Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:56, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, credaf ei bod yn wir dweud bod myfyrwyr prifysgol yn aml yn cael eu portreadu mewn ffordd negyddol, ond oni ddylem gydnabod bod llawer o feysydd lle mae myfyrwyr o bob rhan o'r sbectrwm academaidd yn dangos blaengarwch ac egni, yn aml y tu allan i'w cwricwlwm penodol? Mae'n galonogol felly fod myfyrwyr o Gymru wedi perfformio'n well na myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r DU o ran sefydlu eu busnesau eu hunain. Felly, a ydych yn cytuno y dylem ddathlu'r ffaith bod hyd at 13 y cant o fyfyrwyr Cymru yn gadael ac yn sefydlu eu busnesau eu hunain, a bod y ffigur hwn yn fwy nag unrhyw ran arall o'r DU?