2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 8 Mai 2019.
2. A wnaiff y Cwnsler Cyfredinol ddatganiad am ddosbarthu cymorth ariannol i fentrau yn y gymuned drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru? OAQ53819
Mae dros £80 miliwn o arian yr UE wedi'i ymrwymo i fentrau cymunedol a sefydliadau trydydd sector drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru fel rhan o raglenni cronfeydd strwythurol cyfredol yr UE.
Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd yn fy etholaeth wedi gwneud cais am gyfran o'r cyllid hwnnw. Rwyf wedi dweud wrth y Gweinidog am hynny drwy ohebiaeth ysgrifenedig. Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd yn fenter gymunedol sy'n cynnal canolfan galw heibio i bobl ifanc yn ardal Senghennydd ac mae'n hynod werthfawr yn fy etholaeth. Ar hyn o bryd, mae ganddynt dir ar gyfer prosiect ynni gwyrdd ac mae ganddynt ganiatâd cynllunio i ddatblygu tyrbin gwynt ar y tir. Roeddent yn ei chael hi'n anodd bwrw ymlaen ac fe'u rhwystrwyd rhag gallu bwrw ymlaen gyda grant am gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar gyfer y tyrbin gwynt cymunedol hwnnw oherwydd y meini prawf eithaf anhyblyg sydd gennym ar gyfer y mathau hynny o geisiadau. Gwn na all y Gweinidog, ac rwy'n derbyn yn llwyr na all y Gweinidog wneud unrhyw sylwadau penodol am geisiadau unigol, ond gyda'r profiad hwn mewn golwg, a fyddai'n ymrwymo i ystyried sut y gallwn ddysgu o brofiad Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd er mwyn sicrhau bod ceisiadau gwyrdd cymunedol yn fwy llwyddiannus gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn y dyfodol?
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r prosiect yn ei etholaeth yn seiliedig ar yr ohebiaeth a gawsom. Mae wedi cydnabod na allaf wneud sylw penodol ar hynny, ac mewn gwirionedd, mai Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau hynny, nid Gweinidogion Cymru. Mae nifer fawr o brosiectau llwyddiannus wedi mynd i sefydliadau cymunedol a thrydydd sector, gan gynnwys mentrau meithrin gallu er mwyn annog ceisiadau llwyddiannus pellach gan y trydydd sector. Cyfarfûm yn ddiweddar â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, er enghraifft, i drafod eu diddordeb a'u rôl fel corff cyfryngol yn cynorthwyo Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gyda gweinyddu cronfeydd yr UE.
Mewn perthynas â'r pwynt penodol a wnaed ganddo ynglŷn â gwella rôl sefydliadau cymunedol ymhellach fel rhai sy'n elwa o gronfeydd yr UE, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddem yn dymuno'i weld, ac mewn perthynas â'r prosiect penodol yn ei etholaeth, buaswn yn annog y sefydliad i gysylltu â swyddogion i drafod y prosiect penodol hwnnw.
Weinidog—Gwnsler Cyffredinol, dylwn ddweud—credaf fod Hefin David, yr Aelod dros Gaerffili, wedi gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r potensial yn y dyfodol—gan gydnabod bod cronfa Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi bod yn eithriadol o bwysig i brosiectau cymunedol yn y gorffennol, fod potensial bellach i sicrhau bod y strwythur newydd yn fwy addas i'ch ardal chi, Hefin, a fy ardal i, er mwyn cefnogi prosiectau amgylcheddol yn well. Gwyddom ein bod, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud, yn wynebu argyfwng newid hinsawdd, felly pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni i sicrhau, yn y dyfodol, pa strwythur bynnag—gwn ei bod yn ddyddiau cynnar—a ddaw yn lle'r cyllid y mae Cymru wedi'i gael ar gyfer y mathau hyn o brosiectau, fod prosiectau amgylcheddol ac ynni adnewyddadwy yn ganolog i hynny, fel y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y DU a sicrhau mai ni yw'r rhan o'r DU sy'n gwneud fwyaf o les yn amgylcheddol?
Wel, wrth wraidd cwestiwn yr Aelod a chwestiwn Hefin David ceir cwestiwn ynghylch sicrhau bod blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gymuned yn cymryd rhan mewn prosiectau adnewyddadwy lleol yn cael ei gwella, ac afraid dweud bod hynny'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mewn perthynas â chynlluniau yn y dyfodol, yn amlwg, rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym fynediad at yr un lefel o gyllid, ac y gall Llywodraeth Cymru barhau i wneud penderfyniadau mewn perthynas â chyllid rhanbarthol yma yng Nghymru. Y rheswm pam fod hynny'n bwysig yw am y gallant adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol wedyn, gan gynnwys y flaenoriaeth y soniodd ef a Hefin David amdani yn eich cwestiynau. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen inni weld gweithredu clir ar ran Llywodraeth y DU i gadw at yr ymrwymiadau a wnaed gan Brif Weinidog y DU i sicrhau nad ydym yn colli arian a bod y setliad datganoli yn cael ei barchu. Nid yw hynny wedi digwydd eto, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i gadw at eu haddewidion yn y maes hwnnw.