1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mai 2019.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu ynni llanw yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53834
Rydyn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid trwy Gymru, yn enwedig yng Ngorllewin De Cymru, i ddatblygu dyfodol cryf a phositif i’r diwydiant ynni môr tra’n cadw bio-amrywiaeth cyfoethog yn ein moroedd. Mae ynni llanw yn dal i fod yn faes y gallai Cymru arwain y byd ynddo.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Ac fel rydych chi'n gwybod, mewn cyfarfod o bwyllgor craffu, arnoch chi, y Prif Weinidog, yn ddiweddar, fe wnes i godi fy mhryder bod canolfan brawf cyntaf y byd o ddatblygu deunyddiau ac adeileddau ar gyfer ynni'r llanw yn cael ei hadeiladu yn yr Alban nawr. Mae yna risg ein bod ni yma yng Nghymru yn colli momentwm, felly, o ran gosod ein hunain fel arweinwyr yn y maes. Mae morlyn llanw bae Abertawe yn gyfle i Gymru ddod yn arweinydd byd, ond gyda Llywodraeth Llundain wedi troi ei chefn ar Gymru unwaith eto, mae angen i Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, ddangos arweiniad clir ar hyn. Nawr, gyda gwaith grŵp gorchwyl a gorffen rhanbarth bae Abertawe bellach yn dod i ben, awgrymwyd y gallai fod rhywbeth yn deillio o hynny a fyddai'n edrych am gefnogaeth Llywodraeth Cymru. A allwch ymhelaethu ar drafodaethau diweddar ar y pwynt yma, ac i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cydgynhyrchu yn hyn o beth?
Diolch yn fawr i Dai Lloyd am y cwestiwn yna. Dwi'n cofio'r cwestiwn yr oedd e'n codi gyda fi yn y pwyllgor craffu, ac, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i weithio gyda thasglu cyngor y ddinas, ac rydym ni'n edrych ymlaen at dderbyn ei adroddiad pan fydd yn barod. Fel rydym ni wedi bod dros y blynyddoedd nawr, mae Llywodraeth Cymru yn barod i gymryd rhan yn y prosiect, i gynnig, fel rydym ni wedi dweud, cyfrannu tuag at gostau cyfalaf adeiladu morlyn bae Abertawe. Y broblem, Llywydd, yw, wrth gwrs, y gost—cost y trydan. Ac yn y maes yna, cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw e i gyhoeddi cynllun sy'n gallu helpu'r sector gyda'r costau trydan. Llywodraeth y Deyrnas Unedig wnaeth gomisiynu'r adroddiad i ddechrau. Rhaid iddyn nhw fod yn atebol am beidio gweithredu argymhellion clir ei adroddiad nhw ei hunain.
Prif Weinidog, cadeiriais fforwm polisi yn ddiweddar. Roedd Tidal Lagoon Power yno ac yn siarad am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i annog busnesau i brynu ynni ganddyn nhw er mwyn rhoi dyfodol i'r prosiect morlynnoedd. Mae gwasanaeth caffael cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn cydweithio â sefydliadau cyhoeddus i ddefnyddio grym prynu cyfunol i sicrhau bargen dda i Gymru, boed hynny yn athrawon cyflenwi, yn danwydd, yn gyfrifiaduron neu'n frechdanau. Nawr, rydym ni'n gwybod bod y pris taro yn gwestiwn sydd wedi bygwth y prosiect hwn. Felly, sut gall y gwaith a wnaed ar y gwasanaeth caffael cenedlaethol yma ar brynu cyfunol helpu i ddadlau'r achos i sefydliadau y gallai fod yn werth da am arian prynu ynni o ffynhonnell ynni'r llanw fel morlyn llanw bae Abertawe?
