6. Dadl Plaid Cymru: Byrddau Iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:20, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ugain mlynedd i mewn i lywodraethu datganoledig, byddech yn disgwyl y dylai Cymru a'i phoblogaeth fod yn derbyn gwasanaethau hanfodol o safon uchel. Wel, gallaf ddweud wrthych nad oes enghraifft fwy o gamreoli'r broses ddatganoli na'r enghreifftiau o wasanaethau iechyd sy'n methu. Nid datganoli sy'n gwneud cam â'r gweithwyr meddygol proffesiynol gweithgar yn ein cymunedau, ond y ffordd y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn trin ac yn camreoli GIG Cymru.

Nawr, nid oes angen inni edrych ymhellach na'r bwrdd iechyd ar gyfer yr etholaeth y mae'n anrhydedd fawr imi ei chynrychioli i weld y bwrdd iechyd a'r methiannau o ganlyniad i'r Llywodraeth hon. Er bod Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers mis Mehefin 2015, mae newydd gofnodi'r amseroedd aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf yng Nghymru. Gwelwyd llai na 60 y cant o gleifion o fewn pedair awr yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd. Er gwaethaf y mesurau hyn, dyma'r bwrdd a welodd y nifer uchaf o ddigwyddiadau diogelwch cleifion o holl ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru, ac er gwaethaf mesurau arbennig, dyma'r bwrdd iechyd a oedd yn gyfrifol am drin y ganran isaf o bobl a oedd yn aros am ofal wedi'i gynllunio o fewn 26 wythnos i gael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu ym mis Chwefror. Y bwrdd iechyd hwn oedd â dros hanner o'r 13,000 o bobl yng Nghymru a oedd yn aros dros 36 wythnos am driniaeth ym mis Chwefror ac mae newydd gofnodi'r diffyg mwyaf o blith saith bwrdd iechyd GIG Cymru, sef £42 miliwn.

Pedair blynedd o fesurau arbennig, a methiant a rhwystredigaeth o hyd ynghylch gwasanaethau yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod hyn a'r Gweinidog, mewn gwirionedd, wedi cyfaddef ar 6 Tachwedd 2018 fod anawsterau sylweddol yn parhau. A yw hyn yn dderbyniol wrth ystyried bod y bwrdd iechyd wedi bod o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi, ein Gweinidog iechyd, am y cyfnod hwyaf o gymharu ag unrhyw un o gyrff y GIG ym Mhrydain? Nid yw fy etholwyr a minnau'n credu ei fod. Yn wir, mae Aberconwy'n dweud 'na'. Nodwyd diffyg cynnydd gan Donna Ockenden, a chanfu ei hadolygiad fod y bwrdd wedi methu cyrraedd targedau allweddol ers 2017, gan gynnwys arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn ei drefniadau llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl, ac ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Mae hynny'n dweud 'adennill hyder y cyhoedd'—nid yw'r hyder hwnnw yno, Weinidog. Yn fwy na hynny, llythyr mwy diweddar Mrs Ockenden am gynnydd annigonol o ran gwella'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny—rwy'n synnu clywed bod ei chynnig i helpu wedi'i wrthod mewn gwirionedd.

Mae'n fy nhristáu bod nifer o feysydd y mae angen mynd i'r afael â hwy o hyd cyn y gellir ystyried isgyfeirio o fesurau arbennig. Yn amlwg, nid yw'r sefyllfa er lles gorau fy etholwyr i. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y problemau'n mynd yn waeth ar draws Cymru, gyda phump yn awr o'r saith bwrdd iechyd mewn rhyw fath o fesurau arbennig. Mae'r mesurau hyn yn dangos methiant. Er enghraifft, yr heriau a wynebir yng Nghwm Taf. Canfu'r adolygiad o wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf ddiffyg ymagwedd gydlynol tuag at ddiogelwch cleifion neu ddealltwriaeth o'u rolau a'u cyfrifoldebau tuag at ddiogelwch cleifion y tu hwnt i'r gofal a ddarparwyd ganddynt ar gyfer menyw benodol neu grŵp o fenywod, fod aseswyr wedi eu hysbysu'n gyson gan staff ynglŷn ag amharodrwydd i roi gwybod am faterion yn ymwneud â diogelwch cleifion am eu bod ofn cael eu beio, eu hatal o'u gwaith dros dro neu wynebu camau disgyblu, a phrin iawn oedd y dystiolaeth o arweiniad clinigol effeithiol ar unrhyw lefel. Mae angen adolygiad mawr o bob agwedd ar wasanaethau mamolaeth yno er mwyn diogelu teuluoedd yn y dyfodol rhag wynebu'r colledion a welsom ac y clywsom amdanynt. Fel y dywedodd eich AS Llafur Cymru eich hun, Owen Smith, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru ynghylch ad-drefnu i'w weld fel pe bai wedi dwysáu'r problemau sy'n wynebu Cymru. Rwy'n ymwybodol ei bod wedi cymryd llawer gormod o amser hefyd i roi'r mesurau arbennig ar waith—bron i saith mlynedd ar ôl i bryderon gael eu codi'n ffurfiol am y tro cyntaf. Nid yw hynny'n rhagweithiol. Rydych yn gweithio ar sail adweithiol, Weinidog.

Heddiw rydym yn wynebu oedi gan Lywodraeth Cymru rhag gweithredu yng Nghwm Taf, methiannau parhaus i reoli Betsi Cadwaladr. Yn sicr, nid oes gennyf hyder y gall y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol yn Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r methiannau systemig a nodwyd yma heddiw. Aeth pedair blynedd heibio ers i ogledd Cymru ddod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Felly, sut ar y ddaear y gellir disgwyl i ni gredu unrhyw beth a ddywedwch wrthym mwyach, Weinidog? Nawr, rwy'n cefnogi'n llwyr y cynnig heddiw gan Blaid Cymru, a hoffwn ofyn i chi ystyried eich sefyllfa o ddifrif. Pe bawn i yn eich esgidiau chi, buaswn yn ymddiswyddo. Buaswn yn mynd gam ymhellach: os nad ydych yn barod i wneud y peth anrhydeddus er mwyn i fy etholwyr i a chleifion eraill ledled Cymru gael gofal iechyd digonol, buaswn yn gofyn i'r Prif Weinidog eich diswyddo. Diolch.