– Senedd Cymru ar 8 Mai 2019.
Mae hynny'n dod â ni at ddadl UKIP ar weithio gartef, a dwi'n galw ar Gareth Bennett i wneud y cynnig. Gareth Bennett.
Cynnig NDM7045 Gareth Bennett
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai 2019.
2. Yn credu bod gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro gan ddiffyg mynediad at fand eang.
Diolch, Lywydd. [Torri ar draws.]
Dechreuwch.
Diolch. Diolch eto, Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud â gweithio gartref, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod y pwnc yn un diddorol ac yn haeddu rhywfaint o amser i'w archwilio yn y Siambr. Rydym ni yn UKIP yn meddwl, yn gyffredinol, fod caniatáu i fwy o weithwyr weithio gartref yn amcan da, cyn belled, wrth gwrs, â mai dyna y mae'r gweithwyr eu hunain eisiau ei wneud. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar y dulliau sydd gennym yma yn y Cynulliad i weld beth y gallwn ei wneud i hyrwyddo lefel uwch o weithio gartref yng Nghymru.
Yn ei hanfod, dyna yw pwrpas y cynnig heddiw. Nid yw'n bwnc arbennig o bleidiol sy'n galw am rannu pobl ar hyd llinellau pleidiau. Mae'r cynnig heddiw yn ymwneud mwy â cheisio dod o hyd i gonsensws rhwng y gwahanol bleidiau yma, fel rydym ni yn UKIP bob amser yn ceisio ei wneud wrth gwrs. Felly, rwy'n ystyried y gwelliannau heddiw gan gadw hynny mewn cof.
Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn cytuno'n fras â'n hamcanion. Nid yw eu gwelliannau ond yn dileu rhan o un o'n pedwar pwynt. Fodd bynnag, er bod cymaint â hynny'n wir, mae'n dileu ein hawydd am strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru ar weithio gartref o fewn y prosiect i olynu Superfast Cymru. Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru yn y pen draw ymrwymo i fanylion os ydym am gyrraedd unman gyda'r genhadaeth hon. Felly, nid ydym yn cytuno â'r gwelliant hwn, er ein bod yn cydnabod mai dyna'r unig ran y mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w newid. Nid ydynt yn dweud 'dileu popeth' yn ein cynnig y tro hwn. Felly, mae hynny fach yn addawol.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn nodi'r pwynt y gall fod anfanteision i weithio gartref. Nid wyf yn gwadu na fydd gweithio gartref yn gweithio i bawb o reidrwydd. Felly, nid y nod yw gwthio pobl i weithio gartref yn erbyn eu hewyllys, ond yn hytrach ei gwneud yn haws i'r bobl y byddai'n well ganddynt weithio gartref i allu gwneud hynny. Mewn gwirionedd, mae'r pwynt a ddyfynnir yng ngwelliant y Ceidwadwyr yn deillio o un rhan o adroddiad sydd, ar y cyfan, yn ffafriol i'r syniad o weithio gartref. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio nad ydym am wthio pobl i wneud rhywbeth nad ydynt am ei wneud. Felly, rydym yn derbyn rhesymeg y gwelliant a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw.
Y sbardun y tu ôl i'r cynnig heddiw yw technoleg newydd a'r newidiadau yn ein ffordd o fyw y gallai technoleg newydd eu galluogi. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU wedi cael ei llethu gan brosiect trafnidiaeth drud iawn—rwy'n cyfeirio at HS2—sydd wedi bod yn hynod o ddadleuol ac a fu'n faen melin am wddf Llywodraeth San Steffan am bron yr holl amser y bu mewn grym. Yn ddiddorol, er ein bod bron â bod wedi anghofio hyn yn awr o bosibl, syniad gwreiddiol y Llywodraeth Lafur ddiwethaf oedd HS2 mewn gwirionedd. Cafodd ei gynnig yn gyntaf yn 2009 pan oedd Gordon Brown yn dal yn ei swydd. Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu dryswch tebyg ynglŷn â ffordd liniaru'r M4. Mae'r cynllun hwn hefyd wedi gweld costau cynyddol, a fydd yn anochel yn atal gwariant mewn meysydd eraill os bydd y prosiect yn cael ei gymeradwyo mewn gwirionedd.
Y rheswm pam y soniaf am y cynlluniau trafnidiaeth hyn yw y gallent fod bron yn ddiangen mewn ffordd. Rwy'n gwybod bod hynny'n swnio'n rhyfedd pan fo gennym gymaint o draffig yn llenwi'r ffyrdd, ond y pwynt i'w gadw mewn cof yw bod buddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd, mewn rhai ffyrdd, yn gyfystyr â buddsoddi mewn hen dechnoleg. Mae'n fuddsoddiad sy'n seiliedig ar syniad y bydd angen am byth i filiynau lawer o bobl deithio'n ffisegol o un lle i'r llall yn ddyddiol er mwyn gwneud eu gwaith.
