Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl yng Nghymru sydd â hemoffilia yn cynnwys ffisiotherapi arbenigol, seicoleg, gwasanaethau cymdeithasol a mynediad at driniaethau diweddaraf. Hefyd, mae cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn darparu pecyn o fesurau ariannol a mesurau eraill ar gyfer pobl sydd wedi eu heffeithio gan waed heintiedig.