Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 8 Mai 2019.
Mae wedi bod yn wythnos drist iawn i unrhyw un sydd wedi darllen neu wedi bod yn rhan o adolygiad y coleg brenhinol o wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf. Mae tystiolaethau'r mamau y bu eu babanod farw yn cyffwrdd â phob un ohonom, ac mae'r ffordd y cawsant eu trin yn ddigon i wneud unrhyw un yn ddig. Nawr, gofynnais y cwestiwn yr wythnos diwethaf ynglŷn ag a fyddai hyn wedi digwydd mewn ardal arall—er enghraifft, gwasanaeth ysbyty mewn dalgylch cyfoethocach, dyweder, lle byddai'r cleifion yn fwy tebygol o fod yn perthyn i'r dosbarth canol. A fyddem yn gweld adroddiad yn amlygu agweddau diystyriol a methiant i ymddiheuro, ac ymatebion a oedd yn fformiwläig ac a oedd i'w gweld â mwy o ddiddordeb mewn amddiffyn enw da unigolion a'r bwrdd iechyd mewn ardal gyfoethocach? Rwy'n amau hynny'n fawr. Ac nid pwynt dadleugar yw hwn; mae'n ffurfio rhan o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal y mae'r Gweinidog ei hun wedi'i chydnabod mewn digon o amgylchiadau eraill. Nid yw'r oslef ddiystyriol a ddefnyddiodd y Gweinidog i ddiystyru’r pryderon hyn yr wythnos diwethaf yn ennyn hyder ynof y caiff pethau eu hunioni. Wedi'r cyfan, craidd y broblem yma yw bod pobl, menywod dosbarth gweithiol yn bennaf, wedi cael eu diystyru, a dyma'r Gweinidog iechyd yn gwneud hynny wedyn. Ond nid yw dwyn y Gweinidog i gyfrif yn golygu na ddylai'r rhai sy'n gyfrifol yn y bwrdd iechyd gael eu dwyn i gyfrif hefyd—wrth gwrs y dylent—a hyd at yr wythnos diwethaf, roedd cwestiynau'n codi ynglŷn â'u gweithredoedd.
Ym mis Hydref y llynedd, cyn comisiynu'r adolygiad allanol, dywedodd llefarydd ar ran Cwm Taf wrth y cyfryngau fod eu hadolygiad mewnol yn ymarfer rheolaidd ynglŷn ag a ddylid gwneud pethau'n wahanol. Ar yr un pryd, roedd gan y bwrdd iechyd adroddiad mewnol yn ei feddiant a oedd yn dweud bod pethau'n llawer gwaeth. Ble mae'r tryloywder yma? Roedd cuddio'r adroddiad hwnnw yn ein camarwain: tystiolaeth fod gan y bwrdd fwy o ddiddordeb mewn amddiffyn ei enw da na chywiro'r problemau o fewn y gwasanaeth. Mae'n dal i fod yn anghyfiawnder difrifol, yn fy marn i, y gellir diswyddo meddygon, nyrsys a bydwragedd ac y gallant wynebu ymchwiliadau troseddol—yn briodol, wrth gwrs—am fethiannau ym maes gofal cleifion, ond nid oes yr un rheolwr hyd y gwyddom wedi wynebu sancsiynau cyfatebol erioed. Nid yw hynny'n iawn ac mae'n nodweddiadol o'r diwylliant seiliedig ar ddosbarth sy'n heintio bywyd cyhoeddus. Mae prif weithredwyr ein byrddau iechyd yn cael llawer mwy o gyflog na'r Prif Weinidog, ac nid ydynt yn wynebu atebolrwydd cyfatebol, er bod pawb ohonom yn gwybod, pe bai gweithiwr ar gyflog isel neu ar raddfa isel yn gwneud rhywbeth a fyddai chwarter mor ddifrifol yn eu gweithle, byddent yn wynebu canlyniad hollol wahanol.
Nid yw'r Gweinidog ei hun wedi cydnabod mai ef sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ef sy'n gyfrifol; mae'r cyfrifoldeb i fod arno ef, ond hyd yma, nid yw hyn wedi golygu fawr ddim. Ond yma heddiw, gallwn o leiaf anfon neges y gellir diswyddo Gweinidogion. Wedi'r cyfan, mae hwn yn fater mwy o faint na'r diswyddiadau diweddar yn San Steffan. Ymddiswyddodd Liam Fox am wahodd cyn gynghorydd arbennig dramor i gyfarfodydd. Fe wnaeth Amber Rudd gamarwain pwyllgor, a'r honiad yw bod Gavin Williamson wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol. Nawr, buaswn yn dadlau bod methiannau gwasanaethau a arweiniodd at yr adroddiad damniol hwn yr wythnos diwethaf yn llawer mwy difrifol na'r materion a arweiniodd at ymddiswyddiad y Gweinidogion yn San Steffan.
Beth am gyferbynnu ymddygiad y Gweinidog iechyd yma dros yr wythnos ddiwethaf â'r gweinidog iechyd blaenorol yn Tunisia. Ym mis Mawrth eleni, bu farw 11 o fabanod yn drasig mewn ysbyty yn Tunis, yn dilyn achosion o haint a briodolwyd i arferion gwael ar y ward. Gweithredodd y gweinidog iechyd yn Tunisia yn ôl ei gydwybod, cymerodd gyfrifoldeb ac ymddiswyddodd, er mai dim ond ers pedwar mis y bu yn y swydd. Rwy'n bendant iawn ei bod hi'n bryd i ni arfer yr un safonau o atebolrwydd a chyfrifoldeb yma.