Mentrau yn y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:26, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog—Gwnsler Cyffredinol, dylwn ddweud—credaf fod Hefin David, yr Aelod dros Gaerffili, wedi gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r potensial yn y dyfodol—gan gydnabod bod cronfa Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi bod yn eithriadol o bwysig i brosiectau cymunedol yn y gorffennol, fod potensial bellach i sicrhau bod y strwythur newydd yn fwy addas i'ch ardal chi, Hefin, a fy ardal i, er mwyn cefnogi prosiectau amgylcheddol yn well. Gwyddom ein bod, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud, yn wynebu argyfwng newid hinsawdd, felly pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni i sicrhau, yn y dyfodol, pa strwythur bynnag—gwn ei bod yn ddyddiau cynnar—a ddaw yn lle'r cyllid y mae Cymru wedi'i gael ar gyfer y mathau hyn o brosiectau, fod prosiectau amgylcheddol ac ynni adnewyddadwy yn ganolog i hynny, fel y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y DU a sicrhau mai ni yw'r rhan o'r DU sy'n gwneud fwyaf o les yn amgylcheddol?