cynulliad yma ymysg y pum cyflogwr gorau drwy Brydain gyfan o ran staff LGBT am y bumed flwyddyn yn olynol, ac wedi ennill gwobr aur am ein cynllun amrywiaeth a chynhwysedd ymysg ein gweithlu.
Mi oedd 2006 yn flwyddyn nodedig ar ein taith, blwyddyn a welodd agoriad swyddogol adeilad godidog Richard Rogers, y Senedd yma, a phan basiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a roddodd yr hawl i Aelodau’r Cynulliad lunio deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf drwy gyfundrefn yr annwyl LCO.
Mae taith ddeddfwriaethol boenus, lafurus yr LCO cig coch—y red meat LCO—wedi ei saernïo ar fy nghof i am byth. Ac mae Ann Jones yn dal o'r farn taw ei chosb fwyaf llym erioed gan Chwip Llafur oedd ei gosod ar bwyllgor yr LCO cig coch. [Chwerthin.] Ond fe'n rhyddhawyd o gyfundrefn orthrymus yr LCO gan bobl Cymru yn refferendwm 2011, pan bleidleisiodd 63.5 y cant o blaid pwerau deddfu llawn—carreg filltir hanesyddol a oedd yn cynrychioli creu Senedd go iawn i Gymru. Ychwanegwyd at ein pwerau fis Ebrill, gyda Chymru’n gyfrifol, am y tro cyntaf yn yr oes fodern, am godi cyfran o’r arian mae’r Llywodraeth yn ei wario ar ffurf grymoedd trethiant.
Darn wrth ddarn, mae’r gwaith o adeiladu Senedd, o adeiladu cenedl, wedi mynd rhagddo, ac erbyn heddiw, rydym yn sefyll ar seiliau cadarn penseiri cynnar datganoli. Ond mae cymaint eto i'w wneud, ac mae un ffaith sy'n ddigyfnewid, er cymaint y newid yn ein cyfrifoldebau. Ar y diwrnod cyntaf un, mi oedden ni'n 60 Aelod Cynulliad, a heddiw, 7,301 o ddiwrnodau yn ddiweddarach, rydyn ni'n dal ond yn 60 Aelod.
Os ydym am wireddu unrhyw uchelgais i gynyddu pwerau’r Senedd hon, neu i chwistrellu mwy o greadigrwydd a gwreiddioldeb mewn at ddefnydd o’r pwerau sydd eisoes gennym, mae angen cynyddu ein capasiti. Does dim mwy o oriau yn y dydd, does dim posib bod mewn dau le, neu mewn dau bwyllgor, ar yr un pryd, ac felly, i gynrychioli pobl Cymru ar ein gorau, yna mae bellach yn anorfod bod angen mwy o Aelodau.
Nid gwleidyddion yn pleidleisio am fwy o wleidyddion yw hyn, ond cydnabyddiaeth bod pobl Cymru angen cynrychiolaeth deg a chymesur yn eu Senedd genedlaethol. Ac mae dyletswydd arnom ni, fel gwleidyddion y genhedlaeth yma, i beidio â chyfyngu ar allu a dyheadau gwleidyddion y dyfodol i gyflawni ar ran Cymru.
Oes, felly, mae llawer i’w wneud, ond mae digonedd i’w ddathlu hefyd. Eisoes yn y pumed Cynulliad rydym wedi torri tir newydd drwy ethol Senedd Ieuenctid gyntaf erioed Cymru. Roedd eistedd yn yr union fan yma, yn y sedd yma, a chadeirio Cyfarfod Llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, ym mhresenoldeb rhai o bobl ifanc dewraf, mwyaf angerddol a mwyaf huawdl ein cenedl yn brofiad fydd yn aros gyda fi am byth. Dyma dyst i’r ffaith bod gan bobl ifanc ddiddordeb yn ein democratiaeth a'u bod yn haeddu llais yn y drafodaeth fydd yn llunio eu dyfodol nhw gymaint ag unrhyw un.