Wel, Llywydd, rwy'n deall y pwynt y mae Suzy Davies yn ei wneud, ac rwyf i wedi clywed dadleuon yn cael eu gwneud gan y rhai sy'n rhan o'r cynllun yn Abertawe mai'r ffordd i ymdrin â methiant Llywodraeth y DU i gael dull contract gwahaniaeth o ymdrin â'r trydan a fydd yn cael ei gynhyrchu gan unrhyw forlyn yw rhannu cost hynny ymhlith nifer fawr o brynwyr sector cyhoeddus a phreifat y trydan hwnnw. Ac rwy'n deall y ddadl y maen nhw'n ei gwneud. Ond, siawns mai'r ateb gwirioneddol yw y dylai Llywodraeth y DU gydnabod mai prosiect arddangos oedd hwn i fod erioed, ei bod yn anochel mewn technolegau egin y byddai pris y trydan a gynhyrchir yn uwch nag y byddai fel arall yn y farchnad, ac, yn union fel yr oedd Llywodraethau blaenorol yn barod i'w wneud ym meysydd ynni'r haul a'r gwynt, bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i dariff ar gyfer ynni'r môr—nid dim ond technoleg morlyn llanw, ond ynni'r môr—sy'n caniatáu i'r technolegau newydd hynny gael eu ceisio ac, fel y byddem ni'n ei weld, i ffynnu yma yng Nghymru. Dyna'r ffordd iawn o'i wneud. Mae faint y gall rhannu'r gost ymhlith prynwyr sector cyhoeddus a phreifat yma yng Nghymru ei gyflawni yn gyfyngedig, a bydd, yn y diwedd, yn golygu y bydd yn rhaid i ddinasyddion Cymru ddarparu cymhorthdal i gost y dylai fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gyfrifol amdani o'r cychwyn.
Prif Weinidog, tynnodd Dai Lloyd sylw at y ffaith y gallai cynigion ynni'r morlyn llanw greu sector newydd o ddiwydiant ar draws rhanbarth de Cymru ac, yn amlwg, cefnogi diwydiannau eraill yno hefyd, gan gynnwys y gwaith dur ym Mhort Talbot. Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf am fethiant y fenter ar y cyd sy'n debygol o ddigwydd rhwng Tata a Thyssenkrupp, mae hyn yn bosibilrwydd erbyn hyn o sut y gallwn ni weld dur yn cael ei ddefnyddio o waith Port Talbot mewn prosiect a fyddai'n cynnig manteision nid yn unig i'r rhanbarth, ond i Gymru gyfan gydag ynni. A wnewch chi fynd yn ôl at Lywodraeth y DU felly gyda'r neges bod hwn yn bosibilrwydd o sut y gall Llywodraeth y DU helpu'r diwydiant dur, yn ogystal â'r morlyn llanw ac ynni'r llanw?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am wneud y pwynt pwysig yna, ac am fanteisio ar y cyfle, y gwn ei fod yn ei wneud pryd bynnag y caiff y cyfle hwnnw, i siarad ar ran y diwydiant dur ledled Cymru ac yn ei etholaeth ei hun. Nid oedd y ddadl o blaid y morlyn ynni'r llanw erioed yn ymwneud â'r nifer gymharol fach o swyddi a fyddai'n gysylltiedig â'r prosiect yn uniongyrchol—mae hwnnw'n bwynt y ceisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei wneud wrth geisio esgusodi penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun. Roedd y swyddi bob amser yn mynd i gael eu creu yn y cadwynau cyflenwi hynny a'r posibiliadau gweithgynhyrchu eraill hynny sy'n mynd law yn llaw â diwydiant newydd y gellir ei sefydlu yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, bydd potensial i ddur a gynhyrchir yng Nghymru gael ei ddefnyddio yn y gwaith adeiladu hwnnw. Ac rwy'n hapus iawn o wneud ymrwymiad i'r Aelod y byddwn ni'n ysgrifennu unwaith eto at Lywodraeth y DU, gan wneud y ddadl y mae newydd ei gwneud i mi, yn y cyd-destun newydd hwn.