1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 8 Mai 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau teithio ar y rheilffordd yng nghanolbarth Cymru? OAQ53806
Yn sicr. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu strategaeth brisiau siwrneiau sy'n gynaliadwy a'r lefel uchaf o wasanaeth i'r holl gwsmeriaid rheilffyrdd ledled Cymru a fydd yn diwallu anghenion cymunedau mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd trefol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Tybed a gaf fi ofyn i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru i sicrhau nad yw fy etholwyr yn cael eu rhwystro rhag teithio gan brisiau siwrneiau ar drenau sy'n amhriodol ar gyfer llwybrau ar draws gorsafoedd canolbarth Cymru, yn enwedig o Gymru i Loegr? Mae un o fy etholwyr wedi gwneud gwaith a ddengys y gall etholwr brynu tocyn yng Nghaersws, Y Drenewydd neu'r Trallwng i fynd i Telford neu Wellington, ac mae'r gost yn ddrytach na phe baent wedi prynu tocyn i Birmingham New Street. Felly, ymddengys bod hynny allan o'r cyd-destun o ran y milltiroedd a deithiwyd. Buaswn yn ddiolchgar am eich sylwadau a'ch ymrwymiad i sicrhau y caiff teithiau eu prisio'n addas ar gyfer y pellter a deithiwyd, i annog yn hytrach nag anghymell teithio ar drenau.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a diolch iddo hefyd am gysylltu â Trafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol mewn perthynas â'r ymchwiliad y soniodd amdano eto heddiw? Roedd yn waith pwysig a wnaed gan un o etholwyr Russell George, ac rwy'n gwerthfawrogi'r adborth adeiladol a gawsom ynghylch prisiau siwrneiau ar reilffordd y Cambrian. Dylwn ddweud, cyn i mi symud at fater ehangach y gyfundrefn brisiau siwrneiau, fod Trafnidiaeth Cymru wedi trosglwyddo'r adborth hwn i'r tîm sy'n gyfrifol am bennu prisiau siwrneiau ar drenau; maent yn edrych ar y mater ar hyn o bryd, er mwyn bod yn barod ar gyfer y rownd nesaf o newidiadau i brisiau siwrneiau. A gallaf sicrhau'r Aelod y bydd Trafnidiaeth Cymru'n rhoi sylw arbennig i'r prisiau siwrneiau ar y llwybr hwn er mwyn sicrhau yr eir i'r afael ag unrhyw anomaleddau.
Nawr, mae'r gyfundrefn brisiau siwrneiau, wrth gwrs, yn seiliedig ar reoliadau sy'n ddegawdau oed, a bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud nifer o ymyriadau, ac maent yn eu gwneud eisoes, i leihau prisiau siwrneiau i lawer o bobl, yn enwedig pobl ifanc, ac i sicrhau bod y gyfundrefn brisiau siwrneiau yn fwy tryloyw ac yn haws ei deall. Ond mae'r mater hwn yn hynod o bwysig ar gyfer y 15 mlynedd nesaf—am oes gyfan y fasnachfraint newydd. Ac am y rheswm hwnnw, mae'r Rail Delivery Group, sy'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, yn ystyried darparu system brisiau siwrneiau sy'n haws ei defnyddio ac yn cynnig llawer mwy o werth am arian. Bydd yn seiliedig ar ystod o brisiau siwrneiau sy'n haws ei defnyddio, a bydd yn cael ei chyflwyno drwy ddiweddaru'r set honno o reoliadau y soniais amdani. Gallai olygu cyflwyno system dalu wrth fynd, gyda chap pris, ar wasanaethau cymudo ledled y wlad. Gallai roi bargen well o lawer i weithwyr hyblyg o ganlyniad. Byddai hefyd yn caniatáu mwy o reolaeth leol dros brisiau siwrneiau, sy'n rhywbeth y gwn fod Aelodau yn y Siambr hon yn awyddus i'w weld. A chredaf y byddai hefyd, yn ei dro, yn arwain at integreiddio gwell rhwng prisiau siwrneiau ar drenau a mathau eraill o drafnidiaeth, er enghraifft, gyda bysiau, lle rydym hefyd yn bwriadu rhoi mwy o reolaeth i gynghorau.
