Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 8 Mai 2019.
Wel, wrth wraidd cwestiwn yr Aelod a chwestiwn Hefin David ceir cwestiwn ynghylch sicrhau bod blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gymuned yn cymryd rhan mewn prosiectau adnewyddadwy lleol yn cael ei gwella, ac afraid dweud bod hynny'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mewn perthynas â chynlluniau yn y dyfodol, yn amlwg, rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym fynediad at yr un lefel o gyllid, ac y gall Llywodraeth Cymru barhau i wneud penderfyniadau mewn perthynas â chyllid rhanbarthol yma yng Nghymru. Y rheswm pam fod hynny'n bwysig yw am y gallant adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol wedyn, gan gynnwys y flaenoriaeth y soniodd ef a Hefin David amdani yn eich cwestiynau. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen inni weld gweithredu clir ar ran Llywodraeth y DU i gadw at yr ymrwymiadau a wnaed gan Brif Weinidog y DU i sicrhau nad ydym yn colli arian a bod y setliad datganoli yn cael ei barchu. Nid yw hynny wedi digwydd eto, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i gadw at eu haddewidion yn y maes hwnnw.