Pan feddyliwch am y peth, pe baem yn datblygu rhwydwaith band eang cyflym a dibynadwy ledled y DU, ni fyddai angen i gynifer o bobl deithio ar drenau neu geir neu hyd yn oed ar fysiau. Ni fyddai angen i gymaint o bobl deithio i swyddfa bob dydd pe bai modd iddynt wneud yr holl waith y byddent yn ei wneud yn y swyddfa yr un mor hawdd gartref. Rhaid cyfaddef na fydd gweithio gartref, wrth gwrs, yn effeithio fawr ddim ar y sector gweithgynhyrchu, y sector prosesu neu'r sector amaethyddol. Ond wrth gwrs, mae swyddi gweinyddol wedi dod yn rhan fawr o'r economi a gallai gweithio gartref effeithio'n fawr ar y sector hwnnw. Os oes angen cyswllt rhwng y cyflogai a'r rheolwr neu'r rheolwr canol, gellir hwyluso hyn dros y ffôn y dyddiau hyn, gan gynnwys drwy alwad gynadledda neu drwy Skype, drwy e-bost gan gynnwys drwy gadwyni e-bost sy'n cynnwys llawer o bobl, a dulliau eraill o negeseua electronig.
Nid wyf yn awgrymu y gall pob gweithiwr swyddfa weithio gartref drwy'r amser, ond os gallwn leihau nifer y bobl sy'n teithio i'r gwaith bob dydd, byddai hynny'n helpu i leddfu'r pwysau ar rwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, efallai nad oes llawer o gymhelliant i gwmnïau symud tuag at fwy o weithio gartref. I benaethiaid cwmnïau, gellid ystyried bod cyflwyno mwy o weithio gartref yn niwsans. Dyna pam y mae'n rhaid i ni feddwl am ddefnyddio cymhellion treth a/neu brosesau cytundebol i geisio cael cwmnïau i feddwl mwy ar hyd y llinellau hyn.
Rwyf wedi holi Llywodraeth Cymru beth yn union y mae'n ei wneud i annog mwy o weithio gartref. Rwyf wedi gofyn dau gwestiwn i'r Prif Weinidog ar y pwnc hwn, er enghraifft. Er eu bod yn cytuno'n fras â'r nodau, mae'r atebion a gefais hyd yn hyn braidd yn amwys ynglŷn â'r manylion. Rydym yn sylweddoli yn UKIP fod prosiect mawr yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd a chyflymder band eang ledled Cymru, ac yn amlwg bydd y prosiect hwnnw'n effeithio'n fawr ar ba mor bell y gallwn esgor ar oes o fwy o weithio gartref. Felly, rydym yn cydnabod hynny. Ond o ran cynlluniau penodol sy'n cymell cwmnïau yng Nghymru i gyflwyno neu ymestyn gweithio gartref, nid wyf wedi gallu dod o hyd i rai. Wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb yn ymateb y Gweinidog heddiw ac os wyf wedi methu gwaith pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol yn y maes hwn, byddaf yn bendant yn syrthio ar fy mai. Ond yn sicr, nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw waith penodol gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Gwn fod yna raglen datblygu busnesau ar gael, sy'n ceisio tynnu sylw busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru at fanteision defnyddio cysylltedd band eang gwell pan fydd yn bodoli yn eu hardal, a cheir gwaith academaidd diweddar sydd hefyd yn amlygu manteision masnachol gwneud hynny. Ceir cysylltiad hefyd â'r gwaith a wneir gan y Comisiwn Gwaith Teg, gyda rhan ohono'n ceisio annog cwmnïau i feddwl am allbynnau yn hytrach na'r oriau a weithir. Mae hwn yn ddull arall a allai helpu cwmnïau i feddwl am fwy o weithio gartref, er nad yw'r naill ongl na'r llall yn ymwneud yn benodol ag union fater gweithio gartref.
Felly, a oes pethau eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud? Yn y gorffennol, dywedwyd wrthym y byddent yn hwyluso'r broses o benodi cydlynwyr cynlluniau teithio, a oedd i fod i weithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i annog teithio cynaliadwy, a byddent yn annog pethau fel rhannu ceir, ond hefyd, yn fwy at y pwynt ar gyfer y cynnig heddiw, fideogynadledda a gweithio gartref. Serch hynny, cefais drafferth dod o hyd i lawer o wybodaeth am y cydlynwyr cynlluniau teithio hyn, ac efallai ei fod yn syniad sydd mewn perygl o lithro drwy'r craciau.
