1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mai 2019.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl hemoffilig yng Nghymru, a'u teuluoedd? OAQ53881
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl yng Nghymru sydd â hemoffilia yn cynnwys ffisiotherapi arbenigol, seicoleg, gwasanaethau cymdeithasol a mynediad at driniaethau diweddaraf. Hefyd, mae cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn darparu pecyn o fesurau ariannol a mesurau eraill ar gyfer pobl sydd wedi eu heffeithio gan waed heintiedig.
Prif Weinidog, byddwch yn cydnabod, fel y mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn y fan yma yn ei wneud, bod y sgandal gwaed halogedig yn un o'r sgandalau mawr ac ofnadwy sydd wedi digwydd—mae'n rhaid cyfaddef, ymhell cyn datganoli, ond un lle mae etifeddiaeth gyda ni hyd heddiw. Byddwch yn falch hefyd, rwy'n siŵr, o groesawu cychwyn, o'r diwedd, yr ymchwiliad i waed halogedig, sydd wedi dechrau cael ei gynnal. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi hefyd yn croesawu'r gwaith y mae Julie Morgan wedi ei wneud gyda Hemoffilia Cymru, a chyda'r teuluoedd a'r dioddefwyr ledled Cymru, a'r gwaith y mae hi wedi ei wneud gyda'r grŵp trawsbleidiol. Ond, Prif Weinidog, wrth i'r ymchwiliad ddechrau, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth ariannol—tan iddi ddod i'r amlwg bod y pecyn ariannol hwnnw'n berthnasol i Loegr yn unig. Mae'n ymddangos bod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ôl-ystyriaeth ac nad ydynt wedi eu cynnwys ynddo, nad oes dim arian newydd, dim cyllid newydd, dim symiau canlyniadol newydd. Ac mae'n rhaid, Prif Weinidog, mai dyma un o'r gweithgareddau mwyaf creulon a byrbwyll gan Lywodraeth y DU—codi disgwyliadau a pheidio â rhoi unrhyw gymorth ariannol. Prif Weinidog, a wnewch chi bwyso ar Lywodraeth y DU yn gyntaf i sicrhau bod arian newydd—arian go iawn—i ariannu'r bobl hyn sy'n ei haeddu, a bod darpariaeth briodol i'r gweddwon? Ac a allwch chi hysbysu'r Siambr hon pa drafodaethau, pa gysylltiadau, yr ydych chi wedi eu cael gan Lywodraeth y DU, oherwydd maen nhw'n sicr yn ysgrifennu mewn gohebiaeth bod trafodaethau ar fin dechrau? Ac a wnewch chi hefyd drefnu i gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol—neu aelodau o'ch Llywodraeth i gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol—fel y gallan nhw gymryd rhan mewn unrhyw flaengynllunio, unrhyw broses o wneud penderfyniadau, ond hefyd i gael esboniad o ble'r ydym ni arni gyda'r ymchwiliad hwn a chyda'r mater o gymorth i ddioddefwyr?
Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig iawn yna? Gadewch i mi ddechrau trwy gytuno ag ef ein bod ni, wrth gwrs, yn croesawu sefydlu'r ymchwiliad, dan gadeiryddiaeth Syr Brian Langstaff. Rwy'n falch o allu dweud wrth y Siambr bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau statws cyfranogwr craidd yn yr ymchwiliad, sy'n rhoi hawliau mynediad ychwanegol at yr ymchwiliad i ni, ac mae'r ymchwiliad, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn bwriadu dod i Gymru ar 23 Gorffennaf a bydd yn treulio pedwar diwrnod yma yn cymryd tystiolaeth yn uniongyrchol gan y rhai yr effeithiwyd arnynt a'r rhai a heintiwyd yn y sgandal gwaed halogedig, a byddwn yn gwneud beth bynnag y gallwn fel Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl i wneud yn siŵr eu bod yn cael cyflwyno eu hachosion i'r ymchwiliad.
