Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 7 Mai 2019.
Llywydd, i gloi, mae datganoli wedi rhoi cyfle i ni yng Nghymru i gymryd cyfrifoldeb am ein dyfodol, yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth gwrs, ond i weithredu yn ôl ein blaenoriaethau ni. Wrth edrych ymlaen i’r 20 mlynedd nesaf, rwy’n hyderus y bydd Cymru yn parhau i ddangos y ffordd ymlaen—dangos y ffordd at gymdeithas mwy llewyrchus, mwy cyfartal, mwy gwyrdd, a chymdeithas sy’n deg i bawb. Llywydd, diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]