Ac wrth inni ddathlu ein hugeinfed flwyddyn, edrych i'r dyfodol sydd fwyaf pwysig, a dyna pam y byddwn yn cynnull Cynulliad y Bobl, Citizen's Assembly, yr haf yma. Mi fyddwn yn rhoi'r cyfle a'r hawl i gynrychiolaeth o bobl Cymru gyflwyno eu dyheadau am yr 20 mlynedd nesaf yng Nghymru—ffynhonnell syniadau gwreiddiol i siapio ein gwaith a'n blaenoriaethau i'r dyfodol.
Ac yna, ym mis Medi, mi fyddwn yn cynnal ein gŵyl ddemocratiaeth gyntaf erioed—gŵyl a fydd yn wledd o drafod materion o bwys i bobl Cymru, o chwaraeon i dechnoleg, i’r celfyddydau, gyda’r bwriad o ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r Senedd yn y Bae. Ond er bod ein Senedd yn ein prifddinas, mae'n Senedd yn perthyn ac yn cynrychioli pob cymuned yng Nghymru. Dros yr 20 mlynedd, mae'n pwyllgorau wedi mynd i bob cwr o Gymru, a Senedd@ wedi bod yn fenter deithiol o'n gwaith. Ond y fenter fwyaf un fyddai cynnal Cyfarfodydd Llawn o'r Senedd yn y gogledd, y gorllewin neu yn y Cymoedd—carafán o Gynulliad yn ymestyn allan yn ein cyfanrwydd i gymunedau Cymru, nid newid aelwyd bob yn eilddydd, ond bob yn eilflwydd, o bosib.
Er bod hon yn wythnos o ddathlu, gadewch inni hefyd oedi, fel y gwnaethom ni yn gynharach y prynhawn yma, i gofio am ein cyd-Aelodau nad ydyn nhw gyda ni bellach: Val Feld, Brynle Williams, Phil Williams, Peter Law, a'n cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan. Roedd eu colli yn golled enfawr i'w teuluoedd, i'w cydweithwyr ac i'r wlad hon. Ac, wrth gwrs, ein colledion diweddaraf, Carl Sargeant a Steffan Lewis—dau aelod o'r Cynulliad a oedd wedi ymrwymo i'w pleidiau a'u hetholwyr ac a oedd yn meddu ar ddiffuantrwydd a barodd iddyn nhw ymdrin yn angerddol â materion a oedd yn agos at eu calonnau. Pwy all anghofio rhai o gyfraniadau dewr ac ingol Steffan yn y Siambr hon, pan ddywedodd wrthym ni:
Mae bywyd yn rhy fyr o lawer i beidio â dweud yr hyn yr ydych chi'n ei gredu a chredu'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud ynghyd â geiriau Jack Sargeant, mab Carl, sydd wedi olynu ei dad yn y Siambr hon gyda'r fath urddas, y dylai ei gri am wleidyddiaeth fwy caredig fod yn ganllaw i ni i gyd? Dau o'n lleisiau ieuangaf erioed, gyda'r doethaf o eiriau.
Ychydig dros deugain mlynedd sydd wedi mynd heibio ers i'r syniad o Gynulliad Cenedlaethol gael ei wrthod yn llwyr gan etholwyr Cymru. Mewn cyferbyniad llwyr, erbyn 1999, roedd y penseiri cynnydd yr ydym ni i gyd yn ddyledus iddyn nhw wedi ennill calonnau a meddyliau, ac wedi gosod cerrig sylfaen cyntaf y Gymru newydd. Rydym ni, Aelodau Cynulliad etholedig a staff, wedi goruchwylio adeiladu ein democratiaeth newydd dros yr 20 mlynedd diwethaf, a seneddwyr ifanc heddiw ac eraill fydd yma i barhau â'n gwaith. Nid ydyn nhw erioed wedi byw mewn Cymru heb ei Senedd ei hun. Iddyn nhw, bydd datganoli un diwrnod yn atgof pell sy'n perthyn i gyfnod cyn i lywodraethu ein materion ein hunain ddod yn gyflwr naturiol i'n cenedl, yn union fel y mae i bob cenedl.
