Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:57, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr ac yn dathlu'r ffaith bod gan Gymru gyfradd uwch o entrepreneuriaeth graddedigion mewn busnesau newydd nag unrhyw le arall. Dyma'r gyfradd uchaf yn y DU—nid oes gan unrhyw ran arall o'r DU gyfradd uwch—ac mae hynny'n bennaf oherwydd yr ymyriadau y mae prifysgolion yn eu gwneud, wrth gwrs, yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â'r Llywodraeth—yr hyn a wnawn, er enghraifft, drwy Syniadau Mawr Cymru, a gynlluniwyd i ysbrydoli pobl ifanc pan fyddant yn yr ysgol i fod yn entrepreneuriaid ac i fod yn berchen ar eu busnes eu hunain ac i weithredu eu busnes eu hunain.