Ynni Llanw yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:30, 14 Mai 2019

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Ac fel rydych chi'n gwybod, mewn cyfarfod o bwyllgor craffu, arnoch chi, y Prif Weinidog, yn ddiweddar, fe wnes i godi fy mhryder bod canolfan brawf cyntaf y byd o ddatblygu deunyddiau ac adeileddau ar gyfer ynni'r llanw yn cael ei hadeiladu yn yr Alban nawr. Mae yna risg ein bod ni yma yng Nghymru yn colli momentwm, felly, o ran gosod ein hunain fel arweinwyr yn y maes. Mae morlyn llanw bae Abertawe yn gyfle i Gymru ddod yn arweinydd byd, ond gyda Llywodraeth Llundain wedi troi ei chefn ar Gymru unwaith eto, mae angen i Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, ddangos arweiniad clir ar hyn. Nawr, gyda gwaith grŵp gorchwyl a gorffen rhanbarth bae Abertawe bellach yn dod i ben, awgrymwyd y gallai fod rhywbeth yn deillio o hynny a fyddai'n edrych am gefnogaeth Llywodraeth Cymru. A allwch ymhelaethu ar drafodaethau diweddar ar y pwynt yma, ac i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cydgynhyrchu yn hyn o beth?