Fe orffennaf i drwy ddwyn y bore hwnnw i gof unwaith eto, y bore da hwnnw, y bore da iawn hwnnw yng Nghymru. Wel, nid yw hi hyd yn oed yn amser cinio eto, ac mae gan y diwrnod llawer mwy ar ein cyfer. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]
Diolch yn fawr i chi. Dwi'n galw nawr ar y Prif Weinidog.
Diolch, Llywydd. Mae’n fraint, wrth gwrs, cael cyfle heddiw i gofnodi 20 mlynedd ers dechrau’r Cynulliad hwn. Heddiw, rydym ni yn dathlu cymaint sydd wedi ei gyflawni, ac ar yr un pryd yn cydnabod pa mor fawr yw’r her sydd o’n blaenau. Efallai, yn fwy nag erioed, rydym ni’n ymwybodol pa mor werthfawr yw’r adnoddau sy gyda ni yma yng Nghymru, a pha mor fawr yw’r cyfrifoldeb arnom ni i warchod a gwella Cymru i’r cenedlaethau i ddod.
Llywydd, rwyf wedi bod yn ceisio, wrth baratoi rhywbeth i'w ddweud heddiw, dwyn i gof 1999, ac wrth imi edrych o gwmpas yr oriel, mae'n ymddangos yn dasg anos fyth i geisio cofio'r pethau a oedd yn bwysig inni bryd hynny. Ac ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, mae hyn, yn anochel, yn ennyd i fyfyrio ar ein hanes cyffredin. Yr hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud yw, drwy fyfyrio ar faterion o safbwynt 1999, ceisio nodi rhai o'r pethau hynny y credaf y byddem ni wedi cael ein siomi ar yr ochr orau ynddyn nhw pe baem ni'n gwybod bryd hynny beth a oedd yn mynd i ddigwydd dros yr 20 mlynedd hynny. Ond byddaf yn meddwl hefyd am y pethau hynny y byddem ni wedi bod yn siomedig yn eu cylch dros yr 20 mlynedd diwethaf ac, yn olaf, yn edrych ymlaen at rai heriau newydd, ac yn arbennig heriau y credaf na fyddem ni efallai wedi rhagweld 20 mlynedd yn ôl y byddai'n rhaid inni eu hwynebu yn y Gymru gyfoes. A, Llywydd, gan fod rhai ohonom ni 20 mlynedd yn hŷn hefyd, rwy'n mynd i gynnig pum myfyrdod ym mhob un o'r tri chategori hynny, yn bennaf oherwydd y byddan nhw'n fy helpu i'w cofio nhw, ond yn rhannol oherwydd fy mod i'n gobeithio y bydd hi'n haws dilyn rhywfaint o hyn hefyd.
Rwyf am ddechrau os caf i, gydag un arsylwad personol yn unig. Cyrhaeddais yma yn y Cynulliad Cenedlaethol cyn i flwyddyn gyntaf datganoli ddod i ben, ac mae'n hawdd anghofio pa mor sigledig yn wir oedd y cychwyn hwnnw—canlyniad agos y refferendwm ac ethol yn 1999 gweinyddiaeth leiafrifol ansicr. Erbyn i mi gyrraedd yma, roedd tri o'r pedwar arweinydd plaid a oedd wedi dechrau yn y flwyddyn gyntaf honno o ddatganoli eisoes wedi eu disodli. Roedd un wedi ei drechu ar lawr y Cynulliad, roedd un wedi ei ddisodli gan gyd-Aelodau ac roedd un yn ymddangos gerbron llys y Goron Kingston—[chwerthin.]—mewn achos yn cynnwys, fel y cofiaf, pizza ac, yn ôl y sôn, eisiau treulio mwy o amser gyda theuluoedd pobl eraill na'i deulu ei hun.