Yn y cynnig heddiw, gofynnwn am fesurau penodol, megis galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i gynnwys gweithio gartref yn y gwaith o gynllunio swyddi a sut y caiff y swyddi hynny eu hysbysebu a sut y caiff pobl eu recriwtio. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect i olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu llyffetheirio gan ddiffyg mynediad at fand eang.
Soniais am y manteision i'r system drafnidiaeth o annog mwy o weithio gartref, ac nid dyna'r unig fantais, o bosibl. Mae'n ffaith hefyd mai un o'r problemau sy'n effeithio ar ddiwydiant Prydain yw cynhyrchiant. Os yw pobl yn gweithio mewn amgylchedd sy'n fwy dymunol iddynt, mae'n ddigon posibl y bydd y cynnyrch yn cynyddu, cyn belled, wrth gwrs, â bod y rhai sy'n gweithio gartref wedi'u hyfforddi'n briodol i wneud y gwaith ac yn cael hyfforddiant parhaus. Mae manteision hefyd i'r rheini sydd â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill, sy'n tueddu i fod yn fwy tebygol o fod yn fenywod, a hefyd rhai ag anableddau corfforol o gyflwyno amgylchedd gwaith yng Nghymru sy'n fwy parod i dderbyn gweithio gartref.
Mae'r pwyntiau hyn wedi'u gwneud hefyd gan ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O'Grady. Nododd ym mis Mai 2018 mai dim ond 1.6 miliwn oedd nifer y bobl a weithiodd yn rheolaidd o gartref yn y DU yn y flwyddyn flaenorol, ffigur a oedd wedi aros yr un fath ers y flwyddyn cynt. Nododd ddau reswm pam y mae gweithio gartref wedi arafu. Un oedd cyflymder band eang hynod amrywiol y DU, y llall oedd bod gormod o reolwyr llinell yn dal i gredu na ellir ymddiried mewn gweithwyr heb eu goruchwylio'n gyson. Felly, mae yna frwydr ddiwylliannol i'w hennill o ran yr ail bwynt.
I ryw raddau, mae angen i bobl sy'n gweithio ym maes rheoli gael eu hargyhoeddi o fanteision gweithio gartref. Fodd bynnag, yn ddiddorol, mae 12 y cant o reolwyr yn gweithio gartref yn barhaol, ond tua 2 y cant yn unig o gyflogeion sy'n gwneud hynny. Ystadegyn trawiadol arall yw mai 6 y cant yn unig o weinyddwyr sy'n gweithio gartref yn y DU er y gellid yn hawdd gyflawni llawer o'u tasgau o bell y dyddiau hyn. Felly, ledled y DU, mae'n amlwg fod llawer o waith i'w wneud ar y mater hwn. Efallai y gallwn geisio arwain y ffordd ar hynny yma yng Nghymru.
Diolch. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith, gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi gynnig gwelliant 2 yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar?
Byddwch yn sylwi nad ydym wedi dileu unrhyw ran o gynnig UKIP. Cytunwn gyda chynnig UKIP fel y mae wedi cael ei osod. A chredaf fod consensws cyffredinol ynghylch yr hawl i ofyn am weithio hyblyg, a gefnogir i raddau helaeth, rwy'n credu, gan y gymuned fusnes hefyd. Amcan ein gwelliant i'r cynnig hwn heddiw yw sicrhau nad yw'r ddadl ond yn rhoi darlun cwbl gadarnhaol yn unig, ond ei bod hefyd yn cydnabod goblygiadau posibl trefniadau gweithio hyblyg, yn enwedig gweithio gartref, a all arwain o bosibl at straen galwedigaethol i rai pobl a gwrthdaro posibl â chydweithwyr nad ydynt yn cael yr un hyblygrwydd.
Dangoswyd hyn gan ymchwil gan yr Athro Clarke a Dr Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion yn eu hadroddiad ar hyblygrwydd yn y gweithle. Felly, mae'n sicr yn bwysig, rwy'n credu, fod y ddadl hon ac unrhyw bolisïau a wneir yn y maes hwn yn y dyfodol yn ystyried y goblygiadau posibl hyn, yn ogystal â'r manteision niferus posibl y tynnodd Gareth Bennett sylw atynt. Ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o sylwadau Gareth Bennett yn ei anerchiad agoriadol heddiw, yn enwedig y materion cysylltedd y mae'n tynnu sylw atynt, sydd wrth gwrs yn rhwystr i weithio gartref mewn sawl rhan o Gymru. Efallai y buaswn yn annog yr Aelodau ar ôl y cyfnod pleidleisio i aros yn y Siambr i wrando ar ddadl fer fy nghyd-Aelod Paul Davies yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Mae adolygiad Taylor 2017 o arferion gwaith modern yn nodi, ac rwy'n dyfynnu yma,
Mae hyblygrwydd yn y farchnad lafur yn bwysig a rhaid ei gadw er mwyn cadw cyfraddau cyfranogiad yn uchel.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf i sicrhau nad yw'r gwrthwynebiad i gontractau achlysurol gan rai yn y Siambr hon yn arwain yn anfwriadol at gyfyngu ar hyblygrwydd gweithwyr, gan atal cyflogwyr rhag cynnig patrymau gwaith sy'n gweddu i'w hamgylchiadau ac sy'n ateb galw cwsmeriaid ar adegau prysur, ac yn ei dro, yn atal gweithwyr rhag gallu gweithio mewn ffordd sy'n gweddu iddynt hwy.
