Mentrau yn y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:23, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd yn fy etholaeth wedi gwneud cais am gyfran o'r cyllid hwnnw. Rwyf wedi dweud wrth y Gweinidog am hynny drwy ohebiaeth ysgrifenedig. Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd yn fenter gymunedol sy'n cynnal canolfan galw heibio i bobl ifanc yn ardal Senghennydd ac mae'n hynod werthfawr yn fy etholaeth. Ar hyn o bryd, mae ganddynt dir ar gyfer prosiect ynni gwyrdd ac mae ganddynt ganiatâd cynllunio i ddatblygu tyrbin gwynt ar y tir. Roeddent yn ei chael hi'n anodd bwrw ymlaen ac fe'u rhwystrwyd rhag gallu bwrw ymlaen gyda grant am gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar gyfer y tyrbin gwynt cymunedol hwnnw oherwydd y meini prawf eithaf anhyblyg sydd gennym ar gyfer y mathau hynny o geisiadau. Gwn na all y Gweinidog, ac rwy'n derbyn yn llwyr na all y Gweinidog wneud unrhyw sylwadau penodol am geisiadau unigol, ond gyda'r profiad hwn mewn golwg, a fyddai'n ymrwymo i ystyried sut y gallwn ddysgu o brofiad Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd er mwyn sicrhau bod ceisiadau gwyrdd cymunedol yn fwy llwyddiannus gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn y dyfodol?