Llywydd, rwy'n credu ei bod yn rhyfedd pa mor aml, mewn gwirionedd, y mae pizza wedi chwarae rhan yn hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn fuan, bydd myfyriwr doethuriaeth o ddifrif yn ceisio cyfweld ag Aelodau yma i drafod arwyddocâd pepperoni yn hanes datganoli. Ond byddant yn gwneud hynny oherwydd, yn y cyfnod cynharaf oll hwnnw, fy atgof i o ddod yma yng ngwanwyn y flwyddyn 2000, oedd bod llwyddiant y sefydliad yn bell o fod yn sicr, a'i fod yn ymddangos bod y lle yn y fantol. Mae popeth rwy'n ei ddweud am yr 20 mlynedd a ddilynodd wedi'i seilio ar fy marn i fod y ffaith bod y sefydliad hwn yn rhan o ddarlun gwleidyddol Cymru a gymerir yn ganiataol erbyn hyn, yn gyflawniad ynddo'i hun, ac ni fyddai neb, 20 mlynedd yn ôl, wedi teimlo mor hyderus am hyn.
Felly, hoffwn i ddechrau gyda phum pwynt rwy'n credu y byddai'r rhai hynny a fu'n gysylltiedig yn y dyddiau cynnar hynny—. Pe byddech wedi dweud wrthyn nhw bryd hynny y byddai hyn yn digwydd dros 20 mlynedd, bydden nhw wedi meddwl bod yr holl bethau hyn yn syndod dymunol. Rwy'n credu, pe byddech chi wedi dweud wrth bobl 20 mlynedd yn ôl, y byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr adeg hon yn ein hanes ni, yn Senedd a chanddo bwerau deddfu llawn, fod y pwerau deddfu hynny wedi'u cymeradwyo mewn ail refferendwm a bod y refferendwm hwnnw wedi'i ennill yn gwbl bendant, byddai'r bobl hynny a oedd yn enwog am dreulio'u hamser yn dadlau'r Gorchymyn Tatws o'r Aifft llai, rwy'n credu, wedi eu synnu'n fawr iawn o gael gwybod am ystod a dyfnder y cyfrifoldebau a oedd wedi'u huno yn yr 20 mlynedd hynny o ran y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Rwy'n credu, yn ôl ym 1999, y byddai pobl wedi synnu pe byddent wedi dysgu y byddai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, o fewn dau ddegawd, yn arfer cyfrifoldebau cyllidol cwbl newydd, nid am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd, ond, fel y gwyddom ni, am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd yma yng Nghymru, fod y tâl 'Senedd arian poced' hwnnw a fyddai'n cael ei godi ar y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y degawd cyntaf—ein bod yn gorff y rhoddwyd arian iddo gan rywun arall i'w wario ond heb unrhyw gyfrifoldeb dros godi'r arian hwnnw—o fewn 20 mlynedd, y byddai hynny wedi dod i ben a bod y £5 biliwn o drethiant a godir yma yng Nghymru yn cael ei godi oherwydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud bob blwyddyn yma ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Rwy'n sicr yn credu, yn fy nhrydydd pwynt, pe byddech wedi dweud wrth bobl ym 1999 y byddai lefelau anweithgarwch economaidd yng Nghymru o fewn 20 mlynedd yn is na gweddill y Deyrnas Unedig, y byddai pobl yn ei chael yn anodd iawn credu hynny. Oherwydd roedd 1999 yn cyd-daro â'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd yma yng Nghymru, ac roedd y bwlch rhwng anweithgarwch economaidd yma a gweddill y Deyrnas Unedig ar ei fwyaf. Rwy'n credu pe byddai pobl wedi meddwl, mewn 20 mlynedd, yn fwy na dileu'r bwlch hwnnw, y byddai hyd yn oed wedi troi'n sefyllfa lle'r oeddem i fod yn well na gweddill y Deyrnas Unedig, y byddai pobl wedi cael eu synnu'n fawr iawn ar yr ochr orau.