Dylid cydnabod, wrth gwrs, fod 'Good Work Plan' Llywodraeth y DU yn nodi ymrwymiad i sicrhau y gall pob gweithiwr sicrhau gwaith teg a gweddus. Unwaith eto, hoffwn dynnu sylw at y ffaith ein bod ni ar y meinciau hyn yn cytuno â'r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP heddiw, a gobeithiwn fod ein gwelliant wedi ychwanegu at y ddadl hon mewn modd adeiladol.
Gall gweithio gartref o dan rai amgylchiadau fod yn werthfawr iawn i'r cyflogwr a'r gweithiwr, ond nid wyf yn gweld y manteision a honnir yn y cynnig hwn. Yn amlwg mae'n rhaid ystyried gweithio gartref yn ofalus ac nid ei orfodi ar gyflogwyr na chyflogeion, boed yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus, ond nid yw gweithio gartref yn ymarferol o gwbl mewn llawer o swyddi, yn enwedig yn y sector cyhoeddus lle mae swyddi'n fwy tebygol o alw am gysylltiad uniongyrchol â'r cyhoedd. Roedd Gareth yn sôn am weithwyr gweinyddol. Nid wyf yn gweld sut y byddai eich clerc gweinyddol arferol yn gallu gweithio gartref yn effeithiol. Mae'r rolau hyn yn tueddu i ddibynnu ar fewnbwn ac allbwn o ryw fath o ddogfennaeth copi caled, felly nid wyf yn gweld sut y byddai'n gweithio i lawer iawn o ddosbarthiadau o staff, hyd yn oed y rhai sydd fel rheol wedi'u lleoli mewn swyddfa. Unwaith eto, gyda'r sector cyhoeddus, mae'r swyddi hynny'n tueddu i ddod i gysylltiad mwy uniongyrchol â'r cyhoedd, felly unwaith eto, nid wyf yn gweld sut y mae'n ymarferol.
Mae'r cynnig yn amheus ar sawl ystyr yn fy marn i. Rwy'n meddwl i ddechrau ei fod yn cyfuno gweithio gartref gyda gweithio hyblyg. Pan fyddaf yn sôn am weithio gartref, rwy'n golygu gweithio gartref yn ystod eich oriau arferol yn hytrach na gweithio mewn man canolog. Nid yw o reidrwydd yn golygu cwtogi neu ad-drefnu oriau gwaith yn effeithiol er mwyn sicrhau cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith. Nid yw gweithio gartref ynddo'i hun o reidrwydd yn cynnig hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol ychwaith, er ei fod yn anochel yn golygu bod y gwaith yn hygyrch i'r teulu yn y cartref, a allai, yn eironig, gynyddu'r straen o weithio gartref, oherwydd eich bod yn gorfod jyglo pethau teuluol a phethau gwaith tra'n ceisio cynnal perthynas gyda'ch tîm.
Fel y mae gwelliant Darren Millar yn ei ddweud yn glir, mae pryder dilys y gall gweithio gartref ychwanegu at lefelau straen yn hytrach na bod o gymorth, ac rwyf wedi sôn am un rheswm pam y gallai hynny fod. Ond yn y pen draw, mae pobl yn anifeiliaid cymdeithasol ac nid ydynt wedi'u cynllunio ar gyfer byw ar eu pen eu hunain. Mae gan dimau iach ymdeimlad o gyfeillgarwch ac maent yn darparu cymorth pan fydd gweithiwr yn wynebu anhawster gyda'i waith. Ac unwaith eto, mae sicrhau cydbwysedd gwaith iach yn anos mewn gwirionedd i rai sy'n gweithio gartref am nad ydynt yn cael y toriad seicolegol o'r gwaith a ddaw o adael y gweithle ar ddiwedd y dydd, neu hyd yn oed os ydych yn mynd â'ch gwaith adref gyda chi, rydych yn dal i fod ar ryw adeg yn ei roi i gadw a dyna ni—dyna yw eich toriad seicolegol ar gyfer y diwrnod hwnnw. Nid oes gan rai sy'n gweithio gartref y math hwnnw o doriad, oherwydd bod eu gwaith yn eu cartref mewn gwirionedd; mae'n anos iddynt ddianc oddi wrtho.
