Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 7 Mai 2019.
Rydym wedi cael ein hatgoffa, fel y gwnaethoch chi ddweud, Llywydd, dro ar ôl tro am hynny y tymor hwn. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd dwy flynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth y Prif Weinidog a fu'n tywys y Cynulliad Cenedlaethol drwy'r rhan fwyaf o'r degawd cyntaf hwnnw o ddatganoli. Nid oes llawer mwy na blwyddyn ers marwolaeth ein cyd-Aelod, Carl Sargeant, ac mae'n llai na blwyddyn ers marwolaeth Steffan Lewis, un o obeithion disgleiriaf y pumed Cynulliad hwn. Mae yna dristwch a galar yn ein hanes byr ni. Ac, er fy mod i'n siŵr bod hynny'n rhan o'r ffordd y mae unrhyw sefydliad yn aeddfedu, nid wyf i'n siŵr ein bod ni wedi disgwyl hynny mor sydyn ar ddechrau'r daith ddatganoli.
Llywydd, yn fy mhedwerydd maes siomedigaeth, yn ddigon sicr, nid oeddem wedi disgwyl ym 1999 y byddai ein hanes ariannol yn gymaint o gêm ddwy ran. Yn ystod y tymor Cynulliad cyntaf, cynyddodd cyllideb Llywodraeth Cymru 10 y cant mewn termau arian parod ym mhob un flwyddyn—pob un flwyddyn, 10 y cant yn fwy i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nag a gawsom yn y flwyddyn flaenorol. Yn ystod yr ail dymor Cynulliad, tyfodd ein cyllidebau 5 y cant bob blwyddyn mewn termau arian parod. Hyd yn oed yn ystod y trydydd tymor Cynulliad, tyfodd ein cyllidebau mewn termau real dros y tymor cyfan hwnnw.
Nawr, ers hynny, bu tywyllu dramatig i'r sefyllfa ariannol. Ni wnes i gyfarfod â neb yn y dyddiau cynharaf hynny a oedd ag unrhyw syniad y byddem ni, erbyn diwedd ein hail ddegawd, wedi bod trwy'r cyfnod hiraf a gwaethaf o gyfyngu ar wariant cyhoeddus nid ers 20 mlynedd, ond ers 200 mlynedd. Ac, fel y dywedwyd yn gynharach yn nhrafodion y prynhawn yma, yn ystod degawd cyntaf datganoli, gostyngodd tlodi plant yng Nghymru yn gyson—nid yn ddigon cyflym, nid yn ddigon pell i lawer ohonom, ond gostyngodd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn, bydd 50,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru nag yn 2010. Rwy'n credu ei bod yn anodd dod o hyd i wrthgyferbyniad cryfach rhwng degawd cyntaf ac ail ddegawd y tymor Cynulliad hwn.
Ym 1999, Llywydd, nid wyf i'n credu ein bod wedi clywed y term 'banc bwyd'. Byddem yn sicr wedi dychryn o weld pobl yn cardota ar ein strydoedd am fwyd, neu ddigartrefedd ar y stryd ar gynnydd mor sydyn. Ni allem fod wedi rhagweld yr effaith y byddai degawd o gyni wedi'i chael ar wead ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas, ond rwy'n credu y byddem wedi synnu o feddwl y byddai'n rhaid inni wynebu'r peth cyn ein hugeinfed pen-blwydd.
Yn olaf, Llywydd, mae'n syndod llwyr i'r rhai hynny ohonom a ymgyrchodd dros ddatganoli yn y blynyddoedd hir hynny ar ôl 1979 ein bod wedi symud mewn dau ddegawd o sefyllfa lle'r oedd 'llais cryfach yn Ewrop' yn slogan a oedd yn uno'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i sefyllfa lle mae Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu pe byddech wedi dweud hynny wrth rywun ym 1999, y bydden nhw wedi credu y byddai hynny'n annhebygol iawn o fod yn wir.
Felly, Llywydd, hoffwn i orffen drwy edrych i'r dyfodol a meddwl am y mathau o heriau yr ydym yn dal i'w hwynebu ac y byddwn yn eu hwynebu dros yr 20 mlynedd nesaf, rhai, rwy'n credu, na allem ni erioed fod wedi'u rhagweld ar y dechrau. Rwy'n gobeithio, dros yr 20 mlynedd nesaf, y byddwn wedi gwneud mwy i gyflwyno'r math o wleidyddiaeth garedicach y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich rhagymadrodd; y byddwn wedi derbyn yr her i ddangos yn y Cynulliad hwn ei bod yn bosibl o hyd i drin ein gilydd â pharch wrth barhau i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau gwirioneddol sydd rhyngom—y gwahaniaethau cywir a phriodol sydd rhyngom mewn unrhyw ddemocratiaeth—o ran ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru.