Ac rwy'n credu, yn fy mhedwerydd pwynt, pe byddech wedi disgrifio'r newidiadau diwylliannol sylweddol a oedd wedi digwydd mewn dau ddegawd, y byddai wedi bod yn anodd argyhoeddi pobl ym 1999 y gallai'r holl bethau hyn fod wedi digwydd hefyd. Pe byddech wedi dweud wrth bobl bryd hynny y byddai ysmygu wedi diflannu o fannau cyhoeddus caeedig ym mhob man yng Nghymru—oherwydd, ym 1999 roedd pobl yn ysmygu ym mhob man. Roedden nhw'n ysmygu mewn ystafelloedd caeedig. Roedden nhw hyd yn oed yn ysmygu mewn bwytai. Roedden nhw'n ysmygu lle'r oedd plant yn bresennol. A heddiw, pe byddech yn gweld hynny'n digwydd yma yng Nghymru byddai'n frawychus, dim ond 20 mlynedd yn ddiweddarach.
Pe byddech wedi dweud y byddai gan Gymru y gyfradd ailgylchu orau ond dau ledled y byd i gyd, a hynny o fewn 20 mlynedd, pe byddem wedi dweud y byddem wedi newid y gyfraith yn sylfaenol mewn cysylltiad â rhoi organau i fod â'r cyfraddau rhoi organau gorau yn y Deyrnas Unedig, pe byddech wedi dweud wrth bobl y byddem wedi pasio'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'n bod wedi ymrwymo i 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn oes llawer o bobl yn y Siambr hon, nid wyf i'n credu y byddai'r rhai oedd yma ym 1999, o glywed y gellid gwneud yr holl bethau hynny, a hynny o fewn 20 mlynedd, nid wyf i'n credu y bydden nhw wedi cwyno am ddiffyg uchelgais yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, o ran y pethau a fyddai, yn fy marn i, wedi bod yn destun syndod i bobl bryd hynny, pe byddech wedi dweud wrth bobl y byddai datganoli, o fewn 20 mlynedd, wedi datblygu i'r fath raddau fel bod gennym bortffolio Cabinet sy'n ymroddedig i gysylltiadau rhyngwladol yn rhan o Lywodraeth Cymru, rwy'n credu y byddai hynny wedi bod yn rhywbeth anodd iawn i bobl yn ôl ar ddechrau'r datganoli fod wedi ei ddychmygu. Am yr holl resymau hynny, rwy'n credu bod cymaint o bethau yn yr 20 mlynedd diwethaf i ymfalchïo ynddyn nhw a'r hyn sydd wedi'i gyflawni yma ar draws y Cynulliad Cenedlaethol.
Ond yn ogystal â phethau sy'n destun syndod dymunol, yn fy marn i, o'r safbwynt hwnnw ym 1999, bu rhai siomedigaethau a rhai ergydion hefyd. Rwy'n credu y byddem wedi ein siomi, Llywydd, fel y gwnaethoch chithau ddweud yn eich cyfraniad chi, bron 20 mlynedd ar ôl Comisiwn Richard—Comisiwn Richard a ddywedodd wrthym yn y tymor Cynulliad cyntaf hwnnw fod angen 80 o Aelodau ar y Cynulliad i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd ganddo—rwy'n credu y byddai pobl wedi eu siomi i feddwl, ymhen 20 mlynedd, mai dim ond 60 o Aelodau sydd yma o hyd, sy'n ymdrin erbyn hyn â lefel wahanol iawn o gyfrifoldeb i Gynulliad Cenedlaethol 1999. Rwy'n credu, Llywydd, ac efallai mai dim ond fy marn i yw hyn, y byddem wedi ein siomi ym 1999 o weld pa mor bell yr ydym wedi gwyro oddi wrth yr addewidion cynharach hynny y byddai datganoli yn ffordd newydd o gyflawni gwleidyddiaeth yma yng Nghymru, bod llai o bwys i rwystrau a ffiniau traddodiadol ac y byddai'n haws gweithio ar draws y rhaniadau hynny. Llywydd, mae'n ymddangos i mi ein bod ni wedi symud cryn bellter o'r ddelfryd honno dros yr 20 mlynedd hyn.