O ran mynediad cynyddol i bobl anabl, ofnaf y byddai'r cynnig yn galluogi cyflogwyr i osgoi cadw at gyfreithiau cydraddoldeb anabledd. Dylai sefydliadau fod yn gwneud eu gweithleoedd yn hygyrch i bawb eisoes, nid cael cyfle i osgoi gwneud hynny drwy gynnig gweithio gartref fel ffordd o arbed y gost a'r ymdrech. Ac nid yw lleihau llygredd drwy ddefnyddio gweithio gartref mor amlwg ag y gallai ymddangos ar yr olwg gyntaf. Bydd yn rhaid i rai sy'n gweithio gartref wresogi eu cartrefi am amser ychwanegol, bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio trydan ychwanegol; daw hynny oddi ar eu biliau cyfleustodau hwy, nid biliau'r cyflogwyr, a'r cyflogwyr fyddai'n talu'r costau hynny fel rheol. Nid wyf yn credu ei bod hi'n iawn trosglwyddo costau a fyddai fel arfer yn cael eu talu gan y cyflogwr i weithwyr. Felly, buaswn yn dadlau bod hynny'n sicr yn rheswm pam na fyddai'n arbennig o boblogaidd gyda gweithwyr.
Felly bydd gweithio gartref, wrth gwrs, yn cael gwared ar y cymudo a'r llygredd sy'n deillio o hynny ar y diwrnodau y mae'r gweithiwr yn gweithio gartref, ond bydd y llygredd sy'n cael ei greu wrth ddyblygu adnoddau a fyddai fel arall yn cael eu rhannu yn y gweithle, megis cyfarpar, gwres, goleuo ac ati yn mwy na gwrthbwyso'r toriad yn y llygredd. Hefyd, byddwch yn cael offer ychwanegol yn y swyddfa, offer ychwanegol yn y cartref. Mae'n llawer mwy cymhleth nag y credaf fod grŵp UKIP yn ei feddwl. Efallai y gallai fod yr un mor hawdd inni leihau tagfeydd oriau brig drwy ddarbwyllo cyflogwyr i drefnu eu horiau gweithredu ar adegau gwahanol, fel nad yw ystadau diwydiannol cyfan yn gollwng pawb ar yr un ffyrdd ar yr un pryd. Ond mae'n rhaid i chi gael cyflogwyr i gydweithredu â hynny.
Ac ar sail cost ac ymarferoldeb, nid wyf yn credu bod unrhyw rinwedd mewn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn cynnwys trefniadau gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio. Am lawer o'r amser, bydd yn ymarfer gwastraffus. Bydd yn mynd ag amser ac arian oddi wrth y sefydliad y gellid eu defnyddio i gyflawni eu swyddogaeth graidd yn well. Ac fel y dywedais, nid yw llawer o swyddi'n addas ar gyfer gweithio gartref. Wrth i unrhyw achos busnes ar gyfer gweithio gartref dyfu, rwy'n siŵr y bydd cyflogwyr—y cyflogwyr rhesymol, hynny yw—yn ystyried ei ddarparu fel rhan o'r pecyn recriwtio heb i Gareth roi'r syniad iddynt. Nid yw'r achos dros weld y Llywodraeth yn datblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect a fydd yn olynu Superfast Cymru wedi'i wneud yn argyhoeddiadol, ac rwy'n meddwl bod gwelliant Rebecca Evans yn gwneud llawer o synnwyr. Fodd bynnag, ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw, wedi'i ddiwygio nac fel arall. Credaf fod perygl y bydd yn gorlwytho cyrff cyhoeddus, heb sicrhau'r manteision y mae'n eu honni, ac nid wyf ychwaith yn credu ei fod yn flaenoriaeth i bobl yng Nghymru. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, fel y dywedais yn ystod fy natganiad ar waith teg ddoe, rydym am i Gymru fod yn fan lle gall pawb gael gafael ar waith sy'n weddus ac yn gwella bywyd, yn rhydd o gamfanteisio a thlodi a lle caiff pobl gyfle i ddatblygu eu sgiliau ac i symud ymlaen. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau twf economaidd cynhwysol yng Nghymru. Rydym am gael busnesau llewyrchus, gyda gweithwyr yn elwa drwy gyflogaeth deg a sicr ar gyflog da.