Rwy'n gobeithio, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, y gallwn ddweud y bydd gwleidyddiaeth flaengar wedi'i chynnal yma yng Nghymru, ei bod yn dal i fod yn fan lle caiff atebion eu saernïo ar y cyd i fod yn broblemau cyfunol, a lle caiff systemau eu newid i gyrraedd bywydau'r rhai hynny â'r lleiaf, nid dim ond y rhai sydd â'r mwyaf, a'n bod yn gallu dangos, fel yr ydym ni'n ei wneud yn y tymor Cynulliad hwn, nad yw'r duedd gynyddol honno yng ngwleidyddiaeth Cymru yn dod i ben o bell ffordd.
Fis diwethaf, diddymwyd y drefn o garcharu pobl am beidio â thalu'r dreth gyngor. Y mis hwn, rydym wedi cyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad o gosbi plant yn rhesymol yn ei ystyriaeth Cyfnod 1. Fis nesaf, byddwn yn cyflwyno Bil i ymestyn yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a sicrhau bod y broses ddemocrataidd ar gael yn fwy i bawb yng Nghymru.
Mae'r ymdeimlad hwnnw o agenda cyfiawnder cymdeithasol gynyddol i Gymru wedi bod yn nodwedd o'n 20 mlynedd gyntaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau yn ystod yr 20 mlynedd nesaf hefyd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn dangos nad yw'r daith ddatganoli ar ben eto, nad diwedd datganoli yw'r pethau yr ydym ni wedi'u hychwanegu at ein cyfrifoldebau yn ystod yr 20 mlynedd gyntaf. Mae gennym gomisiwn Thomas ynghylch cyfiawnder troseddol. Mae gennym fwy o ddiddordeb yn y pumed Cynulliad hwn nag ar unrhyw adeg arall wrth feddwl am yr hyn y gallai rhannau o'r system fudd-daliadau ganiatáu inni ei wneud pe bydden nhw'n gyfrifoldeb y Cynulliad hwn.
Mae'n iawn ac yn briodol, yn fy marn i, y bydd datganoli'n parhau ar ei daith i'r 20 mlynedd nesaf, ac, ar yr un pryd, y byddwn yn defnyddio ein hymdrechion i fynd i'r afael â mater sy'n fwy o frys heddiw nag y gwnaethom erioed ei gydnabod 20 mlynedd yn ôl. Mae ein hymwybyddiaeth o argyfwng yr hinsawdd, yr effaith ar ein hamgylchedd, sydd wedi tyfu y tu hwnt i unrhyw beth y byddem ni wedi gallu ei ddychmygu 20 mlynedd yn ôl, ledled y byd ac yma yng Nghymru hefyd. Rydym ar flaen y gad mewn rhai ffyrdd, trwy ein treth ar fagiau plastig, trwy ein cyfraddau ailgylchu, ond mae cymaint y mae'n rhaid inni ei wneud i greu cyfiawnder amgylcheddol yma yng Nghymru, gan wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, a manteisio ar y buddion enfawr sydd gan Gymru i ddefnyddio technoleg ynni adnewyddadwy y dyfodol.
Ac, yn olaf, ac efallai'n fwyaf oll, mae'n ymddangos i mi, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf y bydd yn rhaid inni wynebu'r her o ran cydraddoldeb, yr her sydd wrth wraidd Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol, i wneud Cymru'n lle mwy cyfartal yn y dyfodol. Ym 1976, Llywydd, y Deyrnas Unedig oedd y gymdeithas fwyaf cyfartal yn Ewrop. Heddiw, rydym yn un o'r mwyaf anghyfartal. Ac yn sgil hynny daw'r holl effeithiau difäol hynny sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb ar y raddfa honno. Mae cymdeithas fwy cyfartal yn well yn economaidd, yn well o ran iechyd, ac mae ganddi fwy o ymdeimlad o gydlyniant cymunedol. Dyna sydd i'w ennill o fod yn Gymru sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhwng ac ar draws y cenedlaethau, ac mae'n her ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, hyd yn oed yn fwy sylweddol nag y bu yn ein hanes cyntaf.