Yn wir, rwy'n credu ei bod yn anodd dychmygu hynt Mesur iechyd meddwl y trydydd Cynulliad yn cael ei efelychu'n hawdd heddiw. Mesur iechyd meddwl a basiwyd gyda Gweinidog Iechyd Llafur mewn Llywodraeth glymblaid â Phlaid Cymru, yn gweithio gyda Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd o'r Ceidwadwyr i gyflwyno gwasanaeth iechyd meddwl gofal sylfaenol newydd sbon, i roi hawliau newydd i gleifion mewn ysbytai meddwl, cymryd cam cynnar o ran cyd-lunio cynlluniau gofal a thriniaeth, a gwneud hynny mewn ffordd a oedd wedi'i gwreiddio mewn consensws cryf o ran ei ddiben ar draws Siambr y Cynulliad. Nawr, mae gwleidyddiaeth y tu allan i'r Siambr hon wedi mynd yn fwy rhwygol ac ymosodol, ac efallai na fydd yn peri syndod mawr fod hynny wedi effeithio ar y lle hwn, ond nid hwn yw'r uchelgais y sylfaenwyd y sefydliad hwn arno. Rwy'n credu y byddem wedi ein siomi, ym 1999, o fod wedi edrych ymlaen at y ffordd y mae rhai o'r gobeithion cynnar hynny wedi fferru, ac rwy'n credu y byddem yn iawn i gael ein siomi hefyd.
Mae fy nhrydydd pwynt, Llywydd, yn un y gwnaethoch chithau ymdrin ag ef yn dda iawn yn eich cyfraniad chi, oherwydd yn ôl ar y bore balch, os nad cwbl hyderus hwnnw, ym 1999, fe wnaethom ni danbrisio, rwy'n credu, yr heriau a ddaw o fod yn sefydliad mor newydd, lle mae popeth yn digwydd inni am y tro cyntaf, lle'r ydym bob amser yn creu ein hanes ein hunain. Mae gobaith enfawr wrth drosglwyddo rheolaeth i bobl dros eu tynged eu hunain, ond mae'r broses honno'n arwain yn anochel at frifo hefyd.
Rydym wedi cael ein hatgoffa, fel y gwnaethoch chi ddweud, Llywydd, dro ar ôl tro am hynny y tymor hwn. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd dwy flynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth y Prif Weinidog a fu'n tywys y Cynulliad Cenedlaethol drwy'r rhan fwyaf o'r degawd cyntaf hwnnw o ddatganoli. Nid oes llawer mwy na blwyddyn ers marwolaeth ein cyd-Aelod, Carl Sargeant, ac mae'n llai na blwyddyn ers marwolaeth Steffan Lewis, un o obeithion disgleiriaf y pumed Cynulliad hwn. Mae yna dristwch a galar yn ein hanes byr ni. Ac, er fy mod i'n siŵr bod hynny'n rhan o'r ffordd y mae unrhyw sefydliad yn aeddfedu, nid wyf i'n siŵr ein bod ni wedi disgwyl hynny mor sydyn ar ddechrau'r daith ddatganoli.
Llywydd, yn fy mhedwerydd maes siomedigaeth, yn ddigon sicr, nid oeddem wedi disgwyl ym 1999 y byddai ein hanes ariannol yn gymaint o gêm ddwy ran. Yn ystod y tymor Cynulliad cyntaf, cynyddodd cyllideb Llywodraeth Cymru 10 y cant mewn termau arian parod ym mhob un flwyddyn—pob un flwyddyn, 10 y cant yn fwy i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nag a gawsom yn y flwyddyn flaenorol. Yn ystod yr ail dymor Cynulliad, tyfodd ein cyllidebau 5 y cant bob blwyddyn mewn termau arian parod. Hyd yn oed yn ystod y trydydd tymor Cynulliad, tyfodd ein cyllidebau mewn termau real dros y tymor cyfan hwnnw.