Mae partneriaeth gymdeithasol yn darparu mecanwaith i helpu i gyflawni'r amcan hwn. Drwy gynnwys y Llywodraeth, undebau a busnesau mewn penderfyniadau sy'n helpu i lunio'r amgylchedd gwaith ar lefel leol a chenedlaethol, gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau economi decach. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i amcanion partneriaeth gymdeithasol. Gan weithio law yn llaw â'r undebau llafur, rydym wedi arwain yn y DU, gan hyrwyddo pwysigrwydd sicrwydd swydd, cyflog ac amodau gwaith gweddus. Mae'r heriau a wynebwn yn golygu bod yn rhaid i ni gryfhau ein model partneriaeth gymdeithasol ymhellach, gan roi lle canolog i gydraddoldeb. Rydym wedi ymrwymo i ddeddfu, felly, i roi partneriaeth gymdeithasol ar y sail statudol honno a drafodwyd gennym ddoe ddiwethaf yn ystod fy natganiad.
Ar y cyd â'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gweithio hyblyg ac arferion cyflogaeth deg eraill, gan wneud hyn drwy ein contract economaidd, y cynllun cyflogadwyedd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi er enghraifft. Mae gwefan Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth i gyflogwyr ar sut i wella cynhyrchiant drwy drefniadau gweithio hyblyg, a sefydlwyd y Comisiwn Gwaith Teg i'n cynghori ar beth arall y gallwn ei wneud. Mae wedi cwblhau ei waith ac fel y dywedais ddoe yn ystod fy natganiad, mae'r adroddiad wedi'i gyhoeddi a byddwn yn ymateb cyn bo hir.
Roedd galwad y Comisiwn Gwaith Teg am dystiolaeth yn rhoi cyfle gwych i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, y sector preifat ac unigolion ledled Cymru hyrwyddo a darparu safbwyntiau ar waith teg, gan gynnwys arferion gwaith hyblyg, ac fel y nododd Russell George, mae'n bwysig iawn cydbwyso'r hyn sy'n iawn i unigolion yn ogystal â chyflogwyr a busnesau. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod lles gweithwyr yn hollbwysig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau arferion gweithio teg a moesegol, tra'n amddiffyn hawliau a chyfrifoldebau unigolion a gyflogir hefyd. Mae ein contract economaidd, sydd wedi'i nodi yn ein cynllun gweithredu economaidd, yn cyflwyno ein cyfle i gynnal deialog gyda chyflogwyr ar faterion sydd â'r potensial i gefnogi unigolion yn ogystal â'u busnesau. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n ceisio cymorth ariannol uniongyrchol ymrwymo i ystod o feini prawf, gan gynnwys gwaith teg a hybu iechyd, uwchsgilio a dysgu yn y gweithle, ac mae hynny'n cynnwys hyrwyddo arferion gweithio hyblyg—neu fodern, fel y'u gelwir mewn gwirionedd. Bydd angen i bob cwmni sy'n gwneud cais am gymorth grant busnes uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ddangos ei fod wedi ymrwymo i waith teg ac i hybu iechyd yn y gweithle—ac wrth ddweud gweithle, wrth gwrs, rwyf hefyd yn golygu cartrefi pobl, os mai dyna, yn rhannol, yw eu gweithle.
Rydym hefyd yn cydnabod nad oes digon o bobl anabl mewn gwaith. Nod yr ymrwymiadau yn ein cynllun cyflogadwyedd yw mynd i'r afael â hyn. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r materion sy'n sail i hyn, gan gynnwys agweddau cyflogwyr, cynllun swyddi ac arferion gweithio. Rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd a goresgyn y rhwystrau niferus ac amrywiol y gall cymdeithas eu rhoi yn ffordd pobl anabl er mwyn iddynt allu dilyn eu dyheadau gyrfaol. Gwyddom nad oes ateb cyflym ac mae angen gweithredu i oresgyn rhwystrau fel trafnidiaeth, agweddau cyflogwyr ac mewn rhai achosion, arferion cyflogaeth, a all wahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anfwriadol yn erbyn pobl ag anableddau. Gwyddom hefyd, fodd bynnag, fod llawer o gyflogwyr yn gosod esiampl a gall eraill ddysgu llawer am eu harferion da.
O fewn Llywodraeth Cymru, mae swyddogion wedi sefydlu gweithgor cydraddoldeb ar gyfer ein cynllun cyflogadwyedd. Blaenoriaeth gyntaf y grŵp yw edrych ar anabledd a chyflogaeth a goruchwylio gweithgareddau sy'n cefnogi ein hymrwymiadau i leihau'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl. Rydym yn cydnabod y bydd strwythurau a diwylliant ehangach gweithleoedd yn effeithio'n uniongyrchol ar gyflogadwyedd pobl anabl, ac yn y cynllun cyflogadwyedd rydym yn ymrwymo i gynyddu nifer y cyflogwyr sy'n rhoi pwyslais ar greu gweithleoedd sy'n amgylcheddau cynhwysol a chefnogol, neu'n 'hyderus o ran anabledd', fel rydym yn hoff o'u galw.
