Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Bydd fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yn ymgynghori ar gynllun gweithredu newydd ar gyfer bwyd yn ystod yr haf eleni. Bydd yn mynd i'r afael â chymhlethdodau cynhyrchion a defnydd bwyd, gan ganolbwyntio ar gyflwyno dewisiadau bwyd diogel ac iach, lles anifeiliaid ac adfer yr amgylchedd.