Nawr, ers hynny, bu tywyllu dramatig i'r sefyllfa ariannol. Ni wnes i gyfarfod â neb yn y dyddiau cynharaf hynny a oedd ag unrhyw syniad y byddem ni, erbyn diwedd ein hail ddegawd, wedi bod trwy'r cyfnod hiraf a gwaethaf o gyfyngu ar wariant cyhoeddus nid ers 20 mlynedd, ond ers 200 mlynedd. Ac, fel y dywedwyd yn gynharach yn nhrafodion y prynhawn yma, yn ystod degawd cyntaf datganoli, gostyngodd tlodi plant yng Nghymru yn gyson—nid yn ddigon cyflym, nid yn ddigon pell i lawer ohonom, ond gostyngodd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn, bydd 50,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru nag yn 2010. Rwy'n credu ei bod yn anodd dod o hyd i wrthgyferbyniad cryfach rhwng degawd cyntaf ac ail ddegawd y tymor Cynulliad hwn.
Ym 1999, Llywydd, nid wyf i'n credu ein bod wedi clywed y term 'banc bwyd'. Byddem yn sicr wedi dychryn o weld pobl yn cardota ar ein strydoedd am fwyd, neu ddigartrefedd ar y stryd ar gynnydd mor sydyn. Ni allem fod wedi rhagweld yr effaith y byddai degawd o gyni wedi'i chael ar wead ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas, ond rwy'n credu y byddem wedi synnu o feddwl y byddai'n rhaid inni wynebu'r peth cyn ein hugeinfed pen-blwydd.
Yn olaf, Llywydd, mae'n syndod llwyr i'r rhai hynny ohonom a ymgyrchodd dros ddatganoli yn y blynyddoedd hir hynny ar ôl 1979 ein bod wedi symud mewn dau ddegawd o sefyllfa lle'r oedd 'llais cryfach yn Ewrop' yn slogan a oedd yn uno'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i sefyllfa lle mae Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu pe byddech wedi dweud hynny wrth rywun ym 1999, y bydden nhw wedi credu y byddai hynny'n annhebygol iawn o fod yn wir.
Felly, Llywydd, hoffwn i orffen drwy edrych i'r dyfodol a meddwl am y mathau o heriau yr ydym yn dal i'w hwynebu ac y byddwn yn eu hwynebu dros yr 20 mlynedd nesaf, rhai, rwy'n credu, na allem ni erioed fod wedi'u rhagweld ar y dechrau. Rwy'n gobeithio, dros yr 20 mlynedd nesaf, y byddwn wedi gwneud mwy i gyflwyno'r math o wleidyddiaeth garedicach y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich rhagymadrodd; y byddwn wedi derbyn yr her i ddangos yn y Cynulliad hwn ei bod yn bosibl o hyd i drin ein gilydd â pharch wrth barhau i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau gwirioneddol sydd rhyngom—y gwahaniaethau cywir a phriodol sydd rhyngom mewn unrhyw ddemocratiaeth—o ran ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru.
Rwy'n gobeithio, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, y gallwn ddweud y bydd gwleidyddiaeth flaengar wedi'i chynnal yma yng Nghymru, ei bod yn dal i fod yn fan lle caiff atebion eu saernïo ar y cyd i fod yn broblemau cyfunol, a lle caiff systemau eu newid i gyrraedd bywydau'r rhai hynny â'r lleiaf, nid dim ond y rhai sydd â'r mwyaf, a'n bod yn gallu dangos, fel yr ydym ni'n ei wneud yn y tymor Cynulliad hwn, nad yw'r duedd gynyddol honno yng ngwleidyddiaeth Cymru yn dod i ben o bell ffordd.
Fis diwethaf, diddymwyd y drefn o garcharu pobl am beidio â thalu'r dreth gyngor. Y mis hwn, rydym wedi cyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad o gosbi plant yn rhesymol yn ei ystyriaeth Cyfnod 1. Fis nesaf, byddwn yn cyflwyno Bil i ymestyn yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a sicrhau bod y broses ddemocrataidd ar gael yn fwy i bawb yng Nghymru.