Gyda system brisiau siwrneiau wedi'i diwygio'n llawn, am y tro cyntaf byddai modd i deithwyr elwa ar warant y byddent yn talu'r prisiau gorau am eu taith bob tro, heb orfod prynu sawl tocyn. Mae hynny'n rhan o'n gweledigaeth am system drenau, bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig a theg yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb i Russell George—mae'n bwysig iawn, ac mae'n ddefnyddiol clywed beth yw'r blaengynlluniau. Yr wythnos diwethaf, teithiais ar lein arfordir y Cambrian—mae'n rhaid imi ddweud, er mawr cywilydd imi—am y tro cyntaf i'r gogledd o Fachynlleth; roeddwn wedi defnyddio'r rhan arall o'r rheilffordd sawl tro. A sylwais yno ar y nifer uchel iawn o deithwyr sy'n defnyddio'r trên hwnnw ar gyfer teithiau byr iawn—un neu ddau stop—yn enwedig disgyblion ysgol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog sicrhau, yn yr adolygiad hwn o brisiau siwrneiau, ei fod yn cadw mewn cof, fel y dywed y bydd yn ei wneud, yr angen i gadw prisiau siwrneiau'n fforddiadwy i bobl ifanc, gan y byddai'n rhaid i rieni'r bobl ifanc hyn ddarparu trafnidiaeth ar y ffyrdd pe na baent yn teithio ar y trên, neu byddai'n rhaid i'r cyngor sir ddarparu trafnidiaeth ar y ffyrdd, sy'n rhywbeth rydym yn ceisio'i osgoi, a sicrhau hefyd y caiff defnyddwyr gwasanaethau rheolaidd fynediad ffafriol at drefniadau tocyn tymor, fel y gallwn barhau i annog ein hetholwyr i wneud y teithiau byr yn ogystal â defnyddio rheilffyrdd ar gyfer teithiau hirach?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau, ac am y pwyntiau pwysig a wnaed ganddi o ran sicrhau bod gennym y prisiau siwrneiau isaf posibl ar gyfer pobl ifanc, pobl sy'n dibynnu'n fawr ar drafnidiaeth rheilffyrdd o ddydd i ddydd? Dylwn ddweud, o dan y gweithredwr blaenorol, mai ar nifer cyfyngedig o lwybrau'n unig yr oedd modd prynu tocynnau rhatach. Bellach, gyda Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu'r fasnachfraint, mae tocynnau ymlaen llaw yn docynnau sengl ar gyfer trenau penodol, y gellir eu prynu o 12 wythnos ymlaen llaw hyd at 6 p.m. cyn y diwrnod teithio. Bydd teithwyr yn prynu tocyn sengl ymlaen llaw arall wedyn ar gyfer y daith yn ôl. Nawr, yn y tymor hwy, rwy'n bwriadu diwygio'r sefyllfa hon. Fodd bynnag, yn y tymor byrrach, dylid nodi mai 48 y cant yw'r arbediad cyfartalog drwy'r mecanwaith tocynnau ymlaen llaw—arbediad sylweddol. Rydym hefyd yn ystyried cyflwyno tocynnau clyfar ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Ac mewn mannau eraill, bydd modd i gwsmeriaid ddefnyddio tocynnau ar ffonau symudol i sicrhau eu bod yn talu'r pris lleiaf bob amser.
Nawr, o ran pobl ifanc, ac o ran teithio ar fysiau, rydym eisoes wedi ymestyn cynllun fyngherdynteithio. Ac rydym wrthi'n edrych ar ffyrdd y gallem gofrestru'r holl bobl ifanc yn awtomatig i'r cynllun hollbwysig hwnnw sy'n cynnig arbediad sylweddol i deithwyr ifanc. Ond ar gyfer y rheilffyrdd, mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu ymestyn amodau teithio presennol y rheilffyrdd cenedlaethol, gan ganiatáu teithio am ddim ar reilffyrdd i blant hyd at 11 oed. Yn ychwanegol at hyn, Lywydd, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyflwyno teithio am ddim ar adegau tawel i bob teithiwr o dan 16 oed, sy'n teithio gydag oedolion sy'n talu, ar lwybrau lle gall Trafnidiaeth Cymru osod prisiau tocynnau ac sydd ar reilffyrdd Cymru a'r gororau. Hefyd, Lywydd, rwy'n falch o ddweud eu bod hefyd yn bwriadu codi'r terfyn oedran ar gyfer tocynnau plant i 18 oed ar wasanaethau Cymru a'r gororau.