Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 8 Mai 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r prosiect yn ei etholaeth yn seiliedig ar yr ohebiaeth a gawsom. Mae wedi cydnabod na allaf wneud sylw penodol ar hynny, ac mewn gwirionedd, mai Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau hynny, nid Gweinidogion Cymru. Mae nifer fawr o brosiectau llwyddiannus wedi mynd i sefydliadau cymunedol a thrydydd sector, gan gynnwys mentrau meithrin gallu er mwyn annog ceisiadau llwyddiannus pellach gan y trydydd sector. Cyfarfûm yn ddiweddar â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, er enghraifft, i drafod eu diddordeb a'u rôl fel corff cyfryngol yn cynorthwyo Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gyda gweinyddu cronfeydd yr UE.
Mewn perthynas â'r pwynt penodol a wnaed ganddo ynglŷn â gwella rôl sefydliadau cymunedol ymhellach fel rhai sy'n elwa o gronfeydd yr UE, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddem yn dymuno'i weld, ac mewn perthynas â'r prosiect penodol yn ei etholaeth, buaswn yn annog y sefydliad i gysylltu â swyddogion i drafod y prosiect penodol hwnnw.