Mae'r ymdeimlad hwnnw o agenda cyfiawnder cymdeithasol gynyddol i Gymru wedi bod yn nodwedd o'n 20 mlynedd gyntaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau yn ystod yr 20 mlynedd nesaf hefyd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn dangos nad yw'r daith ddatganoli ar ben eto, nad diwedd datganoli yw'r pethau yr ydym ni wedi'u hychwanegu at ein cyfrifoldebau yn ystod yr 20 mlynedd gyntaf. Mae gennym gomisiwn Thomas ynghylch cyfiawnder troseddol. Mae gennym fwy o ddiddordeb yn y pumed Cynulliad hwn nag ar unrhyw adeg arall wrth feddwl am yr hyn y gallai rhannau o'r system fudd-daliadau ganiatáu inni ei wneud pe bydden nhw'n gyfrifoldeb y Cynulliad hwn.
Mae'n iawn ac yn briodol, yn fy marn i, y bydd datganoli'n parhau ar ei daith i'r 20 mlynedd nesaf, ac, ar yr un pryd, y byddwn yn defnyddio ein hymdrechion i fynd i'r afael â mater sy'n fwy o frys heddiw nag y gwnaethom erioed ei gydnabod 20 mlynedd yn ôl. Mae ein hymwybyddiaeth o argyfwng yr hinsawdd, yr effaith ar ein hamgylchedd, sydd wedi tyfu y tu hwnt i unrhyw beth y byddem ni wedi gallu ei ddychmygu 20 mlynedd yn ôl, ledled y byd ac yma yng Nghymru hefyd. Rydym ar flaen y gad mewn rhai ffyrdd, trwy ein treth ar fagiau plastig, trwy ein cyfraddau ailgylchu, ond mae cymaint y mae'n rhaid inni ei wneud i greu cyfiawnder amgylcheddol yma yng Nghymru, gan wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, a manteisio ar y buddion enfawr sydd gan Gymru i ddefnyddio technoleg ynni adnewyddadwy y dyfodol.
Ac, yn olaf, ac efallai'n fwyaf oll, mae'n ymddangos i mi, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf y bydd yn rhaid inni wynebu'r her o ran cydraddoldeb, yr her sydd wrth wraidd Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol, i wneud Cymru'n lle mwy cyfartal yn y dyfodol. Ym 1976, Llywydd, y Deyrnas Unedig oedd y gymdeithas fwyaf cyfartal yn Ewrop. Heddiw, rydym yn un o'r mwyaf anghyfartal. Ac yn sgil hynny daw'r holl effeithiau difäol hynny sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb ar y raddfa honno. Mae cymdeithas fwy cyfartal yn well yn economaidd, yn well o ran iechyd, ac mae ganddi fwy o ymdeimlad o gydlyniant cymunedol. Dyna sydd i'w ennill o fod yn Gymru sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhwng ac ar draws y cenedlaethau, ac mae'n her ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, hyd yn oed yn fwy sylweddol nag y bu yn ein hanes cyntaf.
Llywydd, i gloi, mae datganoli wedi rhoi cyfle i ni yng Nghymru i gymryd cyfrifoldeb am ein dyfodol, yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth gwrs, ond i weithredu yn ôl ein blaenoriaethau ni. Wrth edrych ymlaen i’r 20 mlynedd nesaf, rwy’n hyderus y bydd Cymru yn parhau i ddangos y ffordd ymlaen—dangos y ffordd at gymdeithas mwy llewyrchus, mwy cyfartal, mwy gwyrdd, a chymdeithas sy’n deg i bawb. Llywydd, diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]
Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog am ei gyfraniad, a dyna ddiwedd ar ein sesiwn ffurfiol yn nodi ein hugainmlwyddiant. Diolch i bawb am eu cyfraniad hyd yn hyn, ac, yn neges y dydd, mae mwy i ddod. Diolch yn fawr iawn i chi.