Rydym yn herio cyflogwyr i feddwl yn greadigol am y modd y maent yn cynllunio swyddi ac yn recriwtio'r bobl i'w llenwi, ac os caf ddweud hefyd, mae hynny'n cynnwys llawer o'r safbwyntiau a glywsom yma heddiw mewn gwirionedd. Yr hyn yr ydym am ei weld yw cyflogwyr sydd wedi'u grymuso i edrych ar allbwn eu gweithwyr ac nid lle maent yn gweithio na'r oriau y maent yn eu gweithio. Felly, gall gweithiwr sy'n gallu cynhyrchu'r allbynnau angenrheidiol, wneud y gwaith yn dda, ac os byddant yn gwneud y gwaith hwnnw o'r cartref neu yn y gwaith neu gyfuniad o'r ddau, ni ddylai hynny wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU drwy ei huned gwaith ac iechyd a'r Adran Gwaith a Phensiynau i gysylltu â'r gwaith o gyflawni eu targed ar draws y DU i gael mwy nag 1 filiwn yn rhagor o bobl anabl i mewn i waith erbyn 2027. Rydym yn bendant am weld mwy o ganlyniadau cadarnhaol yn cael eu cyflwyno i fwy o bobl anabl ac i'r rheini sydd â chyflyrau iechyd cyfyngus ledled Cymru. I'r perwyl hwnnw, mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gael rhwydwaith hyrwyddwyr cyflogaeth i bobl anabl. Y rôl fydd gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i helpu i gydnabod talentau pobl anabl ac annog arferion recriwtio cynhwysol. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweithio gyda'r sector anabledd, cyflogwyr a rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn sefydlu ymagwedd gynhwysol yn y broses recriwtio a chyflogi. Ond dylem gofio hefyd, fel y mae amryw o bobl wedi ei nodi, nad yw pawb am weithio gartref ac mae angen datblygu gweithleoedd cwbl gynhwysol i'r rheini sy'n dymuno gweithio mewn gweithle.
Gan droi at brosiect olynol Superfast Cymru a band eang, rwy'n cytuno'n llwyr, lle bo hynny'n bosibl ac yn ddymunol, y dylem sicrhau bod y dechnoleg yn ei lle i alluogi hyn. Mae Superfast Cymru—hoffwn atgoffa pawb—wedi newid tirwedd band eang Cymru yn sylfaenol, gan ddod â band eang cyflym iawn i ardaloedd o Gymru na fyddent byth wedi cael eu cysylltu heb y prosiect. Mae angen inni gydnabod cyflawniad sylweddol y prosiect peirianneg mawr hwn, ac o ganlyniad iddo, mae cartrefi a busnesau ar hyd a lled Cymru'n mwynhau manteision y buddsoddiad a'r mynediad at wasanaethau digidol. Gall y mwyafrif helaeth o safleoedd yng Nghymru ddefnyddio'r gwasanaeth band eang cyflym iawn o'i gymharu â phrin hanner bum mlynedd yn ôl. Yn yr ardaloedd hynny, mae busnesau ac unigolion yn mwynhau'r manteision a ddaw yn sgil band eang cyflym erbyn hyn, gan gynnwys y gallu i weithio gartref neu'n fwy hyblyg neu ar sail allbwn. Fodd bynnag, bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod mwy i'w wneud i gyrraedd gweddill y safleoedd nad ydynt eto'n gallu manteisio ar fand eang cyflym. O ystyried maint y dasg o ddarparu band eang cyflym, dibynadwy i'r safleoedd na allant gael mynediad iddo ar hyn o bryd, bydd angen amrywiaeth o ymyriadau arnom yn y dyfodol, a dyna pam y mae ein gwelliant yn dileu un linell yn benodol, a hynny ddim ond am ein bod am gael ystod o ymyriadau, nid y rhaglen olynol yn unig. Gan nad oes un ateb sy'n addas i bawb, mae angen i ni sicrhau bod yr ymyriadau hyn yn ategu ei gilydd, yn ymdrin â'r angen sy'n weddill am fand eang cyflym, ac yn adlewyrchu'r galw lleol am wasanaethau. Mae tair elfen i'n dull o weithredu: cymorth unigol drwy ein cynlluniau talebau, cymorth i gymunedau drwy ein cynlluniau talebau ac ymyriadau a arweinir gan y gymuned, a rhaglenni cyflwyno wedi'u hariannu'n gyhoeddus drwy'r prosiect sy'n olynu Superfast Cymru. Felly, mae'r prosiect olynol yn llenwi un rhan o'r gyfres honno o ymyriadau, fel y dywedais.