Ond i fynd at y pwynt penodol a godwyd gan yr Aelod, cynhaliwyd cyfarfod ar 21 Ionawr eleni, dan gadeiryddiaeth Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, pryd y cytunwyd bod angen dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan, gyda chydraddoldeb i bawb a gafodd eu heffeithio, ac roedd yr Alban, Cymru, a Gweinidogion y DU yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, a daethom o'r cyfarfod hwnnw ar ôl ymrwymo i'r cynnig hwnnw a gwneud ymdrechion i sicrhau mwy o gyfarfodydd y tu hwnt i 21 Ionawr. Fodd bynnag, ar 30 Ebrill—diwrnod cyntaf yr ymchwiliad i waed heintiedig—gwnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddiad unochrog o gyllid ychwanegol i gleifion yn Lloegr yn unig. Ni fu ymgynghoriad, ni chafwyd hysbysiad gweinidogol ymlaen llaw, ac roedd yn torri'r cytundeb a wnaed ar 21 Ionawr. Rydym ni wedi cael llythyr ers hynny gan is-Weinidog yn yr Adran Iechyd. Mae'n syfrdanu rhywun, a dweud y gwir, pan mae hi'n dweud wrthym, 'Rwy'n credu', meddai, 'y gallem ni i gyd elwa ar fwy o ddeialog a chydweithrediad ar y materion hyn'. Mae'n anghredadwy, a dweud y gwir, y gallai llythyr o'r fath gael ei anfon atom pan roedden nhw wedi gwneud yn union i'r gwrthwyneb. Mae'r ymgyrchwyr, yr elusennau a'r grwpiau ymgyrchu a fu'n rhan o'r cyfarfod ar 21 Ionawr wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU ers hynny yn dweud mai eu dealltwriaeth nhw oedd bod y trafodaethau hynny ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. 'Rydym ni'n tybio', meddent, 'bod y penderfyniad yn cynnwys gweinyddiaethau datganoledig ac wedi darganfod gyda chymysgedd o siomedigaeth, dicter a rhwystredigaeth nad yw hynny'n wir'.
Nawr, Llywydd, yn ystod degawd cyntaf datganoli, cydymffurfiodd y Llywodraeth ar lefel y DU yn gydwybodol â'r cytundeb bod unrhyw beth a oedd wedi digwydd cyn datganoli yn gost ar Lywodraeth y DU. Mae pethau sydd wedi digwydd ers datganoli, wrth gwrs, yn gost arnom ni yn y fan yma. Digwyddodd y sgandal gwaed halogedig ofnadwy flynyddoedd lawer iawn cyn datganoli ac mae'n ymddangos i mi bod y rheolau datganoli yn mynnu yn ddiamwys, os darperir arian gan Lywodraeth y DU i gleifion yn Lloegr, yna mae'n rhaid i'r un cymorth fod ar gael i gleifion ledled y Deyrnas Unedig, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw mewn modd mor egnïol ag y gallwn gyda Gweinidogion y DU.
Prif Weinidog, yn rhan o'r gwaith ar yr ymchwiliad sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru, a allech chi roi rhywfaint o eglurder, efallai, ynghylch pryd y gellid disgwyl i weithwyr fferyllol proffesiynol yng Nghymru ddarparu'r cynnyrch ffactor ailgyfunol a wnaed mewn labordy a dreialwyd, fel Fc-fusion, PEGylation ac ymasiad albwmin, a hefyd hysbysu pa waith y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud gyda chleifion yma yng Nghymru o ran cyfathrebu ynghylch sut y gallai'r cyffuriau hyn wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, ar 6 Mawrth, darparodd fy nghydweithiwr Vaughan Gething ddatganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad, yn cyflwyno pecyn teg a chynhwysfawr o gymorth ychwanegol i deuluoedd ac unigolion yma yng Nghymru. Rydym ni'n credu bod hynny wedi gwneud cryn dipyn i ymateb i bryderon y teuluoedd hynny. Rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod am y cwestiwn penodol ynghylch pryd y bydd gweithwyr fferyllol yn gallu darparu mathau newydd o therapi cyffuriau, ond rydym ni wedi bod yn trafod rhywbeth mwy sylfaenol na hynny yn y cwestiwn hwn. Rydym wedi bod yn trafod cymorth ariannol i bobl a heintiwyd gan fethiant ar ran y gwasanaeth iechyd gwladol bron i 40 mlynedd yn ôl a fydd yn caniatáu iddyn nhw fyw bywydau gweddus ar yr adeg hon yn eu bywydau, ac, er bod pethau eraill yr ydym ni eisiau eu gwneud, mae'r mater sylfaenol hwnnw'n haeddu sylw ar draws y Siambr hon.