Bydd 26,000 safle cychwynnol yn cael eu darparu drwy fynediad at fand eang cyflym, dibynadwy erbyn Mawrth 2021, ar gost o bron i £22.5 miliwn i'r pwrs cyhoeddus, ond rydym hefyd yn ymchwilio gyda BT a ellir ychwanegu safleoedd at y prosiect hwnnw yn y dyfodol. Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddarparu cymorth unigol i'r safleoedd nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym drwy barhau â'r cynllun Allwedd Band Eang Cymru. Fe wnaethom gyhoeddi yn gynharach eleni hefyd ein bod wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU i ddarparu arian ychwanegol ar gyfer safleoedd yng Nghymru drwy gynllun talebau band eang gigabit Llywodraeth y DU, ac ar gyfer prosiectau grŵp, y bydd Llywodraeth Cymru yn talu hyd at £3,000 ychwanegol i bob busnes bach a chanolig a £300 ychwanegol fesul eiddo preswyl. Golyga hyn fod hyd at £5,500 ar gael i bob busnes ar gyfer prosiectau grŵp yng Nghymru, a bod hyd at £800 ar gael ar gyfer pob eiddo preswyl.
Yn ogystal â'n hymyriadau, mae Llywodraeth y DU hefyd yn dyfeisio rhaglen newydd i fynd i'r afael â safleoedd gwledig a gwledig iawn. Ac o gofio'r heriau sylweddol sy'n codi yn sgil daearyddiaeth Cymru, mae'n hanfodol fod Cymru'n elwa o'r cyfleoedd newydd hynny.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i bawb sy'n gweithio yng Nghymru. Rydym yn cytuno â'r cynnig at ei gilydd, ond ceir mân welliant am reswm technegol, ond heblaw am hynny, rwy'n falch o ddweud ei bod yn ymddangos bod yna gonsensws fod pawb yma wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i bawb sy'n gweithio yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gareth Bennett i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r rhai a gymerodd ran yn yr hyn a fu'n ddadl ddiddorol. Diolch i Russell George, a ddywedodd fod y grŵp Ceidwadol at ei gilydd yn cefnogi amcanion y cynnig heddiw. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, roeddwn yn deall rhesymeg eu gwelliannau ac roeddem yn cefnogi eu gwelliannau. Nawr, fe wnaeth Russell godi rhai o'r anawsterau posibl o weithio gartref y dylem fod yn ymwybodol ohonynt. Roeddent yn bwyntiau a godwyd hefyd gan Michelle, ac yn fwy gwenieithus yn achos Michelle, buaswn yn ei ddweud; yn sicr, nid oedd hi mor frwdfrydig.
Nawr, rhaid inni sylweddoli bod yna anfanteision posibl, wrth gwrs. Mae'r problemau a grybwyllwyd, hyd yn oed gan y rhai a oedd yn cefnogi mwy o weithio gartref, wedi cynnwys arwahanrwydd cymdeithasol posibl a diffyg cyfeillgarwch gweithwyr a theimlo allan ohoni. Roedd gwrthdaro â gweithwyr eraill yn bwynt a gododd Russell yn benodol, a Michelle hefyd—wel, fe soniodd hi am nifer o bethau. Nawr, mae'r rhain i gyd yn faterion dilys iawn, ac mae'n rhaid inni eu hystyried, ond pwynt y cynnig heddiw oedd y dylid galluogi pobl i weithio gartref os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Nid oedd yn golygu bod pobl yn cael eu gorfodi i weithio gartref. Ac fe wneuthum hynny'n glir yn y sylwadau agoriadol a hoffwn ailbwysleisio'r pwyntiau hynny.
Nawr, ymateb y Llywodraeth—diolch i chi am eich cefnogaeth gyffredinol, ac rwy'n derbyn eich bod yn teimlo'r angen i'w newid am y rhesymau a roddodd y Gweinidog. Nawr, rydym yn derbyn bod Superfast Cymru wedi bod yn rhaglen dda. Ceir anawsterau sylweddol gyda daearyddiaeth ffisegol Cymru, ac mae'n debyg mai darparu cyflymder band eang da iawn a chyflymder band eang dibynadwy, wrth gwrs, yw'r mater pwysicaf a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen gyda mwy o weithio gartref. Llawer o bethau cyffredinol gan y Llywodraeth yn ymwneud â chydraddoldeb ac arferion gwaith teg sydd, wrth gwrs, yn amcanion da, ond hoffem fwy o ymrwymiad, os oes modd, i union fanylion gweithio gartref yn y dyfodol. Felly, gobeithio y cawn hynny ac y gallwn fwrw ymlaen â hyn a datblygu mesurau penodol i wella gweithio gartref, ond diolch yn fawr iawn am gymryd rhan.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Rwy'n bwriadu symud ymlaen yn awr i'r cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na. Iawn.